Y wasg Iddew-Almaeneg yn yr Unol Daleithiau

Oddi ar Wicipedia
Y wasg Iddew-Almaeneg yn yr Unol Daleithiau
Rhifyn Der Morgen Zshurnal o 26 Awst 1947.

Blodeuai'r wasg Iddew-Almaeneg yn Unol Daleithiau America yn bennaf yn niwedd y 19g a dechrau'r 20g, fel prif gyfrwng diwylliannol yr Iddewon Ashcenasi a ymfudasant o Ddwyrain a Chanolbarth Ewrop yn y cyfnod hwnnw, a chwareai rôl sylweddol ym mywyd diwylliannol a chymdeithasol y mewnfudwyr a'r cymunedau Iddewig-Americanaidd newydd. Daeth i gynnwys nifer o bapurau newydd, cylchgronau, a chyfnodolion, gan gynnwys sawl papur dyddiol, a gyhoeddwyd yn y dinasoedd mawrion a chanddynt gymunedau Iddewig sylweddol, yn bennaf Dinas Efrog Newydd ac hefyd Chicago, Philadelphia, a Boston.

Ffynhonnell hanfodol o wybodaeth, adloniant, a thrafodaeth a mynegiant gwleidyddol i ddarllenwyr Iddew-Almaeneg oedd y wasg. Yn ogystal â rhoi'r newyddion ac hysbysu am gyfleoedd i ymwneud â'r diwylliant Iddew-Almaeneg, buont yn cyhoeddi llên boblogaidd megis barddoniaeth, straeon difyr ac anecdotau, llythyrau at y golygydd, ryseitiau a chyngor y cartref, croeseiriau, a chartwnau. Ymddangosodd ffuglen hir fesul rhifyn, gweithiau gwreiddiol a chyfieithiadau o glasuron llenyddiaeth y byd, ac un genre boblogaidd oedd y shund-romanen (nofel gyffrous).[1]

Nid oedd y wasg Iddew-Almaeneg yn gyfyngedig i Efrog Newydd, ond heb os yno oedd prif ganolfan yr Iddewon yn yr Unol Daleithiau. Serch, cysylltwyd cymunedau o fewnfudwyr Iddewig mewn dinasoedd a threfi eraill drwy ddarllen y wasg, a magwyd undod a chyd-ddiwylliant Iddewig-Americanaidd newydd ar dudalennau'r papurau newydd Iddew-Almaeneg.

Yng nghanol yr 20g dirywiodd pwysigrwydd a niferoedd darllenwyr y wasg Iddew-Almaeneg wrth i'r cenedlaethau iau gymhathu â chymdeithas y prif ffrwd Americanaidd a byw yn y Saesneg. Er gwaethaf, cydnabyddir y wasg Iddew-Almaeneg o hyd yn elfen bwysig o hanes yr Iddewon yn yr Unol Daleithiau, a'i hanterth yn oes lewyrchus o ddiwylliant Iddew-Almaeneg yn y byd modern.

Hanes[golygu | golygu cod]

Y papur newydd Iddew-Almaeneg cyntaf i'w gyhoeddi yn yr Unol Daleithiau o unrhyw fath oedd Di Arbeter Tsaytung ("Papur Newydd y Gweithwyr") a sefydlwyd yn Efrog Newydd ym 1884. Anelodd at y mudiad llafur a sosialwyr yn bennaf, gan gynnig modd i drafod hawliau gweithwyr a chyfiawnder cymdeithasol.

Ym 1885 sefydlodd K. H. Sarasohn Yidishes Tageblat, yn Efrog Newydd. O 1894 i 1928, fe'i argraffwyd pob dydd, ac eithrio'r Sadwrn, a dyma felly oedd y papur newydd dyddiol cyntaf yn y byd yn Iddew-Almaeneg. Dan olygyddiaeth Johann Paley, o 1892 ymlaen, daeth Yidishes Tageblat yn hynod o ddylanwadol yng nghymuned Iddewig Efrog Newydd ac yn llais dros draddodiadau Uniongred ac yn hyrwyddo llên a diwylliant drwy gyfrwng yr Iddew-Almaeneg. Safbwynt gwrth-sosialaidd oedd gan yr erthygl olygyddol, a liniarwyd yn ddiweddarach yn ystod yr oes flaengar yng ngwleidyddiaeth yr Unol Daleithiau.

Ym 1897 sefydlwyd y papur newydd Forverts gan Abraham Cahan. Cyhoeddiad gyda thuedd sosialaidd ydoedd yn y dechrau, ond yn fuan daeth yn hynod o boblogaidd ac yn eicon o ddiwylliant Iddewig Efrog Newydd yn nechrau'r 20g. Argraffai erthyglau am amrywiad eang o bynciau, gan gynnwys newyddion, llenyddiaeth, a diwylliant yn ogystal â gwleidyddiaeth flaengar a materion cymdeithasol, o safbwynt Iddewig ac hefyd â golwg gyffredinol ar y byd.

Datblygodd gwasg luosogol yn nechrau'r 20g, gan gynnwys papurau newydd yn ymwneud â phob math o ideolegau gwleidyddol, enwadau crefyddol, a grwpiau diwylliannol yn y gymuned Iddewig. Sefydlwyd Der Morgen Zshurnal yn 1901 gan Jacob Saphirstein, gyda phwyslais ar newyddion a gwleidyddiaeth, a fe'i argraffwyd pob dydd, ac eithrio'r Sadwrn. Hwn oedd un o'r cyhoeddiadau Iddew-Almaeneg hiraf ei oes: llyncodd yr Yidishes Tageblat ym 1928, a chyfunodd ym 1953 â Der Tog (papur sosialaidd a sefydlwyd ym 1914) dan yr enw newydd Der Tog Morgen Zshurnal cyn iddo ddod i ben ym 1971. Papur hirhoedlog arall oedd Di Tsayt, a gyhoeddwyd o 1911 i 1978. Ym 1914, cyhoeddid pum papur newydd dyddiol yn Efrog Newydd yn yr iaith, yn ogystal â chyfnodolion wythnosol a misol.[1]

Yn ogystal â phapurau newydd, argraffwyd cylchgronau a chyfnodolion yn cynnwys barddoniaeth, straeon byrion, ysgrifau, a beirniadaeth. Ymhlith y cylchgronau poblogaidd oedd Yugntruf, Di Goldene Keyt, ac In Zikh.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Jeffrey Shandler, "Yiddish" yn Encyclopedia of Jewish American Popular Culture, golygwyd gan Jack R. Fischel a Susan M. Ortmann (Westport, Connecticut: Greenwood Press, 2009), t. 450.