Neidio i'r cynnwys

Harlequin

Oddi ar Wicipedia
Harlequin
Enghraifft o:bod dynol ffuglennol, funny person, Maschere, carnival character Edit this on Wikidata
Rhan ocommedia dell'arte Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/09kbs edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Am ddefnyddiau eraill, gweler Harlecwin (gwahaniaethu).

Cymeriad stoc mewn commedia dell'arte yw Harlequin (Eidaleg: Arlecchino). Mae ei wreiddiau'n dyddio'n ôl i ddiwedd yr 16g yn yr Eidal, ac mae ganddo gysylltiad penodol â dinas Bergamo.[1] Ef yw'r mwyaf adnabyddus o'r cymeriadau gwas comig (zanni) yn y commedia dell'arte. Mae'n chwarae rhan gwas sionc a chraff, sy'n aml yn gweithredu i rwystro cynlluniau ei feistr. Mae'n dilyn ei gariad, Columbine, â ffraethineb a dyfeisgarwch, gan gystadlu'n aml â Pierrot, sydd, i'r gwrthwyneb, yn gymeriad melancolaidd.

Mae ganddo fwgwd du a gwisg wedi'i gwneud o glytiau amryliw, fel arfer o siapau diemwnt. Mae'n dwyn pastwn hir, neu "ffon glec".

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Origini di Arlecchino", Arlecchino Bergamasco Folk; adalwyd 29 Hydref 2025