Aaron Glanz-Leyeles

Oddi ar Wicipedia
Aaron Glanz-Leyeles
Ganwyd5 Mawrth 1889 Edit this on Wikidata
Włocławek Edit this on Wikidata
Bu farw30 Rhagfyr 1966 Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata

Bardd, ysgrifwr beirniad llenyddol, golygydd, a chyfieithydd Pwylaidd-Americanaidd, yn yr iaith Iddew-Almaeneg, oedd Aaron Glanz-Leyeles (18891966). Cyhoeddodd ei farddoniaeth yn bennaf dan yr enw A. Leyeles, a'i ryddiaith dan yr enw A. Glanz.[1]

Ganed ef yn Włocławek yng Ngwlad Pwyl y Gyngres, a fu dan reolaeth Ymerodraeth Rwsia. Mynychodd ysgol y talmwd tora, dan hyfforddiant ei dad, yn Łódź, ac astudiodd lenyddiaeth ym Mhrifysgol Llundain o 1905 i 1908 ac, wedi iddo ymfudo i Efrog Newydd ym 1909, ym Mhrifysgol Columbia o 1910 i 1913. Gweithiodd yn athro mewn ysgolion Iddew-Almaeneg a darlithiodd ar lenyddiaeth yr iaith honno. Golygai sawl cyfnodolyn Iddew-Almaeneg, a chyfrannai erthyglau ar bynciau llenyddol, cymdeithasol, a gwleidyddol i bapur newydd Der Tog am hanner can mlynedd a mwy.[1]

Cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, Labirint, ym 1918. Ym 1919, sefydlodd Glanz-Leyeles, Jacob Glatstein, a N. B. Minkoff y mudiad In Zikh, tueddiad modernaidd mewn barddoniaeth Iddew-Almaeneg yr Unol Daleithiau a daenai ar led drwy gyfrwng y cylchgrawn In Zikh. Mae ei ail gasgliad o gerddi, Yungharbst (1922), yn esiamplau o ysbryd In Zikh. Ymhlith ei gyfrolau eraill o farddoniaeth mae Rondos un Andere Lider (1928), Tsu Dir – tsu Mir (1933), yr hunangofiant mydryddol Fabius Lind (1937), ei ymateb i'r Holocost A Yid Oyfn Yam (1947), Baym Fus Fun Barg (1957), a'i deyrnged i Americaniaeth Amerike un Ikh (1963).[1]

Arbrofai hefyd gyda'r ddrama fydryddol, a derbyniodd glod am Shlomo Molkho (1926), hanes David Reubeni a Solomon Molcho, dau Feseia honedig o'r 16g. Ystyriwyd bod Glanz-Leyeles yn lleisio ei gefnogaeth i'r mudiad y Tiriogaetholwyr Iddewig, a fu'n gweithredu dros wladwriaeth i'r Iddewon y tu allan i'r Tir Sanctaidd. Mae ei ail ddrama, Asher Lemlen (1928), yn ymwneud â'r gwrthdaro rhwng hiraeth yr Iddewon am y Meseia a'u bywydau gwleidyddol a chymdeithasol. Cyflawnai Glanz-Leyeles gyfieithiadau o'r ieithoedd Saesneg, Rwseg, a Phwyleg i'r Iddew-Almaeneg, gan gynnwys gweithiau o Edgar Allan Poe. Cesglid ysgrifau beirniadol gwychaf Glanz-Leyeles yn y gyfrol Velt un Vort (1958).[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 (Saesneg) Sol Liptzin ac Anita Norich, "Glanz-Leyeles, Aaron" yn Encyclopaedia Judaica. Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 6 Rhagfyr 2021.