Cynllun Llywodraeth y Deyrnas Unedig i rwystro pornograffi rhyngrwyd

Oddi ar Wicipedia

Cynllun y Llywodraeth Lafur (2010)[golygu | golygu cod]

Daeth cynllun Llywodraeth y Deyrnas Unedig i rwystro pornograffi rhyngrwyd i'r amlwg am y tro cyntaf mewn cyfweliad gydag Ed Vaizey, Gweinidog Busnes, Cyfnewidiad a Sgiliau Llywodraeth y DU, a gyhoeddwyd yn The Sunday Times ar 19 Rhagfyr 2010. Dan y cynllun arfaethedig byddai disgwyl i Gyflenwyr Gwasanaeth Rhyngrwyd (CGRhau / ISPau) yn y DU rwystro mynediad at wefannau pornograffi i bawb yn y DU yn ddiofyn. Byddai rhaid i unrhyw rai a ddymunai gael mynediad at ddelweddau a fideos pornograffig wneud cais penodol am hynny i'w CGRhau a phrofi eu bod 18 oed neu'n hŷn.[1][2][3]

Yn ôl Ed Vaizey, roedd yn bwysig bod y CGRhau yn darganfod ffyrdd i amddiffyn plant rhag gweld pornograffi ar y rhyngrwyd. Awgrymodd fod y llywodraeth yn ystyried deddfu os nad oedd y CGRhau eu hunain yn barod i gymryd camrau: "I'm hoping they will get their acts together so we don't have to legislate, but we are keeping an eye on the situation and we will have a new communications bill in the next couple of years."[1]

Llugoer fu ymateb y CGRhau ar y dechrau. Dywedwyd bod gan y CGRhau eu cynlluniau eu hunain mewn lle yn barod sy'n caniatau i rieni rwsytro eu plant rhag gweld pornograffi ar y we trwy ddewis ffiltr rhieni. Dywedodd llefarydd ar ran Ispa, y corff sy'n cynrychioli CGRhau'r DU, "Ispa firmly believes that controls on children's access to the internet should be managed by parents and carers with the tools ISPs provide, rather than being imposed top-down."[1] Yn ôl Trefor Davies, prif swyddog technoleg Timico, ni fyddai'n bosibl rhwystro pob enghraifft o bornograffi "am resymau technegol".[1]

Ofnau am agor y drysau i sensoriaeth ehangach[golygu | golygu cod]

Dywedodd Trefor Davies, prif swyddog technoleg Timico, y gallai cynllun o'r fath gael ei ehangu i gynnwys copïau "peirat" o ganeuon pop a ffilmiau. Ychwanegodd "If we take this step it will not take very long to end up with an internet that's a walled garden of sites the governments is happy for you to see."[1] Dywedodd llefarydd ar ran yr Open Rights Group, sy'n ymgyrchu dros hawliau digidol, "This is not about pornography, it is about generalised censorship through the back door. This is the wrong way to go. If the government controlled a web blacklist, you can bet that Wikileaks would be on it."[1]

Cynllun y Llywodraeth Glymblaid (2013)[golygu | golygu cod]

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]