Iddewon Ashcenasi
| Enghraifft o: | grŵp ethnig, Jewish community |
|---|---|
| Math | Iddewon |
| Mamiaith | Iddew-almaeneg, saesneg, hebraeg, rwseg |
| Poblogaeth | 8,000,000 |
| Crefydd | Iddewiaeth, anffyddiaeth |
| Rhan o | Iddewon |
| Yn cynnwys | history of the Jews in Lithuania, history of the Jews in Poland, history of the Jews in Ukraine, history of the Jews in Germany, history of the Jews in Russia, history of the Jews in France |
| Enw brodorol | אידן |
| Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America, Israel, Rwsia, Wcráin, yr Undeb Ewropeaidd, Belarws |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/013b6_ |
| Thesawrws y BNCF | 39741 |
Grŵp ethnig a ddatblygodd drwy gyfuniad o gymunedau'r Iddewon ar wasgar yng ngogledd-ddwyrain Ffrainc a'r Rheindir yn y 10g yw'r Iddewon Ashcenasi[1] neu Iddewon Ashcenasig[2] (Hebraeg: יְהוּדֵי אַשְׁכְּנַז trawslythreniad: Yehudei Ashkenaz, Iddew-Almaeneg: אַשכּנזישע ייִדן Ashkenazishe Yidn), neu Ashcenasim[1] (אַשְׁכְּנַזִּים) yn y ffurf luosog Hebraeg. Ymfudasant i'r dwyrain yn oes y Croesgadau o'r 11g i'r 13g, gan groesi'r Ymerodraeth Lân Rufeinig ac ymsefydlu yn Nwyrain Ewrop yn bennaf, ar draws Gwlad Pwyl, Lithwania, a Rwsia. Yn y cyfnod hwn datblygodd yr Iddew-Almaeneg—iaith draddodiadol yr Ashcenasim—o'r Uchel Almaeneg gydag elfennau ieithyddol Iddewig, gan gynnwys yr wyddor Hebraeg. Ystyr Yehudei Ashkenaz yw "Iddewon Germania"; dros amser defnyddiwyd yr enw hwn i gyfeirio at yr Iddewon a ddefnyddiodd y ddefod Almaenig yn y synagog, mewn cyferbyniad â'r Seffardim yn Iberia a ddefnyddiodd y ddefod Sbaenaidd.[3]
Yn sgil yr erledigaethau gwrth-Iddewig yn Nwyrain Ewrop yn yr 17g, ffoes nifer o Iddewon Ashcenasi i Orllewin Ewrop, gan gymhathu i'r cymunedau Iddewig a oedd ohoni yn y gwledydd hynny. Ymfudodd niferoedd mawr ohonynt i Unol Daleithiau America, Canada, a gwledydd eraill yn niwedd y 19g a dechrau'r 20g, yn aml o ganlyniad i'r pogromau yn Ymerodraeth Rwsia. Llofruddiwyd miliynau o Iddewon Ashcenasi yn ystod yr Holocost. Yn yr 21g, mae'r Ashcenasim—tua 11 miliwn ohonynt—yn cyfri am fwy nag 80 y cant o'r holl Iddewon yn y byd. Yn Israel, mae cynifer o Ashcenasi â Seffardim yn y boblogaeth, mwy neu lai.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Geiriadur yr Academi, "Ashkenazi".
- ↑ Geiriadur yr Academi, "Ashkenazic".
- ↑ Sean Martin, "Ashkenazic Jews" yn Ethnic Groups of Europe: An Encyclopedia, golygwyd gan Jeffrey E. Cole (Santa Barbara, Califfornia: ABC-CLIO, 2011), tt. 19–23.