Llenyddiaeth Iddew-Almaeneg yr Unol Daleithiau
Y wasg (1885–1945)
[golygu | golygu cod]Y wasg boblogaidd oedd prif gyfrwng diwylliannol y mewnfudwyr Iddew-Almaeneg i Unol Daleithiau America yn niwedd y 19g a dechrau'r 20g. Yn 1914, cyhoeddid pum papur newydd dyddiol yn Ninas Efrog Newydd yn yr iaith, yn ogystal â chyfnodolion wythnosol a misol. Yn ogystal â rhoi'r newyddion ac hysbysu am gyfleoedd i ymwneud â'r diwylliant Iddew-Almaeneg, buont yn cyhoeddi llên boblogaidd megis barddoniaeth, straeon difyr ac anecdotau, llythyrau at y golygydd, ryseitiau a chyngor y cartref, croeseiriau, a chartwnau. Ymddangosodd ffuglen hir fesul rhifyn, gweithiau gwreiddiol a chyfieithiadau o glasuron llenyddiaeth y byd, ac un genre boblogaidd oedd y shund-romanen (nofel gyffrous).[1] Un o'r prif gyhoeddiadau oedd Yidishes Tageblat, y papur newydd dyddiol Iddew-Almaeneg cyntaf yn y byd.
Barddoniaeth (1880au–1945)
[golygu | golygu cod]Yn niwedd y 19g, beirdd y slafdai, fel y'i gelwir, oedd y cyntaf i fynegi stad y mewnfudwyr tlodion a'u trafferthion wrth ymaddasu i'r ffordd Americanaidd o fyw. Yn eu plith oedd Morris Rosenfeld (1862–1923) o Wlad Pwyl, teiliwr wrth ei grefft a gafodd brofiad o'r amodau garw mewn gweithdai dillad Efrog Newydd, a Morris Winchevsky (1856–1932) o Lithwania, a fu hefyd yn newyddiadurwr sosialaidd a gyhoeddai sawl papur newydd adain-chwith yn yr Iddew-Almaeneg. Rhoddir yr enw "Beirdd Proletaraidd" ar Winchevsky, Rosenfeld, David Edelstadt (1866–92), a Joseph Bovshover (1873–1915), am eu bod i gyd yn cyfansoddi cerddi am y dosbarth gweithiol Iddewig, gydag agenda radicalaidd o'i blaid.[2]
Ar droad y ganrif, daeth sawl ysgol farddonol arall i'r amlwg. Canolbwyntiai'r mudiad Yiddishkeit ("Iddewigrwydd") ar draddodiad ac hunaniaeth Iddewig yn y byd modern. Un o ladmeryddion yr hwnnw oedd Abraham Reisen (1876–1953), a ymsefydlodd yn Efrog Newydd ym 1914, awdur nifer o straeon byrion sydd yn portreadu'r amryw wrthdaro beunyddiol mewn bywydau'r Iddewon tlodion. Y ddwy brif ysgol o feirdd modernaidd oedd Di Yunge ("Yr Ieuenctid") ac In Zich ("Ynddo'i Hun") neu Di Inzikhistn ("Y Mewnsyllwyr"). Pwysleisiwyd symbolaeth mewn barddoniaeth Di Yunge, er enghraifft gwaith Moyshe-Leyb Halpern (1886–1932). Sefydlwyd y mudiad In Zikh yn sgil ysgrifennu'r maniffesto Introspektivizm gan Jacob Glatstein (1896–1971), N. B. Minkoff (1893–1958), ac Aaron Glanz-Leyeles (1889–1966) a chyhoeddi'r flodeugerdd In Zikh, A Zamlung Introspektive Lider (1920). Glatstein oedd golygydd In zikh (1920–39), prif gylchgrawn y garfan hon o feirdd modernaidd.
Rhyddiaith (1880au–1945)
[golygu | golygu cod]Ymhlith yr awduron straeon byrion yn niwedd y 19g a dechrau'r 20g oedd Leon Kobrin (1873–1946), Isaac Leib Peretz (1852–1915), Sholem Asch (1880–1957), ac Sholem Aleichem (1859–1916).
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Jeffrey Shandler, "Yiddish" yn Encyclopedia of Jewish American Popular Culture, golygwyd gan Jack R. Fischel a Susan M. Ortmann (Westport, Connecticut: Greenwood Press, 2009), t. 450.
- ↑ Sostene Zangari, "Yiddish" yn Multicultural America cyfrol 4, golygwyd gan Carlos E. Cortés a Jane E. Sloan (Los Angeles: SAGE, 2013), tt. 2213–4.