Clown

Oddi ar Wicipedia
Clown traddodiadol
Les Rossyann

Perfformiwr comig a nodweddir yn ystrydebol gan ei wigiau lliwgar, colur llwyfan trawiadol, gwisg ryfeddol a sgidiau anghyffredin o fawr yw Clown. Mae hiwmor clowniau heddiw yn cynnwys elfennau gweledol amlwg a dogn helaeth o gomedi corfforol a slapstic,[1] e.e. taflu peis a chwarae castiau o bob math ar eu cyd-glowniau. Er eu bod yn gysylltiedig â'r syrcas yn bennaf heddiw, caiff clowniau berfformio ym mhob math o lefydd, dan do neu yn yr awyr agored, gan nad oes arnyn nhw angen llwyfan.

Ond mae hanes hir i grefft clownio, ac nid yw'n draddodiad sydd i'w gael yn y Gorllewin yn unig ond yn hytrach yn draddodiad byd-eang a geir mewn sawl ffurf mewn amryfal leoedd, amseroedd a diwylliannau. Mae allanolion y clown yn amrywio'n fawr felly, ond maen nhw'n rhannu un peth mewn cyffredin ym mhob diwylliant ac oes, sef rhoi mynegiant i angen dwfn sydd yn y ddynoliaeth i dorri confensiynau o bob math, yn cynnwys gwneud sbort o symbolau awdurdod, seciwlar a chrefyddol, gwrthdroi iaith a gweithred a rhoi lle i anlladrwydd diniwed, ymollyngol.[2]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) clown. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 28 Hydref 2013.
  2. Peter Ludwig Berger, Redeeming Laughter: The Comic Dimension of Human Experience (1997) p.78