Sholem Aleichem
Sholem Aleichem | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
Шолом Нохумович Рабинович ![]() 18 Chwefror 1859 (in Julian calendar), 5 Mawrth 1859 ![]() Pereiaslav ![]() |
Bu farw |
13 Mai 1916 ![]() Achos: diciâu ![]() Dinas Efrog Newydd ![]() |
Dinasyddiaeth |
Ymerodraeth Rwsia, Unol Daleithiau America ![]() |
Galwedigaeth |
dramodydd, ysgrifennwr ![]() |
Perthnasau |
Bel Kaufman ![]() |
Gwefan |
http://sholemaleichem.org/ ![]() |
Nofelydd, awdur straeon byrion, a dramodydd Rwsiaidd yn yr ieithoedd Iddew-Almaeneg, Rwseg, ac Hebraeg oedd Sholem Aleichem, ffugenw am Solomon Naumovich Rabinovich (2 Mawrth [18 Chwefror yn yr Hen Ddull] 1859 – 13 Mai 1916) sydd yn nodedig am ei ffuglen boblogaidd a digrif sydd yn ymdrin â bywyd yr Iddewon yn y shtetl. Fe'i ystyrir yn un o'r llenorion gwychaf yn llenyddiaeth Iddew-Almaeneg, ac ef oedd yr awdur cyntaf i ysgrifennu i blant drwy gyfrwng yr Iddew-Almaeneg. Cyhoeddodd mwy na 40 o gyfrolau o nofelau, straeon byrion, a dramâu Iddew-Almaeneg, yn ogystal â gweithiau eraill yn Rwseg a Hebraeg.[1]
Ganed yn Pereiaslav, Ymerodraeth Rwsia (bellach yr Wcráin). Bu'n llenydda ers ei arddegau, a gweithiodd yn diwtor preifat yn yr iaith Rwseg yn 17 oed. Ysgrifennodd ei erthyglau ac ysgrifau cynnar yn Rwseg ac yn Hebraeg. Yn ddiweddarach gwasanaethodd yn "rabi swyddogol", sef cofiadur y gymuned Iddewig, yn nhref Lubny. Yno dechreuodd ysgrifennu drwy gyfrwng yr Iddew-Almaeneg, ac yn 1883 cyhoeddodd ei stori gyntaf yn yr iaith honno. Defnyddiodd Aleichem ffortiwn ei wraig i hyrwyddo llenorion Iddew-Almaeneg ac i olygu a chyhoeddi'r blwyddlyfr Di yidishe folks-bibliotek (1888–89; "Y Werin-Lyfrgell Iddewig"), ond collodd ran fawr o'r arian mewn methiannau busnes.[1] Ei gymeriad enwocaf yw Tevye y llaethmon.
Dechreuodd Sholem Aleichem deithio yn 1906. Ymsefydlodd ei deulu yn y Swistir ac aeth ar dro yn darlithio ar draws Ewrop ac Unol Daleithiau America. Treuliodd ddeng mlynedd olaf ei oes yn Efrog Newydd, ac enillodd y llysenw "y Mark Twain Iddewig" yn yr Unol Daleithiau wedi i nifer o'i weithiau gael eu cyfieithu i'r Saesneg. Bu farw yn Efrog Newydd yn 57 oed.[1]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Sholem Aleichem. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 20 Mawrth 2020.
- Dramodwyr Rwsiaidd y 19eg ganrif
- Dramodwyr Rwsiaidd yn yr iaith Iddew-Almaeneg
- Genedigaethau 1859
- Llenorion straeon byrion Rwsiaidd y 19eg ganrif
- Llenorion straeon byrion Rwsiaidd yn yr iaith Iddew-Almaeneg
- Llenorion o Ymerodraeth Rwsia
- Marwolaethau 1916
- Nofelwyr Rwsiaidd y 19eg ganrif
- Nofelwyr Rwsiaidd yn yr iaith Iddew-Almaeneg
- Ysgrifwyr a thraethodwyr Rwsiaidd y 19eg ganrif
- Ysgrifwyr a thraethodwyr Rwsiaidd yn yr iaith Hebraeg
- Ysgrifwyr a thraethodwyr Rwsiaidd yn yr iaith Rwseg