The Handmaid's Tale

Oddi ar Wicipedia
The Handmaid's Tale
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurMargaret Atwood Edit this on Wikidata
CyhoeddwrMcClelland & Stewart Edit this on Wikidata
GwladCanada Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1985 Edit this on Wikidata
Genreffeministiaeth, Neo-Malthusianism, ffuglen hanesyddol, gwyddonias, ffuglen ddystopaidd Edit this on Wikidata
CyfresThe Handmaid's Tale Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganBodily Harm Edit this on Wikidata
Olynwyd ganCat's Eye Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintdan hawlfraint Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae The Handmaid's Tale yn nofel dystopaidd[1] gan yr awdures o Ganada Margaret Atwood[2][3] a gyhoeddwyd yn wreiddiol ym 1985. Lleolir y nofel yn y dyfodol agos yn Lloegr Newydd, mewn gwladwriaeth grefyddol totalitaraidd, ddim yn annhebyg i ddwyflwyodraeth Gristnogol, sydd wedi disodli llywodraeth yr Unol Daleithiau.[4] Mae'r nofel yn canolbwyntio ar daith y lawforwyn Offred. Mae ei henw'n deillio o'r ffurf feddiannol o "Fred"; lle mae morynion yn cael eu gwahardd rhag defnyddio eu henwau genedigol, ac yn hytrach yn cael enwau sydd yn adleisio'r dyn, neu feistr, y maent yn eu gwasanaethu.

Mae The Handmaid's Tale yn archwilio themâu o fenywod mewn darostyngiad mewn cymdeithas batriarchaidd a'r gwahanol ffyrdd y mae'r menywod hyn yn ymgeisio i ennill eu unigolyddiaeth a'u hannibyniaeth. Mae teitl y nofel yn adleisio rhannau o straeon Geoffrey Chaucer gan gynnwys rhannau o The Canterbury Tales, sef cyfres o straeon cysylltiedig ("The Merchant's Tale", "The Person Tale", ac ati.).

Mae The Handmaid's Tale wedi ei strwythuro i ddwy ran - y nos, a digwyddiadau amrywiol eraill. Gall y nofel hon gael ei dehongli fel naratif dwbl, sef hanes Offred a hanes y morynion. Mae'r adrannau yn ystod y nos yn seiliedig yn unig ar Offred, ac mae'r adrannau eraill (siopa, ystafell aros, yn y cartref, ac ati.) yn straeon sy'n disgrifio bywyd pob dydd pob morwyn, er o safbwynt Offred. Mewn llawer o'r adrannau hyn, mae Offred yn neidio rhwng y presennol a'r gorffennol wrth iddi ailadrodd y digwyddiadau sy'n arwain at golli hawliau menywod ac at fanylion presennol y bywyd y mae hi bellach yn byw.

Enillodd The Handmaid's Tale y wobr gyntaf yn Governor General's Award ym 1985 a Gwobr Arthur C. Clarke ym 1987; fe'i enwebwyd ar gyfer Gwobr Nebula ym 1986, y Booker Prize ym 1986, ac ym 1987, Gwobr Prometheus. Mae'r llyfr wedi ei addasu i ffilm 1990, 2000 opera yn 2000, cyfres deledu, a chyfryngau eraill.

Crynodeb o'r plot[golygu | golygu cod]

Mae The Handmaid's Tale wedi ei osod yng Ngweriniaeth Gilead, sydd yn unbennaeth ddwyflwyodraeth filwrol a ffurfiwyd o fewn ffiniau o'r hyn a oedd gynt yn yr Unol Daleithiau o America.

Gan ddechrau gyda llwyfannu ymosodiad sy'n lladd yr Arlywydd a'r rhan fwyaf o'r Gyngres, daw mudiad Adferwrol Cristnogol ffwndamentalaidd sydd yn galw ei hun yn "Sons of Jacob" i lansio chwyldro ac atal yr Cyfansoddiad yr Unol Daleithiau o dan yr esgus o adfer trefn. Maent yn gyflym yn cael gwared ar hawliau merched, yn bennaf oherwydd cofnodion ariannol yn cael eu storio yn electronig a'u labelu yn ôl rhyw. Daw'r drefn newydd, y Weriniaeth Gilead, yn gyflym i atgyfnerthu ei grym, gan gynnwys goddiweddyd yr holl grwpiau crefyddol cyn-presennol, gan gynnwys Cristnogaeth, ac ad-drefnu cymdeithas yn ôl model hierarchaidd milwrol newydd o ffanatigaeth crefyddol a chymdeithasol a ysbrydolwyd o'r Hen Destament ymysg ei ddosbarthiadau cymdeithasol newydd. Yn y gymdeithas hon, mae hawliau dynol wedi eu cyfyngu'n ddifrifol a hawliau merched yn cael eu cwtogi'n llym.Er enghraifft, mae gwahardd ar fenywod i ddarllen, ac mae unrhyw un a gaiff ei ddal mewn gweithredoedd cyfunrywiol yn cael ei grogi yn enw "bradwriaeth-ryw".

Mae'r hanes yn cael ei dweud yn y person cyntaf gan fenyw o'r enw Offred. Mae'r cymeriad yn un o ddosbarth o ferched sydd â system atgenhedlu iach, mewn cyfnod o ddirywiad mewn cyfraddau geni o ganlyniad i gynyddiad mewn anffrwythlondeb. Mae'r merched yma'n cael eu neilltuo'n erbyn eu hewyllys i gynhyrchu plant ar gyfer y dosbarth llywodraethol ac yn cael eu hadnabod fel "llawforynion", yn seiliedig ar hanes Rachel a'i llawforwyn Bilha yn y Beibl. Mae Offred disgrifio ei bywyd yn ystod ei thrydedd aseiniad fel llawforwyn, yn yr achos hwn i Fred Waterford (y cyfeirir ato fel "The Commander"). Yn gymysg â'i naratifau o brofiadau ei bywyd presennol mae ôl-fflachiau trafodaethau am ei bywyd cyn ac yn ystod dechrau'r chwyldro, pan mae hi'n sylweddoli ei bod wedi colli pob annibyniaeth i ei gŵr, yn eu ymgais aflwyddiannus i ddianc i Ganada, ac yn olaf ei thrwytho i fywyd fel llawforwyn gan fenywod a elwir yn "Aunts" a hyfforddwyd gan y llywodraeth.

Mae Offred yn disgrifio strwythur cymdeithas Gilead, gan gynnwys y gwahanol ddosbarthiadau o ferched ac yn eu bywydau o fewn y ddwydlwyodraeth newydd. Caiff merched eu gwahanu'n gorfforol, gan lliw ddillad—glas, coch, gwyrdd, streipiau a gwyn—i ddynodi dosbarth cymdeithasol a'u sefyllfa neilltuol, o'r safle uchaf i'r isaf. Caiff gwragedd y rheolwyr "The Commanders" eu gwisgo mewn glas, llawforynion mewn coch, Marthas (cogyddion a morwynion) yn wyrdd. Dillad streipiedig ar gyfer yr holl fenywod eraill (a elwir yn "Econowives") sydd yn ei hanfod i wneud popeth o fewn bywyd y cartref. Mae merched ifanc, di-briod yn cael eu gwisgo mewn gwyn.

Mae'r Commander yn swyddog uchel yng Ngilead. Er bod ei gysylltiad â Offred i fod yn gyfyngedig i'r "seremoni", sef defod o gyfathrach rywiol gyda'r bwriad o feichiogi ym mhresenoldeb ei wraig, mae'n dechrau perthynas anghyfreithlon gyda Offred. Cyfarfodydd dirgel yn digwydd yn ei swyddfa adref, lle yw gwraig y Commander yn cael mynd i fewn. Mae'r ystafell yn cael ei lenwi â llyfrau ac yn cael ei ystyried yn lle preifat i ddyn y tŷ. Yn ystod y cyfarfodydd hyn, mae'n ceisio ennill ei ymddiriedaeth drwy siarad a chwarae gemau bwrdd megis Scrabble gyda hi. Mae hefyd yn gadael iddi, ac yn ei gwylio'n darllen, sydd yn drosedd arall, am nad oes gan ferched yr hawl i ddarllen nac ysgrifennu. Mae'r Commander yn cynnig cynhyrchion gwaharddedig megis hen gylchgronau ffasiwn (o'r 1970au), a cholur. Yn olaf, mae'n rhoi dillad isaf iddi ac yn mynd â hi i'r puteindy o'r enw Jesebel sydd yn cael ei redeg gan y llywodraeth. Mae puteindy'n cynnig amrywiaeth i fywyd rhywiol dynion fel, yn ôl y Commander, sy'n angenrheidiol. Yn Jesebel, daw Offred i gyfarfod ei ffrind, Moira, sydd wedi dianc o ganolfan hyfforddi'r llawforynion, ac fe ddaw i ddysgu sut y daeth i fod yno. Yno mae Moira'n esbonio sut y gall ferched herfeiddiol na allai addasu i'r gymdeithas newydd gael cynnig gwaith yn y Jesebel yn hytrach na chael eu gorfodi i weithio yn y Trefedigaethau (Colonies), i lanhau gwastraff ymbelydrol. Mae gan fenywod y puteindai caniatâd i yfed alcohol a chymeryd cyffuriau, sydd yn ryddid yn ôl nodiadau Offred. Er fod yr hawl ganddynt i ddewis eu cwsmeriaid, maent yn cael eu hannog yn erbyn gwrthod cynigion gan ddynion.

Mae gwraig y Commander, Serena Joy, yn elyniaethus. Mae Offred yn ei chofio fel personoliaeth o fewn y cyfryngau Cristnogol a cefnogai cartrefgarwch ac îs-rôl menywod ym mhell cyn Gilead gael ei sefydlu. Serena yn amlwg wedi diflasu ac yn anhapus—ac yn casáu rhannu ei gŵr â llawforwyn. Yn eironig, fodd bynnag, mae gan Serena hefyd ei rhyngweithiad cyfrinachol ag Offred, wrth drefnu am iddi gysgu gyda Nick, gyrrwr personol y Commander, mewn ymdrech i gael Offred yn feichiog. Yn gyfnewid am hyn, mae Serena Joy yn rhoi newyddion am ei merch a llun diweddar. Nid yw Offred wedi gweld ei phlentyn ers iddi hi a'i theulu gael eu dal wrth geisio dianc oddi wrth Gilead.

Ar ôl y cyfarfod cychwynnol Offred â Nick, maent yn dechrau cyfarfod yn fwy aml, a daw hi i ddarganfod ei bod yn mwynhau rhyw gydag ef, er gwaethaf ei syniadau a'i atgofion am ei gŵr. Mae hi'n rhannu gwybodaeth am ei gorffennol a allai fod yn beryglus gydag ef. Trwy ei phartner siopa, dynes o'r enw Ofglen, mae Offred yn dysgu wrthiant Mayday, sef rhwydwaith tanddaearol yn gweithio i ddymchwel Gweriniaeth Gilead. Yn fuan ar ôl diflaniad Ofglen (datgelir yn ddiweddarach fel hunanladdiad), daw gwraig y Commander i ddarganfod tystiolaeth am berthynas rhwng Offred a'r Commander, a daw Offred i gysidro hunanladdiad.

Ar ddiwedd y llyfr mae Offred yn dweud wrth Nick ei bod hi yn meddwl ei bod hi'n feichiog. Yn fuan wedyn, caiff ei tywys i ffwrdd gan yr heddlu cudd, yr Eyes of God, a'u gelwir yn anffurfiol fel yr "Eyes". Cyn iddi gael ei roi mewn fan mawr du, mae Nick yn dweud wrthi fod y dynion hyn yn rhan o wrthwynebiad Mayday ac iddi ymddiried ynddo. Nid yw Offred yn gwybod os yw Nick yn aelod o Mayday neu yntau'n un o'r Eyes yn honni bod yn aelod o'r gwrthwynebiad, ac mae'n ansicr os fyddai gadael yn arwain at ddianc neu gael ei chipio. Mae'n mynd i mewn i'r fan gyda dyfodol ansicr.

Mae'r nofel yn cloi gyda diweddglo metaffuglennol sydd yn esbonio fod digwyddiadau'r nofel yn digwydd yn fuan ar ôl dechrau'r hyn a elwir yn "Gyfnod Gilead". Mae'r diweddglo'n "drawsgrifiad rhannol o drafodion y Ddeuddegfed Symposiwm ar Astudiaethau Gileadaidd" a ysgrifennwyd yn 2195 a gynhaliwyd gan yr Athro Maryann Crescent Moon. Yn ôl "prif siaradwr" y symposiwm, yr Athro James Darcy Pieixoto, mae ef a'i gydweithiwr, yr Athro Knotly Wade wedi darganfod hanes Offred wedi ei recordio ar dapiau casét. Maent yn trawsgrifio'r tapiau, ac yn eu galw ar y cyd "the handmaid's tale". Trwy dôn a gweithredoedd y gweithwyr proffesiynol yn yr adran olaf y llyfr, mae byd academia yn cael ei amlygu a'i feirniadu, mae Pieixoto yn trafod ei dîm yn chwilio am y cymeriadau a enwir yn yr Hanes (Tale), a sut mae'n amhosibl profi dilysrwydd y tapiau.[5]

Fodd bynnag, mae bodolaeth o dapiau yn awgrymu bod Offred wedi dianc a goroesi am o leiaf ychydig o amser, ac felly fel yr oedd yr Eyes a fu i'w chasglu, mewn gwirionedd, yn rhan o Mayday. Mae'r diweddglo hefyd yn awgrymu yn dilyn cwymp Gweriniaeth Dwyflwyodraeth Gilead, daw'r gymdeithas i fod yn fwy cyfartal, er nid yr Unol Daleithiau a oedd wedi bodoli'n flaenorol, yn ailymddangos, gyda hawliau llawn i ferched yn dychwelyd a rhyddid crefydd.

Cymeriadau[golygu | golygu cod]

Offred[golygu | golygu cod]

Offered yw'r prif gymeriad ac adroddwr. Cafodd ei labelu'n "ferch hoedennaidd pan sefydlwyd Gilead am ei bod wedi priodi dyn a oedd wedi ysgaru. Bu i bob ysgariad gael ei ddileu gan y llywodraeth newydd, a olygai fod ei gŵr bellach yn cael ei ystyried yn dal yn briod i'w wraig gyntaf, yn gwneud Offred yn odinebwraig. Wrth geisio dianc o Gilead, fe'i gwahanwyd oddi wrth ei gŵr a'i mherch. Mae hi yn rhan o'r genhedlaeth gyntaf o ferched Gilead, y rhai sydd yn cofio'r amseroedd cyn-Gilead. Wrth brofi'n ffrwythlon, mae hi'n cael ei hystyried yn nwydd bwysig ac yn ei gosod fel llawforwyn yng nghartref y Commander Fred Waterford a'i wraig Serena Joy, i ddwyn plant ar eu cyfer (credir fod Serena Joy yn anffrwythlon).[6]

Enw caethweisiol yw Offred sy'n disgrifio ei swyddogaeth: hi yw " o Fred" (h. y., mae hi'n perthyn i Fred, ei rheolwr, ac yn cael ei ystyried yn gordderch). Yn y nofel, Dywed Offred nad yw yn gordderch, ond offeryn; "groth â dwy goes". Nid yw enwau'r llawforwynion yn dweud dim am boy yw'r merched yn wirioneddol; eu hunig hunaniaeth yw fel eiddo'r Commander. Mae "Offred" hefyd yn chwarae ar y gair (Saesneg) "offered", fel yn "a gynigir fel aberth", yn ogystal â chwarae ar y geiriau "off-red", gan gyfeirio at lliw gwisg y llawforynion ac at eu rhwystredigaethau gyda'i sefyllfa neilltuol.[7]

Mae'r merched mewn hyfforddiant i fod yn llawforynion yn sibrwd eu henwau ar draws eu gwelyau yn y nos. Yr enwau yw "Alma. Janine. Dolores. Moira. June," ac yn ddiweddarach maent i gyd yn cael eu cyfrif am ac eithrio June. Yn ogystal, mae un o'r Modrybedd ("Aunts") yn dweud wrth y llawforynion-mewn-hyfforddiant i roi'r gorau i "mooning and June-ing".[8] O hyn a chyfeiriadau eraill, mae rhai darllenwyr wedi casglu mai ei henw genedigol yw "June".[9] Mae Miner yn awgrymu bod "June" yn ffugenw. Gan mai "Mayday" yw enw gwrthwynebiad, gallai June fod yn dyfeisiad gan y prif gymeriad. Cynhelir cynhadledd Nunavit a gwmpesir yn y diweddglo ym mis Mehefin.[10] Pan fu i Hulu TV ddatgan mai new go iawn Offred oedd June, ysgrifennodd Atwood nad ei bwriad gwreiddiol oedd i awgrymu mai new go iawn Offred oedd June "ond mae'n cyd-fynd, felly, mae darllenwyr yn cael eu croesawu i hynny os ydynt yn dymuno".

Y Commander[golygu | golygu cod]

Mae'r Commander yn dweud ei fod yn rhyw fath o wyddonydd a oedd yn flaenorol yn cymryd rhan mewn rhywbeth tebyg i ymchwil i'r farchnad, cyn-Gilead. Yn ddiweddarach, mae'n tybiwyd, ond nid yw'n cael ei gadarnhau, y gallai fod wedi bod yn un o benseiri'r Weriniaeth a'i ddeddfau. Yn ôl pob tebyg, ei enw cyntaf yw "Fred", ond gall hyn hefyd fod yn ffugenw.

Mae'n cymryd than mewn gweithrgareddau deallusol gwaharddedig ag Offred, megis chwarae Scrabble, ac yn ei chyflwyno i glwb cyfrinachol sy'n gwasanaethu fel puteindy ar gyfer swyddogion uchel eu swydd. Mae Offred yn dysgu fod y Commander wedi cael perthynas tebyg gyda'i lawforwyn flaenorol, ac iddi ladd ei hun pan oedd fu i Serena Joy ddid i wybod am hyn. Yn yr diweddglo mae'r ysgolheigion yn dyfalu bod un o ddau ffigwr, y ddau yn allweddol wrth sefydlu Gilead, efallai wedi bod yn Fred, yn seiliedig ar ei enw cyntaf. Awgrymir yn gryf mai dyn o'r enw Frederick R. Waterford oedd y Commander a gafodd ei ladd mewn ddarddeliad yn fuan ar ôl i Offred gael ei chymeryd i ffwrdd, wed ei gyhuddo o lochesu asiant y gelyn.

Serena Joy[golygu | golygu cod]

Mae Serena Joy yn gyn - efengylwraig teledu ac yn wraig i'r Commander yn y ddwyflwyodraeth ffwndamentalaidd. Cymerwyd ei phŵer a'i hadnabyddiaeth gyhoedus gan y wladwriaeth, ac mae'n ceisio cuddio'i hanes fel ffigwr teledu. Mae Offred yn nodi adnabod gwraig ei meistr gan ddwyn i gof ei gweld ar y teledu pan oedd hi'n ferch fach yn gynnar ar foraeau Sadwrn wrth aros am y cartwnau i ddechrau. Credir ei bod yn anffrwythlon (er bod yr awgrym yn cael ei wneud mai'r Commander sydd yn anffrwythlondd, mae deddfau Gileadean yn priodoli anffrwythlondeb i fenywod yn unig), mae hi'n cael ei gorfodi i dderbyn defnyddio llawforwyn. Mae hi'n dal dig ar y ffaith fod raid iddi gymeryd rhan yn y ddefod ffrwythlondeb misol. Mae hi'n taro bargen gyda Offred i drefnu iddi gael rhyw gyda Nick er mwyn dod yn feichiog. Yn ôl yr Athro Pieixoto yn y diweddglo, mai ffugenwau yw "Serena Joy" neu "Pam"; fe awgrymir mai enw go iawn y cymeriad i fod yw Thelma.

Ofglen[golygu | golygu cod]

Cymydog i Offred yw Ofglen ac yn gymrawd Lawforwyn. Mae hi'n gweithio mewn partneriaeth gyda Offred i wneud y siopa dyddiol. Nid yw llawforynion byth yn cael eu gadael ar ben ei hunain ac mae disgwyl iddynt arolygu ymddygiad eu gilydd. Mae Ofglen yn aelod o wrthsafiad Mayday. Yn wahanol i Offred, mae hi'n feiddgar. Mae hi'n lladd ysbïwr Mayday fyddai fel arall yn cael ei arteithio a'i ladd er mwyn arbed ef y boen o farwolaeth dreisgar. Mae Offred yn cael arddeall pan fydd i Ofglen ddiflannu, mae hyn oherwydd ei bod wedi cyflawni hunanladdiad cyn y gall y llywodraeth fynd â hi i'r ddalfa oherwydd ei aelodaeth i'r gwrthwynebiad, o bosibl, i osgoi rhoi i ffwrdd unrhyw wybodaeth.

Mae llawforwyn newydd, hefyd a elwir yn Ofglen, yn cymryd lle Ofglen, ac yn cael ei neilltuo fel partner siopa Offred. Mae hi'n bygwth Offred yn erbyn unrhyw syniad o wrthiant, ac yn torri protocol drwy ddweud wrthi beth ddigwyddodd i'r Ofglen flaenorol.

Nick[golygu | golygu cod]

Nick yw gyrrwr y Comander, sy'n byw uwchben y garej. Mewn trefniant gan Serena Joy, mae'n dechrau perthynas rywiol ag Offred i gynyddu ei siawns o feichiogi. os byddai Offred yn methu dod yn feichiog â'r Commander, byddai'n cael ei datgan yn anffrwythlon ac fe gai ei chludo i ddiffeithwch ecolegol y Trefedigaethau. Daw Offred i ddechrau datblygu teimladau tuag at Nick. Mae Nick yn gymeriad amwys, a dyw Offred ddim yw'n gwybod os ye'n deyrngarol tuag at y plaid neu'n ran o ymwrthedd, er ei fod yn nodi ei hun fel y cyntaf. Mae'r diweddglo'n awgrymu ei fod mewn gwirionedd yn rhan o'r gwrthwynebiad, a gynorthwyir Offred i ddianc o dŷ'r Commander.

Moira[golygu | golygu cod]

Mae Moira wedi bod yn ffrind agos i Offred ers coleg. Fel lesbiad, mae hi wedi gwrthsefyll homoffobia cymdeithas Gilead. Caiff Moira ei chymeryd i fod yn Lawforwyn yn fuan ar ôl Offred. Mae hi'n dianc wrth ddwyn dillad a phás Modryb, ond daw Offred o hyd iddi'n ddiweddarach yn gweithio fel putain ym mhuteindy'r blaid. Cafodd ei dal a dewisodd y puteindy yn hytrach na chael ei hanfon at y Trefedigaethau.

Luke[golygu | golygu cod]

Luke oedd gŵr Offred cyn ffurfiad Gilead. Roedd o wedi ysgaru ei wraig gyntaf â'i phriodi hi. O dan llywodraeth Gilead, caiff pobi ysgariad eu dileu'n ôl weithredol, gan arwain at Offred yn cael ei ystyried yn odinebwraig a'u mherch yn anghyfreithlon. Cafodd Offred ei gorfodi i fod yn Lawforwyn ac mae ei mherch yn cael ei rhoi i deulu deyrngarol. Ers eu ymgais i ddianc i Ganada, nid yw Offred wedi clywed gan Luke. Yn ddiweddarach yn y gyfres deledu, fe ddatgelir fod Luc yn dal yn fyw.

Yr Athro Pieixoto[golygu | golygu cod]

Pieixoto yw'r "cyd-darganfyddwr [gyda'r Athro Knotly Wade] o dapiau Offred". Yn ei gyflwyniad yn y gynhadledd academaidd, mae'n sôn am "y 'Problemau Gwirio wrth Gyfeirio at The Handmaid's Tale'Nodyn:'". Felly, Pieixoto yw'r person sy'n ailadrodd hanes Offred, ac felly'n gwneud y naratif yn hyd yn oed fwy annibynadwy nag yr oedd yn wreiddiol.

Gosodiad[golygu | golygu cod]

Mae'r nofel wedi'i osod mewn dyfodol amhenodol, damcanwyd i fod o gwmpas y flwyddyn 2005,[11] gyda dwyflwyodraeth ffwndamentalaidd yn rheoli tiriogaeth a arferai fod yn yr Unol Daleithiau, ond sydd rwan yn Weriniaeth Gilead. Mae unigolion yn cael eu gwahanu yn ôl categori ac yn gwisgo yn ôl eu swyddogaethau cymdeithasol. Mae codau gwisgo cymhleth yn chwarae rôl allweddol wrth osod rheolaeth gymdeithasol o fewn y gymdeithas newydd ac yn fodd i wahaniaethu rhwng pobl yn ôl rhyw, galwedigaeth, a cast.

Mae hyn yn digwydd yn yr hyn a oedd unwaith yn y Sgwâr Harvard yng nghymdogaeth Cambridge, Massachusetts;Mccarthy, Mary (1986-02-09). "No Headline - The New York Times". Nytimes.com. Cyrchwyd 2018-04-26.[12] Astudiodd Atwood yn Radcliffe College, a leolir yn yr ardal hon.

Gwleidyddiaeth[golygu | golygu cod]

Yng Ngilead, mae cyrff merched ffrwythlon yn wleidyddol ac maent yn cael eu rheoli. Mae poblogaeth Gogledd America yn gostwng wrth i fwy o ddynion a menywod fod yn anffrwythlon (er yng Ngilead, yn ôl y gyfraith, dim ond menywod a all achosi anffrwythlondeb). Mae triniaeth Gilead o ferched yn seiliedig ar dehongliadau cul ffwndamentalaidd o'r Beibl, sy'n golygu bod menywod yn eiddo ac yn israddol i'w gŵyr, tadau, neu bennaeth yr aelwyd. Nid ydynt yn cael i wneud unrhyw beth a fyddai'n rhoi unrhyw bŵer iddynt neu unryw annibyniaeth iddynt o'r system hon. Nid les ganddynt hawl i bleidleisio, dal swydd, darllen, na meddu ar arian, neu fod yn berchen ar unrhyw beth, ymhlith nifer o gyfyngiadau eraill.

Mae dyfyniad penodol o'r Handmaid's Tale yn crynhoi hyn: "Nid yw Gweriniaeth Gilead, meddai Modryb Lydia, yn gwybod am ffiniau. Mae Gilead o fewn i chi" (HT 5.2). Mae hyn yn disgrifio sut nad oes unrhyw ffordd o osgoi ffiniau cymdeithasol menywod yn y wladwriaeth newydd. Mae Llawforynion, sydd ddim yn cael priodi, yn cael aseiniadau dwy flynedd gyda 'chommander', ac yn colli eu henw eu hunain: maent yn cael eu galw "O'u [enw eu commander cyntaf]", megis prif gymeriad y nofel, sy'n adnabyddus yn unig fel Offred. Pan fydd llawforwyn yn cael ei symud, bydd ei henw'n newid hefyd. Caiff eu hunaniaethau gwreiddiol o'r amser cyn y chwyldro eu hatal, er eu bod wedi cael eu hail-addysgu fel llawforynion, maent yn rhannu eu henwau gwreiddiol ymysg eu gilydd yn llechwraidd.

Yn y llyfr hwn, mae'r llywodraeth yn ymddangos i fod yn gryf er "does neb yn Gilead yn ymddangos i fod yn gredwr wir yn y chwyldro" (Beauchamp). Nid yw'r Commanders, yn cael eu portreadu trwy Capten Fred, yn cytuno â'u athrawiaethau eu hunain. Mae'r Commander yn cymryd Offred ar un adeg i buteindy er mwyn cael rhyw gyda hi mewn lleoliad anffurfiol ar wahân i'r Seremoni. Mae'r gwragedd, sydd yn cael eu portreadu trwy Serena Joy, cyn efengylwraig teledu, yn anufuddhau i'r rheolau a nodir gan eu gwŷr. Mae Serena yn ysmygu siagrennau o'r farchnad ddu ac yn mynegi'r syniad gwaharddiedig y gall dynion fod yn anffrwythlon, a chynlluniau i gael Offred ddod y feichiog gan ei gyrrwr.

Crefydd[golygu | golygu cod]

Datgannwyd gan Bruce Miller, cynhyrchydd gweithredol cyfres deledu'r The Handmaid's Tale gyda golwg ar lyfr Atwood, yn ogystal â'i gyfres o, fod Gilead yn "gymdeithas sy'n seiliedig ar fath o gamddarlleniad wrthnysig o gyfreithiau a chodau'r Hen Destament". Mae'r awdur yn esbonio bod Gilead yn ceisio ymgorffori "delfrydiaeth iwtopaidd" yn bresennol yng nghyfundrefnau'r 20g, megis Cambodia a Romania, yn ogystal ag yn gynharach ym Mhiwritaniaeth Lloegr Newydd. Bu i Atwood a Miller datgan and oedd y bobl a redai Gilead "yn wirioneddol Gristnogol".[13] Nid oes gan y grŵp sy'n rhedeg Gilead, yn ôl Atwood, "..ddiddordeb gwirioneddol mewn crefydd; ond yn hytrach mewn grym." Yn wir, yn ei gweddïau i Dduw, mae Offred, wrth adlewyrchu ar Gilead, yn gweddïo "dydw i ddim yn credu am ennyd bod yr hyn sy'n mynd ymlaen allan yna yw'r hyn yr Ydych yn ei olygu.... Mae'n debyg y dylwn i ddweud fy mod yn maddau i bwy bynnag wnaeth hyn, a beth bynnag maent yn ei wneud yn awr. Byddaf yn ceisio, ond nid yw'n hawdd."[14] Mae Margaret Atwood, ar ysgrifennu hyn, yn dweud fod gan "Offred ei hun ei fersiwn breifat o Weddi'r Arglwydd ac yn gwrthod i gredu bod y drefn hon wedi ei gorfodi gan Dduw cyfiawn a thrugarog."[15]

Mae'r eglwysi Cristnogol hynny nad ydynt yn cynnal camau gweithredu o Feibion Jacob yn cael eu dymchwel yn systematig, ac nid yw'r bobl sy'n dilyn Gilead byth yn cael eu gweld yn mynychu eglwys.[16] Fe elwir enwadau Cristnogol, gan gynnwys y Crynwyr, Bedyddwyr a'r Pabyddion, yn benodol yn elynion i Feibion Jacob.[17] Caiff lleianod sy'n gwrthod trosi gael eu hystyried yn "Unwomen" ac fe gaent eu halltudio i'r Trefedigaethau, oherwydd eu hamharodrwydd i briodi a gwrthod (neu anallu) i ddwyn plant. Caiff offeiriaid sy'n amharod i droi eu crogi oddi wrth y Wal. Mae Atwood yn rhoi'r Crynwyr yn erbyn y gyfundrefn drwy eu cael i helpu'r gorthrymedig, - rhywbeth mae hi'n teimlo y byddent yn ei wneud mewn gwirionedd: "Mae'r Crynwyr wedi mynd yn dan-ddaearol, ac yn gweithredu ffordd cudd i ddianc i Ganada, fel—yr wyf yn amau y byddent yn ei wneud."

Caiff Iddewon eu henwi fel eithriad ac yn cael eu dosbarthu'n Feibion Jacob. Mae Offred yn sylwi fod Iddewon a wrthodai i droi yn cael caniatâd i ymfudo i Israel, ac mae'r rhan fwyaf yn dewis gadael. Fodd bynnag, yn y Diweddglo, mae'r Athro Pieixoto yn dangos bod llawer o'r ymfudwyr Iddewig yn cael ei taflu i'r môr oddi ar y llongau penodol a benodwyd i'w cludo i Israel, o ganlyniad i breifateiddio "rhaglen y dychweliad" a rhaglen ymdrech cyfalafwyr i wneud yr elw mwyaf. Sonnir Offred am lawer o Iddewon a ddewisodd i aros ac yn gyfrinachol, parhäodd i ymarfer Iddewiaeth gael eu dal a'u dienyddio.

Cast a dosbarth[golygu | golygu cod]

Gelwir Americanwyr Affricanaidd, sef y brif grŵp ethnig nad ydynt yn wyn yn y gymdeithas hon, yn Blant Ham. Mae darllediad o deledu'r wladwriaeth yn sôn eu bod wedi cael eu symud yn llu i " Famwledydd Cenedlaethol" yn y Midwest, sy'n awgrymu'r mamwledydd cyfnod yr apartheid a sefydlwyd yn Ne Affrica.

Mae'r ddau ryw yn cael eu rhannu'n llym. Mae cymdeithas Gilead yn gwerthfawrogi atgynhyrchu gan ferched gwyn yn fwy na neb arall. Caiff merched eu categoreiddio "yn hierarchaidd yn ôl dosbarth o statws a gallu i atgenhedlu" yn ogystal â "chodau lliw trawsenwol yn ôl eu swyddogaeth a'u llafur" (Kauffman 232). Mae'r Commander yn mynegi'r farn gyffredinol fod merched yn cael eu hystyried yn feddyliol ac yn emosiynol yn israddol i ddynion.

Caiff merched eu gwahanu yn ôl ddillad, a dynion hefyd. Gyda'r eithriad prin, mae dynion yn gwisgo dillad milwrol neu parafilwrol. Caiff pob dosbarth o ddynion a menywod eu diffinio gan y lliwiau maent yn eu gwisgo (fel yn nofel dystopaidd Aldous HuxleyBrave New World), gan dynnu ar symbolaeth a seicoleg lliw. Mae pob unigolion is-statws yn cael eu rheoleiddio gan y côd gwisg.Caiff pob "di-berson" eu halltudio i'r "Trefedigaethau". Mae pob merch anffrwythlon, neu di-briod yn cael eu hystyried i fod yn ddi-personau. Mae dynion a merched yn cael eu hanfon yno'n gwisgo gwisgoedd llwyd.

Menywod cyfiawn[golygu | golygu cod]

Mae'r bonedau sydd gan y Llawforynion i wisgo wedi cael eu modelu ar yr Old Dutch Cleanser.
Gwragedd
Duma'r lefel uchaf a ganiateir i ferched, a gyflawnir drwy briodas i uwch-swyddogion. Mae'r Gwragedd bob amser yn gwisgo ffrogiau glas a chlogynnau, gan awgrymu darluniau traddodiadol o'r Forwyn Fair yng nghelf hanesyddol Cristnogol. Pan fydd Commander yn marw, fydd ei Wraig yn dod yn wraig Weddw, ac fydd raid iddi wisgo mewn du.
Merched
Plant naturiol neu fabwysiadiedig y dosbarth llywodraethol. Maent yn gwisgo gwyn tan priodi, sydd bellach wedi'u trefnu. Efallai fod merch yr adroddwr wedi ei mabwysiadu gan Wraig a Chommander anffrwythlon, ac mae hi yn cael ei dangos mewn llun yn gwisgo gwisg gwyn llaes.
Llawforynion
Merched ffrwythlon, â'u swyddogaeth gymdeithasol yw i ddwyn plant i Wragedd anffrwythlon. Mae Llawforynion yn gwisgo ffrogiau coch hir, capiau gwyn, ac esgidiau trwm. Yn yr haf, maent yn newid i mewn i ffrogiau haf ac esgidiau ysgafnach. Pan yn gyhoeddus, yn y gaeaf, gwisgant gotiau coch mawr at y llawr, mennyg coch, a bonedau trwm gwyn, y maent yn galw'n "adenydd" oherwydd fod eu hochrau'n ymestyn allan, i wahardd eu golwg ymylol ac yn cysgodi eu hwynebau o'r golwg. Mae llawforynion yn ferched ffrwythlon sydd wedi torri'r gyfraith ar un adem neu'i gilydd. Mae'r gyfraith yn cynnwys trosedd rhyw, megis lesbiaeth; a chrefyddol, megis godineb (a gafwyd ei ailddiffinio i gynnwys perthnasoedd rhywiol rhwng partneriaid wedi ysgaru, gan fod ysgaru bellach yn anghyfreithlon). Mae Gweriniaeth Gilead yn cyfiawnhau'r defnydd o lawforynion ar gyfer cenhedlu gan gyfeirio at ddwy hanes beiblaidd: fel fu i Jacob gael rhyw â Bilha a Zilpah, llawforynion ei ddwy wraig oherwydd eu bod'n anffrwythlon (Gen. 30:1-3). Yn y Beibl mae Abraham hefyd yn cael rhyw gyda llawforwyn ei wraig, Hagar (Gen. 16:1-6). Yng Ngilead mae llawforynion yn cael eu neilltuo ar gyfer y Commanders ac yn byw yn eu tai. Pan caent eu ddadneilltuo, maent yn byw yn y canolfannau hyfforddi. Mae Llawforynion sy'n llwyddo i gadw plant yn parhau i fyw yn nhai eu Commanders nes bod eu plant yn cael eu diddyfnu, a'r adeg honno caent eu hanfon ar aseiniad newydd.Caiff y llawforynion sydd yn cynhyrchu plant, fodd bynnag, fyth yn cael ei ddatgan yn "Unwomen" nac eu hanfon i'r Trefedigaethau, hyd yn oed os na chaent fyw o blant.
Modrybedd
Hyfforddwyr y Morynion. Maent yn gwisgo yn frown. Modrybedd hyrwyddo rôl Lawforwyn fel anrhydeddus ffordd ar gyfer pechadurus wraig i wneud iawn am ei hun. Maent hefyd heddlu y Morynion, gan guro rhai a archebu y maiming eraill. Y modrybedd wedi swm anarferol o ymreolaeth, o gymharu â menywod eraill o Gilead. Maent yn y dosbarth yn unig o ferched a ganiateir i ddarllen. ("Y Modrybedd yn cael i ddarllen ac ysgrifennu." Vintage Llyfrau, p. 139. Fodd bynnag, ar t. 100 o Hen Lyfrau argraffiad: "Maent yn chwarae (y Gwynfydau) o disg; y llais oedd dyn." Yn y Angor Llyfrau argraffiad: "Maent yn chwarae (y Gwynfydau) o'r tâp, felly nid hyd yn oed Modryb fyddai'n fod yn euog o bechod darllen. Y llais oedd dyn. (p.89.)")
Marthas
Maent yn anffrwythlon yn hŷn menywod sydd wedi yn y cartref sgiliau ac yn cydymffurfio, gan eu gwneud yn addas fel gweision. Maent yn gwisgo mewn gwyrdd smociau. Mae'r teitl o "Martha" yn seiliedig ar hanes yn Luc 10:38-42, lle mae Iesu ymweliadau Mair, chwaer Lazarus a Martha; Mary yn gwrando ar Iesu Martha tra yn gweithio ar "yr holl y paratoadau y bu'n rhaid eu gwneud".
Econowives
Menywod priod i ddynion o is-reng, nid yw aelodau o'r elite. Maent yn disgwyl i gyflawni holl benyw swyddogaethau: dyletswyddau domestig, cwmnïaeth, a plentyn-dwyn. Eu gwisg amryliw, coch, glas, a gwyrdd i adlewyrchu hyn rolau lluosog, ac yn cael ei wneud o nodedig deunydd rhatach.

Mae rhanniad llafur ymhlith merched yn cynhyrchu rhywfaint o ddrwgdeimlad. Mae Marthas, Gwragedd a Econowives yn gweld Llawforynion yn amlgymharus ac yn cael eu dysgu i'w gwawdio. Mae Offred yn galaru fod merched o'r grwpiau amrywiol hyn wedi colli eu gallu i empatheiddio â'u gilydd. Maent yn cael eu rhannu yn eu gormes.

Merched anghyfreithlon [golygu | golygu cod]

Unwomen
Merched anffrwythlon, y di-briod, rhai gweddwon, ffeministiaid, lesbiaid, lleianod, a merched gydag opiniwn gwleidyddol gwrthwynebol: yr holl ferched nad ydynt yn gallu integreiddio'n gymdeithasol o fewn adrannau rhyw llym y Weriniaeth. Mae Gilead yn alltudio Unwomen i'r "Trefedigaethau", meysydd o gynhyrchu amaethyddol a llygredd marwol. Yn ymuno â nhw yno byddai morynion a fethai ddwyn plentyn ar ôl tri aseiniad deu-flwyddyn.
Jezebels
Perched a gaiff eu gorfodi i fod yn buteiniaid a diddanwyr. Maent ar gael yn unig i'r Commanders a'u gwesteion. Mae Offred yn portreadu Jezebels fel bod yn ddeniadol ac addysgedig; efallent fod yn anaddas fel morynion oherwydd eu natur. Maent wedi cael eu sterileiddio, llawdriniaeth sy'n cael ei wahardd i fenywod eraill. Maent yn gweithredu mewn puteindai answyddogol, ond sydd yn cael eu rhedeg gan y Wladwriaeth, sydd yn anhysbys i'r rhan fwyaf o ferched. Mae'r gair Jezebels, a gaiff ei grybwyll yn y Beibl (noder Brenhines Jesebel yn Llyfrau'r Brenhinoedd), yma'n cael eu gwisgo'n rhywiol fel "yn y cyfnod cynt", fel gwisgoedd 'cheerleaders', gwisg ysgol, a Chwningen Playboy. Gall Jezebels wisgo colur, yfed alcohol a chymdeithasu gyda dynion, ond caent eu rheoli'n llym gan y Modrybedd. Pan maent yn eu hanterth rhywiol a/neu p'ryd fydd eu hedrychiad yn pylu, caent eu taflu heb unrhyw fanyldeb yn y nofel a ydynt yn cael eu lladd neu eu hanfon i'r Trefedigaethau.

Dynion[golygu | golygu cod]

Caiff dynion eu dosbarthu i bedwar prif gategori:

Rheolwyr (Commanders) y Ffyddlon
Y dosbarth llywodraethol. Oherwydd eu statws, maent yn cael yr hawl i sefydlu cartref patriarchaidd gyda Gwraig, Llawforwyn os oes angen, Marthas (gweision benywaidd) a Gwarcheidwaid. Mae ganddynt ddyletswydd i atgenhedlu, ond gall lawer fod yn anffrwythlon, yn bosibl o ganlyniad i amlygiad i asiant bioloegol yn y cyfnod cyn-Gilead. Maent yn gwisgo du i ddynodi rhagoriaeth.
Llygaid
Yr heddlu cud s'yn ceisio darganfod pobl sy'n tarfu ar rheolau Gilead.
Angylion
Milwyr a fu'n ymladd yn y rhyfeloedd er mwyn ehangu ac i amddiffyn ffiniau'r wlad. Caniateir i Angylion briodi.
Gwarcheidwaid (y Ffydd)
Milwyr "a ddefnyddir ar gyfer plismona rheolaidd ac swyddogaethau gwasaidd eraill". Maent yn anaddas ar gyfer gwaith arall yn y Weriniaeth oherwydd eu bod yn "dwp neu hŷn neu anabl neu ifanc iawn, ar wahân i'r rhai sydd yn Llygaid cudd" (pennod 4). Gall Warcheidwaid Ifanc gael eu hyrwyddo i Angylion pan fyddant yn dod i oed. Maent yn gwisgo gwisgoedd gwyrdd.

Caiff dynion sy'n cymryd rhan mewn gwrywgydiaeth, neu sy'n gysylltiedig â gweithredoedd cyffelyb gael eu datgan yn "rhyw-fradwyr"; maent naill ai yn cael eu crogi neu eu hanfon i'r Trefedigaethau i farw'n araf.

Yn y gymdeithas hon, mae namau geni wedi dod yn fwyfwy cyffredin.

Mae dau brif gategori o blant dynol:

Unbabies, a elwir hefyd yn "shredders"
Babanod a anwyd â namau corfforol neu gyda nam geni. Nid ydynt yn goroesi'n hir, ond nid yw Offred yn gwybod beth sy'n digwydd iddynt. Mae gan Llawforynion beichiog ofn i roi genedigaeth i blentyn â nam, neu unbaby. Mae Gilead yn gwahardd erthyliad a'r holl brofion i benderfynu ar iechyd cyn-geni'r ffetws.
Keepers
Babanod sy'n cael eu geni yn fyw gyda dim diffygion.

Y Seremoni[golygu | golygu cod]

Mae'r "Seremoni" yn weithred rywiol di-briodasol er mwyn atgynhyrchu. Mae'r ddefod yn ofynnol ar y Lawforwyn i orwedd ar ei chefn rhwng coesau'r Wraig yn ystod y weithred rhywiol fel pe baent yn un person. Mae raid i'r Wraig wahodd y Lawforwyn i rannu ei rym yn y ffordd hon; mae llawer o Wragedd yn ystyried hyn yn fychaniaeth ac yn sarhaus. Mae Offred yn disgrifio'r seremoni:

My red skirt is hitched up to my waist, though no higher. Below it the Commander is fucking. What he is fucking is the lower part of my body. I do not say making love, because this is not what he's doing. Copulating too would be inaccurate, because it would imply two people and only one is involved. Nor does rape cover it: nothing is going on here that I haven't signed up for.[18]

Yng nghymdeithas ffug ffwndamentalaidd y nofel, mae anffrwythlon yn air "waharddedig".

Atwood

Yn y gymdeithas hon, nid oes y fath beth fel dyn anffrwythlon mwyach. Yn y diwylliant hwn, mae merched yn naill ai'n yn ffrwythlon neu anffrwythlon, yr olaf o'r rhain yn cael eu datgan i fod yn "unwomen" ac yn cael eu hanfon at y trefedigaethau gyda gweddill yr "unwomen" i wneud gwaith bywyd-fygythiol hyd nes eu marwolaeth, sydd, ar gyfartaledd, mewn tair blynedd.

Mae Atwood yn pwysleisio sut mae newidiadau yn y cyd-destun yn effeithio ar ymddygiad ac agweddau, drwy ailadrodd yr ymadrodd "Cyd-destyn yw popeth" trwy gydol y nofel, yn sefydlu y argymhelliad fel motiff.[19] Mae chwarae gêm o Scrabble gyda'i Chommander yn dangos yr allwedd i arwyddocâd y newidiadau yn "cyd-destun"; ar un tro "y gêm i hen ddynion a merched", a daeth gwahardd ar chwarae'r gêm i merched, ac felly yn "ddymunol".[20] Trwy byw mewn cymdeithas foesol anhyblyg, daw Offred i weld y byd mewn ffordd wahanol yn gynharach. Mynegai Offred syndod ar sut "Mae wedi cymeryd ychydig o amser i newid ein meddyliau am bethau".

Atwood

Bu gwisgo dillad sy'n datgelu tipyn o groen a cholur bod yn rhan o'i bywyd blaenorol, ond pan mae hi'n gweld twristiaid Siapaneaidd yn gwisgo yn y ffordd honno, mae hi bellach yn teimlo fod y merched yn gwisgo'n amhriodol.[21]

Mae Offred yn gallu darllen ond ddim yn medru cyfieithu'r ymadrodd "nolite te bastardes carborundorum" sydd wedi ei gerfio i wal y cwpwrdd yn ei hystafell wely bach; mae hyn yn Ladin-ffug (wireb) a gyfieithai i "Peidiwch â gadael i'r bastards eich cael chi i lawr".[22] Mae arwyddocâd yr ymadrodd hwn yn cael ei ddwysau gan y sialensiau mae'r llyfr wedi ei wynebu, gan greu "Mise en abyme" fel y prif gymeriad ac yn ddarllenydd i ddehongli testunau chwyldroadol.

 Dosbarthiad genre[golygu | golygu cod]

Mewn cyfweliadau a thraethodau mae Atwood wedi trafod dosbarthiad generig The Handmaid's Tale fel "ffuglen wyddonol" neu "ffuglen ddamcaniaethol".

Medd enillwr gwobr ffuglen wyddonol Hugo, David Langford mewn colofn: "The Handmaid's Tale enillodd y wobr Wobr Arthur C. Clarke gyntaf ym 1987. Mae hi wedi bod yn ceisio byw hyn i lawr byth ers hynny." Mae'n dweud:

Atwood prefers to say that she writes speculative fiction—a term coined by SF author Robert A. Heinlein. As she told the Guardian, "Science fiction has monsters and spaceships; speculative fiction could really happen." She used a subtly different phrasing for New Scientist, "Oryx and Crake is not science fiction. It is fact within fiction. Science fiction is when you have rockets and chemicals." So it was very cruel of New Scientist to describe this interview in the contents list as: "Margaret Atwood explains why science is crucial to her science fiction." ... Play it again, Ms Atwood—this time for the Book-of-the-Month Club: "Oryx and Crake is a speculative fiction, not a science fiction proper. It contains no intergalactic space travel, no teleportation, no Martians." On BBC1 Breakfast News the distinguished author explained that science fiction, as opposed to what she writes, is characterized by "talking squids in outer space".[3]

Wrth wahaniaethu rhwng y labelau'r genre ffuglen wyddonol a ffuglen ddamcaniaethol, cydnabyddir Atwood y gall pobl eraill ddefnyddio'r termau am yn ail. Ond mae hi'n nodi ei ddiddordeb yn y math hwn o waith mewn archwilio themâu mewn ffyrdd na all "ffuglen realistig" ei wneud.

Cyd-destun hanesyddol[golygu | golygu cod]

Wrth honni bod ei gwaith The Handmaid's Tale yn gwaith o ffuglen ddamcaniaethol, ac nid ffuglen wyddonol, mae nofel Atwood yn cynnig golwg ddychanol o gymdeithas, gwleidyddiaeth, a chrefyddol a tueddiadau yn yr Unol Daleithiau o'r 1980au. Ymhellach, mae Atwood yn cwestiynau beth fyddai'n digwydd os bydd y tueddiadau hyn, ac yn enwedig "yr agweddau ffwrdd-a-hi am ferched" yn cael eu cymryd i eu diweddglo rhesymegol.[23] Parhâ Atwood i ddadlau fod yr holl senarios a gynigir yn The Handmaid's Tale wedi digwydd mewn gwirionedd mewn bywyd go iawn—mewn cyfweliad a roddodd hi i Oryx and Crake, medd Atwood "Fel a The Handmaid's Tale, doeddwn i ddim yn ychwanegu dim and oeddem wedi ei wneud eisioes, rydym ni eisoes yn ei wneud, ein bod o ddifrif yn ceisio ei wneud, ynghyd í'r tueddiadau sydd eisoes ar y gweill... Felly, â'r holl bethau hynny yn wir, mae'r cyfanswm o ddyfais pur yn agos i ddim."[24] Mae Atwood hefyd yn adnabyddus am gario o gwmpas toriadau o bapurau newydd i'w amrywiol gyfweliadau i gefnogi sail ei ffuglen mewn gwirionedd.[25] Eglurai Atwood fod The Handmaid's Tale yn ymateb i'r rhai sy'n honni na allai llywodraethau gormesol, totalitaraidd, a chrefyddol sydd wedi cymryd grym mewn gwledydd eraill drwy gydol y blynyddoedd "ddim yn digwydd yma,"—ond yn ei gwaith hi, mae wedi rhoi cynnig i ddangos sut y gall y fath feddiannu efallai chwarae allan.[26]

Cafodd Atwood yr ysbrydoliaeth ar gyfer Gweriniaeth Gilead o'i hamser yn astudio Piwritaniaid America Cynnar tra yn Harvard, pan gafodd hi Gymrodoriaeth Woodrow Wilson. Dadlai Atwood fod y daliadau modern o'r Piwritaniaid—sef eu bod wedi dod i America i ffoi erledigaeth crefyddol yn Lloegr ac yn creu cymdeithas grefyddol oddefgar—yn gamarweiniol, ac yn hytrach, mae eu arweinwyr Piwritanaidd yn awyddus i sefydlu theocratiaeth monolithig lle na fyddai anghydffurfio crefyddol yn cael ei oddef. Mae gan Atwood hefyd gysylltiad personol i'r Piwritaniaid, ac mae'n cysegru'r nofel iw hynafiad Mary Webster, a gafodd ei chyhuddo o ddewiniaeth ym Mhiwritanaith Lloegr Newydd ond iddi oroesi cael ei chrogi.[27] O ganlyniad i natur gymdeithas totalitaraidd Gilead, mae Atwood yn creu'r lleoliad hyn wrth dynnu oddi wrth y "ddelfrydiaeth iwtopaidd" a fu'n bresennol yn rhai o gyfundrefnau'r 20g yn Cambodia a Romania, yn ogystal â'r cynharach ym Mhiwritaniaeth Lloegr Newyddyn. Dadlai Atwood bod gwrthryfel llwyddiannus Gilead, yn The Handmaid's Tale, yn enghraifft lle byddai camddefnyddio crefydd er mwyn cyflawni ei ben ei hun yn dod i ben:[28]

... os ydych yn awyddus i gipio grym yn yr Unol Daleithiau, a ddiddymu'r ddemocratiaeth rhyddfrydol a sefydlu unbennaeth, sut y byddech yn mynd ati i gyflawni hyn? Beth fyddai eich stori ar y clawr? Ni fyddai'n debyg i unrhyw fath o gomiwnyddiaeth neu sosialaeth: byddai'r rhain yn rhy amhoblogaidd...Yn ôl pob golwg bydd gwledydd byth ynffurfio llywodraethau radical ar seiliau nad ydynt yno eisoes. Felly fu i Tsieina ddisodli un wladwriaeth biwrocrataidd gyda gwladwriaeth biwrocratiaeth tebyg mewn enw gwahanol, a bu i'r Undeb Sofietaidd disodli eu heddlu cudd imperialaidd bondigrybwyll gydag un mwy bondigrybwyll hyd yn oed mwy, ac yn y blaen. A felly sylfaen dwfn yr Unol Daleithiau – fel aeth fy meddwl – nid yr hyn oedd yn gymharol ddiweddar o strwythurau'r Oes Oleuol y weriniaeth o'r 18fed ganrif, gyda'u sôn am gyfartalwch a gwahaniad yr eglwys a'r wladwriaeth, ond y theocratiaeth llaw-drom Piwritaniaid Lloegr Newydd o'r 17eg ganrif, gyda'u ragfarn yn erbyn mereched, a byddai angen dim ond y cyfle i gael cyfnod o anhrefn cymdeithasol i ailddatgan ei hun. Fel unrhyw theocratiaeth, byddai'n dewis ychydig o rannau o'r Beibl er mwyn cyfiawnhau ei weithredoedd, a fyddai'n pwyso drwm tuag at yr Hen Destament, a nid tuag at y Newydd.[29]

Medd Atwood, wrth sôn am arweinwyr Gilead:

I don't consider these people to be Christians because they do not have at the core of their behavior and ideologies what I, in my feeble Canadian way, would consider to be the core of Christianity … and that would be not only love your neighbors but love your enemies. That would also be 'I was sick and you visited me not' and such and such …And that would include also concern for the environment, because you can't love your neighbor or even your enemy, unless you love your neighbor's oxygen, food, and water. You can't love your neighbor or your enemy if you're presuming policies that are going to cause those people to die. … Of course faith can be a force for good and often has been. So faith is a force for good particularly when people are feeling beleaguered and in need of hope. So you can have bad iterations and you can also have the iteration in which people have got too much power and then start abusing it. But that is human behavior, so you can't lay it down to religion. You can find the same in any power situation, such as politics or ideologies that purport to be atheist. Need I mention the former Soviet Union? So it is not a question of religion making people behave badly. It is a question of human beings getting power and then wanting more of it.[17]

Yn yr un modd, mae Atwood hefyd yn datgan fod "Yn y byd go iawn heddiw, mae rhai grwpiau crefyddol yn arwain y gâd ar gyfer diogelu grwpiau sy'n agored i niwed, gan gynnwys merched." Mae Atwood hefyd yn cysylltu'r ffyrdd mae arweinwyr Gilead yn cynnal eu grym ac enghreifftiau eraill o lywodraethau totalitaraidd. Yn ei chyfweliadau, cynnigiodd Atwood Afghanistan fel enghreifft o theocratiaeth grefyddol sy'n gorfodi merched allan o'r byd cyhoeddus ac i'w cartrefi, fel yn Ngilead. Y "llofruddiaeth a gyflawnwyd gan y wladwriaeth fel cosb i anghydffurfwyr" a gafodd ei efelychu'n y Philippinau, ac yn olaf, Ysgrifennydd Cyffredinol Plaid Gomiwnyddol Rwmania, Nicolae Ceaușescu a'i obsesiwn gyda chynyddu'r gyfradd geni a arweiniodd at reoli llym ar ferched beichiog a'r gwahardd ar atal cenhedlu ac ecthylu. Fodd bynnag, eglurai Atwood fod llawer o hyn yn druenus a bod y gweithredoedd hyn nid yn unig yn bresennol yn y diwylliannau a gwledydd eraill, "ond o fewn cymdeithas y Gorllewin, ac o fewn y traddodiad 'Cristnogol' ei hun".

Mae gan Gweriniaeth Gilead drafferth gyda anffrwythlondeb, mae gwneud i Offred wasanaethau fel Llawforwyn yn hanfodol i gynhyrchu plant a thrwy hynny atgynhyrchu'r gymdeithas. Mae Llawforynion eu hunain yn "anghyffyrddadwy", ond mae eu gallu i ddynodi statws yn cyfateb i gaethweision neu weision drwy gydol hanes. Atwood yn cysylltu eu pryderon ā anffrwythlondeb i broblemau bywyd go iawn, fel mae'n byd ni'n ei wynebu, megis ymbelydredd, llygredd cemegol, a chlefyd gwenerol (caiff HIV/AIDS ei grybwyll yn benodol yn y "Nodiadau Hanesyddol yn adran" ar ddiwedd y nofel, a oedd glefyd cymharol newydd ar y pryd oedd Atwood yn ysgrifennu a doedd ei effaith hir dymor ddim yn wyddus). Mae safiad cryf Atwood ar faterion amgylcheddol a sgîl-effeithiau negyddol ar ein cymdeithas wedi cyflwyno ei hun mewn gweithiau eraill, megis ei drioleg MaddAddam, ac yn cyfeirio yn ôl at ei magwraeth gyda biolegwyr a'i chwilfrydedd gwyddonol ei hun.[30]

Derbyniad beirniadol[golygu | golygu cod]

Cafodd The Handmaid's Tale dderbyniad da gan feirniaid, gan helpu i atgyfnerthu statws Atwood fel awdur amlwg yr 20g. Nid yn unig ystyrwyd y llyfr fel un oedd wedi ei ysgrifennu'n dda a grymus, ond roedd gwaith Atwood yn nodedig am sbarduno dadleuon dwys i mewn ac allan o'r byd academaidd.[31] Mae Atwood yn crybwyll mai dim ond tueddiadau allosodol sydd eisoes yw gweld yn yr Unol Daleithiau ar amser yr ysgrifennu yw Gweriniaeth Gilead, barn a gefnogir gan ysgolheigion eraill sy'n astudio The Handmaid's Tale.[32] Yn wir, mae llawer wedi gosod The Handmaid's Tale yn yr un categori o ffuglen dystopaidd â Nineteen Eighty-Four a Brave New World, gyda nodwedd ychwanegol o wynebu patriarchaeth, categoreiddio mae Atwood wedi ei derbyn ac sy'n cael ei ailadrodd mewn llawer o erthyglau a chyfweliadau.[33]

Hyd yn oed heddiw, mae llawer o adolygwyr yn parhau i ddal nofel Atwood i fod mor ddrwgargoeledig a phwerus ag erioed, yn bennaf oherwydd ei sail mewn ffaith hanesyddol.[34][35] Ac eto pan gyhoeddwyd y nofel gyntaf ym 1985, doedd pob arolygwr ddim mor argyhoeddedig o'r "hanes rhybuddiol" a gyflwynodd Atwood. Er enghraifft, dadlai Mary McCarthy o'i hadolygiad yn y New York Times fod The Handmaid's Tale yn ddiffyg " y synnu i gydnabod" angenrheidiol ar gyfer darllenwyr i weld "ein presennol ein hunain mewn drych camystumiol, a beth efallai y byddwn yn troi i fod os bydd y tueddiadau presennol yn cael eu caniatáu i barhau".[36]

Yn dilyn ymddangosiad y gyfres deledu cyntaf yn 2017, nid oedd llawer o drafod ynghylch y tebygrwydd y gallai gael ei dynnu rhwng y gyfres (a thrwy estyniad, yn y llyfr hwn) â'r gymdeithas Americanaidd yn dilyn ethol Donald Trump a Mike Pence fel Arlywydd yr Unol Daleithiau ac yn Is-Lywydd yr Unol Daleithiau, yn y drefn honno.[37][38]

Darllen Ffeministaidd [golygu | golygu cod]

Mae llawer o'r drafodaeth ynghylch The Handmaid's Tale wedi ei ganoli ar ei gategoreiddio fel llenyddiaeth ffeministaidd. Nid yw Atwood yn gweld Gweriniaeth Gilead fel dystopia ffeministaidd yn unig, gan nad yw pob dyn yn cael mwy o hawliau na menywod. Yn hytrach, mae'r gymdeithas hon yn cyflwyno unbennaeth nodweddiadol: "siâp fel pyramid, gyda'r mwyaf pwerus o'r ddau ryw ar y brig, y dynion yn gyffredinol yn uwch yn eu swydd na merched ar yr un lefel; yna i lawr y lefelau o rym a statws gyda dynion a menywod yn yr un, yr holl ffordd i lawr i'r gwaelod, lle mae'n raid i ddynion ddi-briod wasanaethu yn y rhengoedd yn cael eu gobrwyo â Econowife". Yn ogystal, dadlai Atwood er fod rhai o'r sylwadau sy'n hysbysu cynnwys The Handmaid's Tale allai fod yn ffeministaidd, nid yw ei nofel i fod i olygu "un peth i un person" neu yn gwasanaethu fel neges gwleidyddol—yn hytrach, "astudiaeth o bŵer, a sut mae'n gweithredu a sut y mae'n anffurfio neu siapio'r bobl sy'n byw o fewn y math hwnnw o drefn" yw'r The Handmaid's Tale.

Mae rhai ysgolheigion wedi cynnig y fath ddehongliad ffeministaidd, fodd bynnag, gan gysylltu defnydd Atwood o ffwndamentaliaeth grefyddol yn y tudalennau yn The Handmaid's Tale fel condemnïaeth o'u presenoldeb yn y gymdeithas Americanaidd bresennol.[39][40] Eto i gyd mae eraill wedi dadlau fod The Handmaid's Tale yn beirniadaeth nodweddiadol o syniadau o ffeministiaeth, fel mae nofel Atwood yn ymddangos i gwyrdroi y delfrydau traddodiadol o "ferched yn helpu merched" y mudiad ac yn troi tuag at y posibilrwydd o "y rydwaith fatriarchaidd ... a ffurf newydd o wreig-gasineb: casineb merched yn erbyn merched".[41]

Hil[golygu | golygu cod]

Mae beirniaid eraill nodweddu The Handmaid's Tale fel "ffeministiaeth gwyn", gan nodi bod Atwood yn gwneud i ffwrdd â'r bobl ddu mewn ychydig o linellau trwy symud y "Plant o Ham" tra benthyca'n drwm o brofiad Affro-Americanaidd ac yn ei gymhwyso i ferched gwyn.[42] Mae beirniaid eraill wedi nodi'r tebygrwydd gyda apartheid a'i fod yn camgyfleu sut mae pobl ddu'n gwrthsefyll mewn cyfnodau o argyfwng. Mae'r awdur Mikki Kendall yn ei ddweud am y llyfr,

It requires me to believe that not only are my people gone, but often that they vanished quietly without any real resistance. As if. Like...Black people did not survive slavery, Jim Crow & the War on Drugs to be taken out by a handful of white boys with guns.[43][44]

Gwobrau[golygu | golygu cod]

  • 1985 – Gwobr y Llywodraethwr Cyffredinol am ffuglen iaith Saesneg (enillydd)
  • 1986 – Gwobr Booker (enwebwyd)
  • 1986 – Gwobr Nebula (enwebwyd)
  • 1987 – Gwobr Arthur C. Clarke (enillydd)[a]
  • 1987 – Gwobr Prometheus (enwebwyd)[b]
  • Gwobr Llenyddiaeth y Gymanwlad, (enillydd)
  • Gwobr Awdur Rhyngwladol Celfyddydau Cymru (enillydd)

Derbyniad Academaidd [golygu | golygu cod]

Mae nofelau Atwood, ac yn enwedig ei gwaith ffuglennau damcaniaethus The Handmaid'sTale ac Oryx and Crake, yn aml yn cael eu cynnig fel enghreifftiau ar gyfer y rownd derfynol, cwestiwn penagored yn arholiad Llenyddiaeth Saesneg a Chyfansoddiad Lleoliadau Uwch Gogledd America Llenyddiaeth bob blwyddyn.[45] Fel y cyfryw, mae ei llyfrau yn aml yn cael eu neilltuo yn yr ysgolion uwchradd a dosbarthiadau i fyfyrwyr sy'n cymryd y cwrs Gosodiadau Uwch, er gwaethaf themâu aeddfed y gwaith cyflwyno. Mae Atwood ei hun wedi mynegi syndod bod ei llyfrau yn cael eu neilltuo i gynulleidfaoedd ysgolion uwchradd, yn bennaf oherwydd ei haddysg gul yn y 1950au, ond mae hi wedi sicrhau darllenwyr nad yw'r cynnydd hwn mewn sylw gan fyfyrwyr ysgolion uwchradd wedi newid y deunydd mae hi wedi dewis i ysgrifennu am ers hynny.[46]

Mae llawer o bobl wedi mynegi anfodlonrwydd ar bresenoldeb The Handmaid's Tale yn yr ystafell ddosbarth, ac mae'n aml wedi cael ei herio neu ei wahardd dros y 30 mlynedd diwethaf. Mae rhai o'r heriau hyn wedi dod oddi wrth y rhino sy'n pryderu am y cynnwys rhywioldeb a themâu oedolion a gynrychiolir yn y llyfr. Mae eraill wedi dadlau bod The Handmaid's Tale yn darlunio barn negyddol am grefydd, barn a gefnogir gan nifer o academyddion sy'n cynnig fod gwaith Atwood yn dychanu ffwndamentalwyr crefyddol cyfoes yn yr Unol Daleithiau, gan gynnig beirniadaeth ffeministaidd o beth mae'r tueddiad hwn i'r Dde yn ei gynrychioli.

Mae'r Gymdeithas Lyfrgell Americanaidd (ALA) yn rhestru The Handmaid's Tale fel rhif 37 ar y "100 o lyfrau a Heriwyd Fwyaf Aml o 1990-2000".[47] Cymerodd Atwood ran mewn trafodaeth am The Handmaid's Tale mewn testun trafod yr ALA mewn cyfres o'r enw "Un Llyfr, Un Gynhadledd".[48]

Mae rhai cwynion yn cynnwys:

  • 1990: Heriwyd yn Rancho Cotate High School, Rohnert Park, California, yn rhy gignoeth i fyfyrwyr.
  • 1992: Heriwyd mewn ysgolion yn Waterloo, Iowa, yn honedig oherwydd cabledd, darnau o iaith liwgar ynghylch rhyw, a datganiadau yn ddifenwol i leiafrifoedd, Duw, merched, a phobl anabl.
  • 1993: Tynnwyd oddi ar rest ddarllen y dosbarth Saesneg ysgol uwchradd oherwydd cabledd a rhyw o Chicopee, Massachusetts.
  • 1998: Heriwyd ar gyfer eu defnyddio yn Richland, Washington, dosbarthiadau Saesneg ysgol uwchradd, ynghyd â chwe teitl arall oherwydd eu bod o "ansawdd llenyddol gwael a [bod] yn pwysleisio hunanladdiad, rhyw anghyfreithlon, trais, ac anobaith".
  • 1999: Heriwyd oherwydd rhyw graffig, ond fe'i gedwid ar restr gosodiad uwch Saesneg, yn Ysgol Uwchradd George Chamberlain, Tampa, Florida.
  • 2000: Israddio o "angen" a "dewisol" ar restr ddarllen yr haf i 'eleven graders' yn Upper Moorland School District ger Philadelphia o ganlyniad i "oedran amhriodol" y pwnc.
  • 2001: Heriwyd, ond fe'i cedwid, yn Dripping Springs, Texas, Gosodiad Uwch cwrs Saesneg fel aseiniad darllen dewisol. Mae rhai rhieni yn cael eu tramgwyddo gan y llyfr am ddisgrifiadau o gyfathrach rywiol.
  • 2006: Ar y dechrau gwaharddwyd gan yr Arolygydd Ed Lyman o Osodiad Uwch Saesneg yn y cwricwlwm yn Ysgol annibynnol Ardal Judson, Texas, yn ôl i riant yno gwyno. Roedd Lyman wedi gwrthod argymhelliad y pwyllgor athrawon, myfyrwyr, a rhieni; fe fu i'r pwyllgor apelio yn erbyn y penderfyniad i fwrdd yr ysgol, a bu gwrthdroad ar ei wahardd.
  • 2012: Heriwyd fel darn o darllen gofynnol yn nosbarth Bagloriaeth Rhyngwladol Ysgol Uwchradd Page ac fel darllen dewisol ar gyfer cyrsiau darllen Gosodiad Uwch Ysgol Uwchradd Grimsley yn Greensboro, Gogledd Carolina gan fod y llyfr yn "rhywiol gignoeth, yn dreisgar graffig ac yn foesol lygredig". Credai rhai rhieni fod y llyfr "yn niweidiol i werthoedd Cristnogol".[49]

Yn ôl Gohebydd Addysg Kristin Rushowy o'r Toronto Star (16 Ionawr, 2009), yn 2008 bu i riant yn Toronto, Ontario, Canada, ysgrifennu llythyr at brif athro ysgol uwchradd ei fab, yn gofyn i'r llyfr bellach gael ei neilltuo fel llyfr darllen gofynnol, gan nodi bod y nofel yn "rhemp gyda creulondeb tuag at a chamdriniaeth o fenywod (a dynion ar adegau), golygfeydd rhywiol, a dirwasgiad llwm".[50] Dyfynnodd Rushowy ymateb yr Athro ar Saesneg Russell Morton Brown, gynt o Prifysgol Toronto rwan wedi ymddeol, sy'n cydnabod bod:

"Go brin yr ysgrifennwyd The Handmaid's Tale ar gyfer (pobl) 17-mlwydd-oed, ond nid yw llawer o'r pethau yr ydym yn addysgu mewn ysgol uwchradd, megis Shakespeare... Ac maent i gyd yn well allan o'u ddarllen. Mae'nt bron iawn yn oedolion yn barod, ac nid oes pwynt eu maldodi," meddai, gan ychwanegu, "nad ydynt yn cael eu maldodi o ran y cyfryngau torfol heddiw beth bynnag"... Dywedodd fod y llyfr wedi cael ei gyhuddo o fod yn gwrth-Gristnogol ac, yn fwy diweddar, gwrth-Islamaidd oherwydd fod y merched yn goruchddiedig ac fe ganiateir amlwreigiaeth ... Ond bod hynny'n "methu'r pwynt", dywedodd Brown. "Mewn gwirionedd mae'n wrth-ffwndamentaliaeth."

Yn ei hadroddiad cynharach (14 Ionawr 2009), adroddodd Rushowy mai pwyllgor o Bwrdd Ardal Ysgol Toronto oedd yn "adolygu'r nofel". Gan nodi Fod "The Handmaid's Tale yn cael ei restru fel un o'r '100 o lyfrau sydd yn cael ei herio fwyaf aml' rhwng 1990 a 1999 ar wefan Cymdeithas Llyfrgell Americanaidd",medd Rushowy bod Cymdeithas Llyfrgell Canadad yn dweud nad yw 'does dim un enghraifft hysbys o her i'r nofel hon yng Nghanada', ond dywed y llyfr a elwir yn gwrth-Gristnogol a phornograffig gan rieni ar ôl cael ei osod ar y rhestr ddarllen i fyfyrwyr uwchradd yn Nhexas yn y 1990au."[51]

Ym mis Tachwedd 2012, bu dau riant yn Guilford County, Gogledd Carolina yn protestio yn erbyn cynnwys y llyfr ar rhestr ddarllen mewn ysgol uwchradd leol. Fe gyflwynnwyd y llyfr gan y rhieni i fwrdd yr ysgol gyda deiseb a lofnodwyd gan 2,300 o bobl, i annog adolygiad o'r llyfr gan bwyllgor y cyfryngau ymgynghorol. Yn ôl adroddiadau'r newyddion lleol, meddai un o'r rhieni "ei bod yn teimlo fod myfyrwyr Cristnogol yn cael eu bwlio yn y gymdeithas, ac eu bod yn cael eu gwneud i deimlo'n anghyfforddus am eu credoau, gan anghredinwyr. Meddai fod cynnwys ffasiwn lyfrau fel The Handmaid'sTale yn cyfrannu at y anghysur, oherwydd ei barn negyddol ar grefydd ac mae ei agweddau gwrth-feiblaidd tuag at ryw."[52]

Defnydd arall yn y byd academaidd[golygu | golygu cod]

Mewn sefydliadau addysg uch, mae athrawon wedi sylweddoli fod The Handmaid's Tale yn ddefnyddiol, yn bennaf oherwydd ei sail hanesyddol a chrefyddol hudolus mae Atwood yn gyflawni. Mae pwyntiau addysgu'r nofel yn cynnwys: cyflwyno gwleidyddiaeth a gwyddorau cymdeithasol i fyfyrwyr mewn ffordd mwy concrid ;[53][54] yn dangos pwysigrwydd darllen er mwyn ein rhyddid, yn deallusol a gwleidyddol;[55] ac yn cydnabod yr "amlygiadau o bŵer mwyaf llechwraidd a threisgar yn hanes y Gorllewin" mewn modd tymus.[56] M ae'rbennod yn dwyn y teitl "Nodiadau Hanesyddol" ar ddiwedd y nofel hefyd yn cynrychioli rhybudd i academyddion sydd yn rhedeg y risg o camddarllen camddeall testunau hanesyddol, gan bwyntio at yr Athro Pieixoto a ddychanwyd fel enghraifft o ysgolhaig a gymerodd drosodd a threchodd naratif Offred gyda'i ddehongliad eu hun.[57]

Mewn cyfryngau eraill[golygu | golygu cod]

Ffilm[golygu | golygu cod]

Teledu[golygu | golygu cod]

  • Mae Hulu wedi cynhyrchu cyfres deledu o nofel sy'n serennu Elisabeth Moss fel Offred. Rhyddhawyd y tair pennod gyntaf ar 26 Ebrill 2017, gyda'r penodau dilynol ar sail darllediadau wythnosol. Bu Margaret Atwood yn gwasanaethu fel cynhyrchydd ymgynghorol. Enillodd y gyfres wyth Emmys yn 2017, gan gynnwys y gorau mewn y Cyfres Ddrama Neilltuol, Prif Actores Mewn Cyfres Ddrama (Elisabeth Moss), Ysgrifennu Neiltuol ar Gyfer Cyfres Ddram (Bruce Miller), Actores Gefnogol Neilltuol Mewn Cyfres Ddrama (Ann Dowd),Cyfarwyddo Neilltuol ar Gyfer Cyfres Ddrama (Reed Morano).[58] Fe adnewyddwyd y gyfres am ail dymor, a ddechreuwyd darlledu ar 25 Ebrill 2018, ac ym mis Mai 2018, cyhoeddodd Hulu eu bwriad i gynhyrchu trydydd tymor.[59].

Radio[golygu | golygu cod]

  • Addasiad dramatig o'r nofel ar gyfer radio a gynhyrchwyd ar gyfer BBC Radio 4 gan John Dryden yn 2000.
  • Addasiad ddramatig o Ganada ar gyfer radio a ysgrifennwyd gan y dramodydd Michael O'Brien a gynhyrchwyd ar CBC Radio yn 2002.

Sain[golygu | golygu cod]

  • Mae audiobook y testun cyflawn, darllennir gan Claire Danes (ISBN 97814915191109781491519110), a enillodd y wobr 2013 Audie Award am ffuglen.[60]
  • Yn 2014, rhyddhawyd albwm gan fand o Ganada, Lakes of Canada Transgressions, a fwriadwyd i fod yn albwm gysyniad wedi'i hysbrydoli gan The Handmaid's Tale.[61]

Llwyfan[golygu | golygu cod]

  • Bu i addasiad llwyfan a ysgrifennwyd ac a gyfarwyddwyd gan Bruce Shapiro gael ei lwyfannu ym Mhrifysgol Tufts ym 1989.[62]
  • Cafodd addasiad operatig, The Handmaid's Tale, gan Poul Ruders, ei lwyfannu am y tro cyntaf yn Copenhagen ar 6 Mawrth 2000, a gafodd ei berfformio gan yr Opera Genedlaethol Lloegr, yn Llundain, yn 2003.[63] Roedd y cynhyrchiad ar agoriad tymor 2004-2005 o Gwmni Opera Canada.[64]
  • Bu addasiad llwyfan o'r nofel, gan Brendon Burns, ar gyfer Theatr Haymarket, Basingstoke, Lloegr, ar daith o amgylch y DU yn 2002.[65]
  • Bu addasiad bale a goreograffwyd gan Lila York a gynhyrchwyd gan Bale Brenhinol Winnipeg am y tro cyntaf ar 16 Hydref 2013. Bu Amanda Green yn ymddangos fel Offred ac Alexander Gamayunov fel Y Commander.[66]
  • Sioe lwyfan un-ferch, a addaswyd o'r nofel, gan Joseph Stollenwerk llwyfannwyd am y tro cyntaf yn yr Unol Daleithiau ym mis Ionawr 2015.[67]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

  • Llenyddiaeth Canada
  • Ffuglen wyddonol ffeministaidd
  • Beichiogrwydd mewn ffuglen wyddonol
  • Persepolis (comics)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "The Handmaid's Tale Study Guide: About Speculative Fiction". Gradesaver. 22 May 2009.
  2. Atwood, Margaret (17 June 2005). "Aliens have taken the place of angels". The Guardian. UK. If you're writing about the future and you aren't doing forecast journalism, you'll probably be writing something people will call either science fiction or speculative fiction. I like to make a distinction between science fiction proper and speculative fiction. For me, the science fiction label belongs on books with things in them that we can't yet do, such as going through a wormhole in space to another universe; and speculative fiction means a work that employs the means already to hand, such as DNA identification and credit cards, and that takes place on Planet Earth. But the terms are fluid. Some use speculative fiction as an umbrella covering science fiction and all its hyphenated forms–science fiction fantasy, and so forth–and others choose the reverse... I have written two works of science fiction or, if you prefer, speculative fiction: The Handmaid's Tale and Oryx and Crake. Here are some of the things these kinds of narratives can do that socially realistic novels cannot do.
  3. 3.0 3.1 Langford 2003.
  4. Douthat, Ross (24 May 2017). "'The Handmaid's Tale and Ours'". The New York Times (yn English). Now, in the era of the Trump administration, liberal TV watchers find a perverse sort of comfort in the horrific alternate reality of the Republic of Gilead, where a cabal of theonomist Christians have established a totalitarian state that forbids women to read, sets a secret police to watch their every move and deploys them as slave-concubines to childless elites. |access-date= requires |url= (help)CS1 maint: unrecognized language (link)
  5. Grace, DM (1998). "Handmaid's Tale Historical Notes and Documentary Subversion". Science Fiction Studies (Science Fiction Studies) 25 (3): 481–94. JSTOR 4240726.
  6. "The Handmaid's Tale Study Guide: Character List". Gradesaver. 22 May 2009.
  7. Atwood, Margaret (10 March 2017). "Margaret Atwood on What 'The Handmaid's Tale' Means in the Age of Trump". The New York Times. Cyrchwyd 11 March 2017.
  8. Atwood 1986, t. 220.
  9. "Offred’s Real Name In 'The Handmaid’s Tale' Is The Only Piece Of Power She Still Holds" by Dana Getz, Bustle, April 26, 2017, "In Margaret Atwood's original novel, Offred's real name is never revealed. Many eagle-eyed readers deduced that it was June based on contextual clues: Of the names the Handmaids trade in hushed tones as they lie awake at night, "June" is the only one that's never heard again once Offred is narrating." https://www.bustle.com/p/offreds-real-name-in-the-handmaids-tale-is-the-only-piece-of-power-she-still-holds-53607
  10. Madonne 1991
  11. Oates, Joyce Carol (2 November 2006). "Margaret Atwood's Tale". The New York Review of Books. Cyrchwyd 29 March 2016.
  12. Mccarthy, Mary (1986-02-09). "No Headline - The New York Times". Nytimes.com. Cyrchwyd 2018-04-26.
  13. Lucie-Smith, Alexander (29 May 2017). "Should Catholics watch The Handmaid's Tale?" (yn English). The Catholic Herald. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-08-04. Cyrchwyd 18 June 2017.CS1 maint: unrecognized language (link)
  14. Blondiau, Eloise (28 April 2017). "Reflecting on the frightening lessons of 'The Handmaid's Tale'" (yn English). America. Cyrchwyd 21 June 2017.CS1 maint: unrecognized language (link)
  15. Atwood, Margaret (10 March 2017). "Margaret Atwood on What 'The Handmaid's Tale' Means in the Age of Trump" (yn English). The New York Times. Cyrchwyd 21 June 2017.CS1 maint: unrecognized language (link)
  16. O'Hare, Kate (16 April 2017). "'The Handmaid's Tale' on Hulu: What Should Catholics Think?" (yn English). Faith & Family Media Blog. Cyrchwyd 18 June 2017.CS1 maint: unrecognized language (link)
  17. 17.0 17.1 Williams, Layton E. (25 April 2017). "Margaret Atwood on Christianity, 'The Handmaid's Tale,' and What Faithful Activism Looks Like Today" (yn English). Sojourners. Cyrchwyd 18 June 2017.CS1 maint: unrecognized language (link)
  18. Atwood 1998, t. 94.
  19. Atwood 1998, tt. 144, 192.
  20. Atwood 1998, tt. 178–79.
  21. Atwood 1998, t. 161.
  22. Atwood 1998, tt. 235.
  23. "An Interview with Margaret Atwood on her novel, The Handmaid's Tale" (PDF). Nashville Public Library. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2016-04-13. Cyrchwyd 27 March 2016.
  24. Gruss, Susanne (2004). ""People confuse interpersonal relations with legal structures." An Interview with Margaret Atwood". Gender Forum. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-04-27. Cyrchwyd 28 March 2016.
  25. Neuman, Shirley (2006). "'Just a Backlash': Margaret Atwood, Feminism, and The Handmaid's Tale". University of Toronto Quarterly. https://muse.jhu.edu/journals/university_of_toronto_quarterly/v075/75.3neuman.html#FOOT6. Adalwyd 25 March 2016.
  26. Rothstein, Mervyn (17 Chwefror 1986). "No Balm in Gilead for Margaret Atwood". The New York Times. Cyrchwyd 25 March 2016.
  27. Evans, Mark (1994). Nicholson, Colin (gol.). Versions of History: The Handmaid's Tale and its Dedicatees. London: Palgrave Macmillan UK. tt. 177–188.
  28. "Emma Watson interviews Margaret Atwood about 'The Handmaid's Tale'" (yn English). Entertainment Weekly. 14 July 2017. Cyrchwyd 26 July 2017. Recently, someone said, “Religion doesn’t radicalize people, people radicalize religion.” So you can use any religion as an excuse for being repressive, and you can use any religion as an excuse for resisting repression; it works both ways, as it does in the book. So that was one set of inspirations.CS1 maint: unrecognized language (link)
  29. Atwood, Margaret (20 January 2012). "Haunted by the Handmaid's Tale". The Guardian. Cyrchwyd 3 March 2016.
  30. Curwood, Steve (13 June 2014). "Margaret Atwood on Fiction, The Future, and Environmental Crisis". Living on Earth. Cyrchwyd 27 March 2016.
  31. Greene, Gayle (July 1986). "Choice of Evils". The Women's Review of Books. JSTOR 4019952.
  32. Gosodwch destun y dyfyniad yma, heb ddyfynodau.
  33. Atwood, Margaret (May 2004). "The Handmaid's Tale and Oryx and Crake "In Context"". PMLA. https://archive.org/details/oryxcrakenovel00atwo.
  34. Robertson, Adi (20 December 2014). "Does The Handmaid's Tale hold up?". The Verge. Cyrchwyd 28 March 2016.
  35. Newman, Charlotte (25 September 2010). "The Handmaid's Tale by Margaret Atwood". The Guardian. Cyrchwyd 22 March 2016.
  36. McCarthy, Mary (9 Chwefror 1986). "Book Review". The New York Times. Cyrchwyd 29 Mawrth 2016.
  37. For articles that attempt to draw parallels between The Handmaid's Tale and Trump's election as President of the United States, see:
  38. For articles that disagree with attempts to draw parallels between The Handmaid's Tale and Trump's election as President of the United States, see:
  39. Hines, Molly (2006). "Margaret Atwood's "The Handmaid's Tale": Fundamentalist religiosity and the oppression of women". Angelo State University. http://search.proquest.com/docview/304914133/abstract/2573C15A1C0844DAPQ/1?accountid=9920. Adalwyd 28 March 2016.
  40. Mercer, Naomi (2013). ""Subversive Feminist Thrusts": Feminist Dystopian Writing and Religious Fundamentalism in Margaret Atwood's "The Handmaid's Tale", Louise Marley's "The Terrorists of Irustan", Marge Piercy's "He, She and It", and Sheri S. Tepper's "Raising the Stones"". University of Wisconsin – Madison. http://search.proquest.com/docview/1428851608/abstract/D3C5F41D0BB1478DPQ/1?accountid=9920. Adalwyd 29 March 2016.
  41. Callaway, Alanna (2008). "Women disunited: Margaret Atwood's The Handmaid's Tale as a critique of feminism". San Jose State University. http://scholarworks.sjsu.edu/cgi/viewcontent.cgi?article=4501&context=etd_theses. Adalwyd 28 March 2016.
  42. Smith, Kyle (April 28, 2017). "The Handmaid's Tale: A White Feminist Dystopia". New York Post. Cyrchwyd June 18, 2017.[dolen marw]
  43. Kendall, Mikki (June 2017). "The Handmaid's Tale's Greatest Failing Is How It Handles Race". Vulture.
  44. "Mikki Kendall @Karnythia". Twitter.
  45. Douthat, Ross (May 24, 2017). "AP English Literature and Composition Exam". The New York Times. Cyrchwyd 26 March 2016.
  46. Perry, Douglas (30 December 2014). "Margaret Atwood and the 'Four Unwise Republicans': 12 surprises from the legendary writer's Reddit AMA". The Oregonian. Cyrchwyd 29 March 2016.
  47. "The 100 Most Frequently Challenged Books of 1990–2000". American Library Association. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-05-15. Cyrchwyd 2018-08-02.
  48. "Annual Report 2002–2003: One Book, One Conference". American Library Association. June 2003. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 December 2009. Cyrchwyd 21 May 2009. Unknown parameter |deadurl= ignored (help) Concerns inaugural program featuring Margaret Atwood held in Toronto, 19–25 June 2003.
  49. Doyle, Robert P. (2017). Banned Books: Defending Our Freedom to Read. American Library Association. ISBN 978-0-8389-8962-3.
  50. "The Handmaid's Tale: A White Feminist Dystopia". theestablishment.co.[dolen marw]
  51. Rushowy 2009b
  52. Carr, Mitch (2 November 2012). "Guilford County moms want reading list criteria changed". Winston-Salem Journal. Cyrchwyd 18 April 2017.
  53. [[#CITEREF|]], tt. 274–283
  54. Laz, Cheryl (January 1996). "Science Fiction and Introductory Sociology: The 'Handmaid' in the Classroom". Teaching Sociology 24 (1): 54–63. JSTOR 1318898. https://archive.org/details/sim_teaching-sociology_1996-01_24_1/page/54.
  55. Bergmann, Harriet (December 1989). ""Teaching Them to Read": A Fishing Expedition in the Handmaid's Tale". College English. JSTOR 378090.
  56. Larson, Janet (Spring 1989). "Margaret Atwood and the Future of Prophecy". Religion and Literature.
  57. [[#CITEREF|]]
  58. Otterson, Joe. "'Hulu Carried to Emmys Glory by Eight Wins for 'Handmaid's Tale'". Variety=17 September 2017. Cyrchwyd 1 April 2018.
  59. Holloway, Daniel (2 Mai 2018). "'The Handmaid's Tale' Renewed for Season 3 at Hulu". Variety. Cyrchwyd 2 Mai 2018.
  60. Gummere, Joe. "2013 Audie Awards® Finalists by category". joeaudio.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-10. Cyrchwyd 2017-01-09.
  61. "Artists: Lakes of Canada". CBC Music. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-04-19. Cyrchwyd 18 April 2017.
  62. "Tufts University: Department of Drama and Dance: Performances & Events". dramadance.tufts.edu. Cyrchwyd 2017-05-08.
  63. Clements, Andrew (5 Ebrill 2003). "Classical music & opera". The Guardian. UK.
  64. Littler, William (15 Rhagfyr 2004), Opera Canada.
  65. "The Handmaid's tale". UKTW.
  66. "The Handmaid's Tale debuts as ballet in Winnipeg". CA: CBC News. 15 October 2013. Cyrchwyd 2013-10-16.
  67. Lyman, David (24 January 2015). "'Handmaid's Tale' offers extreme view of future". Cincinnati.com.

Mohr, Dunja M. (2005), Worlds Apart: Dualism and Transgression in Contemporary Female Dystopias, Jefferson, NC: McFarland 2005