Natasha Richardson
| Natasha Richardson | |
|---|---|
![]() | |
| Ganwyd | Natasha Jane Richardson 11 Mai 1963 Marylebone |
| Bu farw | 18 Mawrth 2009 Upper East Side, Lenox Hill Hospital |
| Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Unol Daleithiau America |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | actor ffilm, cynhyrchydd ffilm, actor llwyfan |
| Tad | Tony Richardson |
| Mam | Vanessa Redgrave |
| Priod | Liam Neeson, Robert Fox |
| Plant | Micheál Richardson, Daniel Jack Neeson |
| Llinach | teulu Redgrave |
| Gwobr/au | Gwobr Tony am yr Actores Orau mewn Sioe Gerdd, Gwobr Drama Desk ar gyfer Actores Eithriadol mewn Sioe Gerdd, Gwobr y 'Theatre World' |
Actores o Loegr a'r Unol Daleithiau oedd Natasha Jane Richardson (11 Mai 1963 – 18 Mawrth 2009), a oedd yn adnabyddus am ei pherfformiadau ar lwyfan ac ar sgrîn. Roedd yn aelod o'r teulu Redgrave ac yn ferch i'r actores Vanessa Redgrave a'r cyfarwyddwr / cyhyrchydd Tony Richardson. Daeth Richardson yn enwog yn rhyngwladol pan berfformiodd ran Sally Bowles yn y sioe gerdd Chicago yn Ninas Efrog Newydd ym 1998.
Priododd yr actor Gwyddelig Liam Neeson ar ddiwedd 1994. Mae ganddynt ddau fab: Micheál a Daniel. Bu farw ei thad o afiechyd-cysylltiedig â AIDS ym 1991. Cododd Richardson miliynau o ddoleri yn y frwydr yn erbyn AIDS trwy'r elusen amfAR, y Sefydliad am Ymchwil AIDS. Bu farw Richardson yn 2009, yn 45 oed, o ganlyniad i anaf i'w hymennydd a ddigwyddodd tra'n sgïo yng Nghanada.
