Neidio i'r cynnwys

Ffilm fer

Oddi ar Wicipedia
Ffilm fer
Enghraifft o:film format, type of cinematic work Edit this on Wikidata
Mathffilm Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebffilm nodwedd Edit this on Wikidata
Hyd45 munud Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/02hmvc edit this on wikidata
Thesawrws y BNCF1120 edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae ffilm fer yn ffilm sydd wedi ei chynhyrchu fel ffilm gyflawn ynddoi'i hun, ond sydd yn llai o hyd na ffilm nodwedd. Nid oes diffiniad pendant wedi ei gytuno ar hyd ffilm fer, ond roedd mae'r uchafswm hyd ar gyfer cystadlaethau neu ŵyliau ffilmiau byrion yn amrywio o hyd at 15 munud[1] i 60 munud[2]. Mae nifer fawr o ffilmiau byrion wedi eu cynhyrchu yng Nghymru, gyda ffilmiau byrion wedi eu hanimeiddio fel y rhai mwyaf nodedig yn rhyngwladol.

Rhwng 1993 a 2005 cynhaliwyd cystadleuaeth ffilmiau byrion Gwobr D.M. Davies. Roedd y wobr yn gwobrwyo ffilm fer orau'r flwyddyn gyda phecyn o arian ac adnoddau mewn-da fel bod creawdwr y ffilm yn gallu cynhyrchu eu ffilm nesaf. Ymysg enillwyr y wobr mae enwau Justin Kerrigan, Daniel Mulloy ac Arwel Gruffydd.

Mae nifer o sefydliadau celfyddydau a ffilm wedi bod yn gyfrifol am ariannu ffilmiau byrion o Gymru ers y 70au, gan gynnwys Cyngor Ffilm Cymru, Sgrin Cymru Wales a'n ddiweddarach Asiantaeth Ffilm Cymru. Mae BBC Cymru, ITV Wales ac S4C wedi chwarae rhan fawr mewn datblygu gwaith fformat byr yn ogystal.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. http://www.digitalshortswales.co.uk/welsh/[dolen farw]
  2. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-04-10. Cyrchwyd 2011-05-23.