Neidio i'r cynnwys

Jacob Glatstein

Oddi ar Wicipedia
Jacob Glatstein
Ganwyd20 Awst 1896 Edit this on Wikidata
Lublin Edit this on Wikidata
Bu farw19 Tachwedd 1971 Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, newyddiadurwr, bardd Edit this on Wikidata

Bardd, nofelydd, awdur straeon byrion, a beirniad llenyddol Pwylaidd-Americanaidd yn yr iaith Iddew-Almaeneg oedd Jacob Glatstein neu Yankev Glatshteyn (20 Awst 189619 Tachwedd 1971).

Ganed yn Lublin, Teyrnas Gyngresol Pwyl, a oedd yn wladwriaeth byped i Ymerodraeth Rwsia. Cafodd ei annog gan ei dad i ddarllen llenyddiaeth Iddew-Almaeneg, ac yn ei ieuenctid ymwelodd Jacob â'r dramodydd a storïwr o fri I. L. Peretz yn Warsaw. Yn sgil trais yn erbyn yr Iddewon yng Ngwlad Pwyl, perswadiodd Jacob ei rieni i ganiatáu iddo ymfudo i Unol Daleithiau America yn 1914.[1] Astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Efrog Newydd,[2] a bu'n byw yn Efrog Newydd am weddill ei oes.[1]

Cyhoeddodd Glatstein ei waith cyntaf yn Iddew-Almaeneg, y stori fer "Di Geferlekhe Froy", yn y cylchgrawn anarchaidd Fraye Arbeter Shtime.[1] Cyhoeddodd ei farddoniaeth gyntaf yn y gyfrol Poezye (1919).[2] Sefydlwyd y mudiad llenyddol In Zikh neu Di Inzikhistn yn sgil ysgrifennu'r maniffesto Introspektivizm gan Jacob Glatstein, N. B. Minkoff, ac Arn Glanz-Leyeles a chyhoeddi'r flodeugerdd In Zikh, A Zamlung Introspektive Lider (1920).[1] Glatstein oedd golygydd In zikh (1920–39), cylchgrawn i farddoniaeth fodernaidd y mudiad. Cyhoeddodd nifer o gerddi rhydd, naturiolaidd ei hun yn In zikh, sydd yn arbrofi â rhythmau ieithyddol a chwarae ar eiriau yn yr Iddew-Almaeneg, a hynny gyda thechneg draethiadol llif yr ymwybod dan ddylanwad damcaniaethau seicdreiddiad. Ei gyfrol Yankev Glatshteyn (1921) oedd y casgliad cyntaf o farddoniaeth rydd yn yr iaith Iddew-Almaeneg.[2] Yn y 1920au a'r 1930au cyhoeddodd 100 a mwy o straeon byrion, yn arddull Guy de Maupassant ac Abraham Reisen, dan y ffugenw Y. Yungman yn y papur newydd dyddiol Der Morgen Zshurnal.[1]

Yn niwedd y 1930au, trodd Glatstein at farddoniaeth yn galaru difancoll y diwylliant Iddewig traddodiadol yn Nwyrain Ewrop, er enghraifft yn ei gerdd "A gute nakht, velt" (1938). Yn ystod ei yrfa lenyddol, cyhoeddodd Glatstein 12 o gasgliadau o'i gerddi, dwy nofel hunangofiannol (Ven Yash iz geforen, 1938; Ven Yash iz gekumen, 1940), nofel i bobl ifanc (Emil un Karl, 1940), a chyfrol ôl-syllol o'i farddoniaeth Fun mayn gantser mi (1956). Bu hefyd yn golofnydd ac yn feirniad i Der Morgen Zshurnal ac ysgrifennodd y golofn "In tokh genumen" i Yiddisher kemfer, cylchgrawn wythnosol y mudiad Seioniaeth Lafur, o 1945 i 1957. Bu farw yn Ninas Efrog Newydd yn 75 oed.[2]

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]

Casgliadau o gerddi

[golygu | golygu cod]
  • Poezye (1919).
  • Yankev Glatshteyn (1921).
  • Fraye ferzn (1926).
  • Kredos (1929).
  • Yidishtaytshn (1937).
  • Gedenklider (1943).
  • Shtralendike yidn (1946).
  • Dem tatns shotn (1953).
  • Di freyd fun yidishn vort (1961).
  • A Yid fun Lublin (1966).

Nofelau

[golygu | golygu cod]
  • Ven Yash iz geforen (1938).
  • Ven Yash iz gekumen (1940).
  • Emil un Karl (1940).
  • In tokh genumen, y gyfrol gyntaf (1947).
  • In tokh genumen, yr ail gyfrol (1956).
  • Fun mayn gantser mi (1956).
  • In tokh genumen, y drydedd gyfrol (1960).
  • Mit mayne fartogbikher (1963).
  • Oyf greyte temes (1967).

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 (Saesneg) "GLATSTEIN (Gladstone), JACOB" yn Encyclopaedia Judaica. Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 25 Mawrth 2020.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 (Saesneg) Jacob Glatstein. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 25 Mawrth 2020.