Abraham Cahan

Oddi ar Wicipedia
Abraham Cahan
Ganwyd7 Gorffennaf 1860 Edit this on Wikidata
Paberžė Edit this on Wikidata
Bu farw31 Awst 1951 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, gwleidydd, nofelydd Edit this on Wikidata

Newyddiadurwr a ffuglennwr yn yr ieithoedd Iddew-Almaeneg a Saesneg a gwleidydd sosialaidd o Ymerodraeth Rwsia a ymfudodd i Unol Daleithiau America oedd Abraham Cahan (7 Gorffennaf 186031 Awst 1951) sydd yn nodedig am sefydlu a golygu am 40 mlynedd y papur newydd Iddew-Almaeneg Forverts.

Ganed ef yn Vilna, Ymerodraeth Rwsia (bellach Vilnius, Lithwania), ac ymfudodd i'r Unol Daleithiau ym 1882. Treuliodd chwe mlynedd yn gweithio mewn ffatri sigarau ac yn dysgu'r Saesneg, a chafodd ddigon o grap ar yr iaith i ddechrau darlithio ac ysgrifennu trwy ei chyfrwng. Sefydlodd y papur newydd Forverts yn Efrog Newydd ym 1897 a daeth yn olygydd yr hwnnw ym 1902. Sosialydd pybyr ydoedd, ac yn wrth-gomiwnydd a mynegai'r syniadaeth honno yn Forverts. Gweithiodd Cahan hefyd i drefnu undebau llafur, yn enwedig yn y diwydiant dillad a oedd yn cyflogi nifer o Iddewon Efrog Newydd.[1]

Nofel bwysicaf Cahan yw The Rise of David Levinsky (1917), un o'r llyfrau cyntaf am brofiad y mewnfudwr Iddewig i Efrog Newydd. Bu farw Abraham Cahan yn Efrog Newydd yn 91 oed.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Abraham Cahan. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 19 Mehefin 2023.