Vaudeville

Oddi ar Wicipedia
Vaudeville
Poster o 1894 ar gyfer y Sandow Trocadero Vaudevilles, gan ddangos dawnswraig, clown, trapiswr, jyglwr, cŵn gwneud campau, ac actorion a chantorion mewn gwisgoedd.
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o theatr Edit this on Wikidata
Maththeatre, variety Edit this on Wikidata
Olynwyd ganBwrlésg Edit this on Wikidata
Yn cynnwysvaudeville Edit this on Wikidata
OlynyddBwrlésg Edit this on Wikidata
Enw brodorolvaudeville Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Genre o theatr amrywiolaethol gyda phwyslais ar gomedi yw vaudeville neu weithiau yn Gymraeg fodfil[1] a darddodd yn Ffrainc yn niwedd y 19g ac a fu'n hynod o boblogaidd yn Unol Daleithiau America a Chanada o'r 1880au i'r 1930au. Cychwynnodd fel ffars neu gomedi sefyllfa, heb neges nac amcan, wedi ei chymysgu â pherfformiad dramatig, megis ymson neu farddoniaeth ysgafn, a chaneuon, dawnsiau bale, neu ffurf gerddorol arall. Datblygodd yn sioe amryfath boblogaidd a gyfunai digrifwch ysgafn a miwsig ar y llwyfan, yn debyg i draddodiad y neuadd gerdd yng Ngwledydd Prydain,[2] lle cyfeiria'r term vaudeville at adloniant mwy dosbarth gweithiol a fyddai wedi cael ei ystyried yn "fwrlésg" yn yr Unol Daleithiau.

Byddai sioe vaudeville yn cynnwys sawl act wahanol yn dilyn ei gilydd ar yr un llwyfan, a byddai'r perfformwyr yn aml yn cynnwys cerddorion a chantorion poblogaidd a chlasurol, minstreliaid croenddu ac wynebddu, dawnswyr, digrifwyr, anifeiliaid gwneud campau, lledrithwyr, tafleiswyr, dynion cryf ac athletwyr, dynion yn dynwared merched, acrobatiaid, clowniaid, jyglwyr, actorion yn chwarae dramâu un-act neu olygfeydd dethol o ddramâu, ac enwogion yn darlithio. Yn niwedd y 19g, yn ystod dyddiau cynnar y taflunydd a lluniau symudol, dechreuodd theatrau vaudeville arddangos caneuon darluniedig a ffilmiau byrion, a dyna oedd prif gynulleidfa'r sinema nes dyfodiad y nickelodeons.

Yn yr Unol Daleithiau a Chanada, dylanwadwyd ar ddatblygiad vaudeville gan sawl gwahanol draddodiad, gan gynnwys y gyngerdd salŵn, canu'r minstreliaid croenddu ac wynebddu, sioeau pobl hynod, yr amgueddfa ddimai, a'r bwrlésg Americanaidd. Gelwid vaudeville yn "galon sioe fusnes America".[3] Câi ddylanwad ar adloniant modern, yn enwedig ffilmiau comedi a chomedi stand-yp.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Geiriadur yr Academi, "vaudeville".
  2. "Forms of Variety Theater". Library of Congress. 1996. Cyrchwyd 27 April 2018.
  3. Trav, S.D. (31 October 2006). No Applause-Just Throw Money: The Book That Made Vaudeville Famous. Faber & Faber. ISBN 978-0-86547-958-6.