Sholem Asch
Sholem Asch | |
---|---|
Ganwyd | 1 Tachwedd 1880, 1 Ionawr 1880 Kutno |
Bu farw | 10 Gorffennaf 1957 Llundain |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America, Gwlad Pwyl, Israel, Ymerodraeth Rwsia |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, nofelydd |
Arddull | stori fer, nofel, drama |
Plant | Moses Asch, Nathan Asch |
Perthnasau | Menachem Mendel Szpiro |
Gwobr/au | Gwobr Llyfr Anisfield-Wolf |
Llenor Iddewig a ymfudodd o Wlad Pwyl i'r Unol Daleithiau oedd Sholem Asch (1 Tachwedd 1880 – 10 Gorffennaf 1957) sy'n nodedig am ei nofelau, dramâu, a straeon byrion yn yr iaith Iddew-Almaeneg.
Ganed i deulu mawr o Iddewon tlawd yn Kutno yng nghanolbarth Gwlad Pwyl, Ymerodraeth Rwsia. Mynychodd yr ysgol Hebraeg yn Kutno. Symudodd i Warsaw yn 1899 a chyhoeddodd ei stori gyntaf, yn Hebraeg, yn 1900. Ar gyngor yr awdur I. L. Peretz, penderfynodd Sholem ysgrifennu drwy gyfrwng yr Iddew-Almaeneg yn unig. Ei waith cyntaf i'w gyhoeddi yn yr iaith honno oedd y nofel Dos Shtetl (1905). Mae ei straeon a dramâu o'r cyfnod hwn yn ymwneud â bywyd trasicomig y shtetl a'r gwrthdaro rhwng y traddodiadau Iddewiaeth a'r mudiad i ryddfreinio'r Iddewon.
Ymwelodd Asch â'r Unol Daleithiau yn 1910, a symudodd yno i fyw yn 1914. Derbyniodd ddinasyddiaeth Americanaidd yn 1920. Fel aelod newydd o gymuned Iddew-Almaeneg yr Unol Daleithiau, ysgrifennodd sawl nofel am brofiadau diwylliannol ac economaidd mewnfudwyr Iddewig o Ddwyrain Ewrop. Dychwelodd yn aml i Ewrop ac aeth ar sawl taith i Balesteina. Yng nghyfnod olaf ei yrfa, ceisiodd uno themâu a syniadau Iddewig a Christnogol yn ei ffuglen. Cafodd ei gondemnio gan rai o'i gyfoedion am ei ymdriniaeth o grefydd yn ei waith. Treuliodd ei flynyddoedd olaf yn Bat Yam, Tel Aviv, Israel. Bu farw yn Llundain yn 76 oed.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Sholem Asch. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 13 Tachwedd 2019.
- Genedigaethau 1880
- Marwolaethau 1957
- Dramodwyr yr 20fed ganrif o Wlad Pwyl
- Dramodwyr yr 20fed ganrif o'r Unol Daleithiau
- Dramodwyr Iddew-Almaeneg o Wlad Pwyl
- Dramodwyr Iddew-Almaeneg o'r Unol Daleithiau
- Llenorion Hebraeg o Wlad Pwyl
- Llenorion Hebraeg o'r Unol Daleithiau
- Llenorion Iddewig o Wlad Pwyl
- Llenorion Iddewig o'r Unol Daleithiau
- Llenorion o Ymerodraeth Rwsia
- Nofelwyr yr 20fed ganrif o Wlad Pwyl
- Nofelwyr yr 20fed ganrif o'r Unol Daleithiau
- Nofelwyr Iddew-Almaeneg o Wlad Pwyl
- Nofelwyr Iddew-Almaeneg o'r Unol Daleithiau
- Pobl fu farw yn Llundain
- Ymfudwyr o Ymerodraeth Rwsia i'r Unol Daleithiau
- Ymfudwyr o'r Unol Daleithiau i Israel