Ffuglen ddamcaniaethol

Oddi ar Wicipedia

Term cyffredinol yw Ffuglen Ddamcaniaethol (Saesneg: Speculative Fiction) sy'n cwmpasu nifer o genres ffuglenol gwahanol. Yr hyn sy'n eu cysylltu yw'r defnydd o elfennau sy'n mynd yn groes i realiti, neu ein dealltwriaeth ohono.

Er y gall enghreifftiau penodol o'r genres gwahanol o fewn ffuglen ddamcaniaethol fod yn fwy gwahanol i'w gilydd nag ydynt yn debyg, mae cysyniad Ffuglen Ddamcaniaethol yn gydnabyddiaeth o'r ffaith bod y grenres hyn yn aml yn gorgyffwrdd. Gan y gall fod yn anodd penodi penodi un genre i rai gweithiau, a bod eraill yn perthyn i sawl genre ar yr un pryd, mae'r term yn cynnig ffordd o gyfeirio at y gweithiau hyn gyda'i gilydd.

Genres o fewn Ffuglen Ddamcaniaethol[golygu | golygu cod]

Enw Disgrifiad Enghreifftiau
Ffantasi Cynnwys elfennau o ddewiniaeth neu greuaduriaid ffuantus, yn aml ag iddynt ysbrydolaeth mytholegol megis dreigiau neu dylwyth teg. Yn aml yn digwydd mewn byd hollol dychmygus. Seren Wen ar Gefndir Gwyn, The Lord of the Rings, Harry Potter, Lliwiau'r Eira, A Song of Ice and Fire
Ffuglen wyddonol Ffuglen sy'n cynnwys technoleg nad yw'n bodoli ar adeg creu'r stori, ond y gellid tybio bod modd iddo fodoli yn y dyfodol. Mae'r straeon hyn yn aml wedi'u gosod yn y dyfodol ac yn cynnwys elfennau fel teithio i'r gofod ac estroniaid. Wythnos Yng Nghymru Fydd, Blade Runner, Jurassic Park, Y Blaned Dirion, Star Trek, Star Wars
Arswyd Ffuglen sy'n canolbwyntio ar elfennau ffantasïol â'r bwriad o godi ofn/anesmwythdod, e.e. anghenfilod neu ysbryd. Ni fyddai ffuglen arswyd heb elfenau dychmygol yn cael ei ystyried yn ffuglen ddamcaniaethol (er enghraifft, pe ddefnydir llofrudd dynol i godi ofn). A Nightmare on Elm Street, The Exorcist, Books of Blood, Mythos Cthulhu, Y Clychau
Iwtopaidd Ffuglen sy'n digwydd mewn cymdeithas ddamcaniaethol sy'n ddymunol iawn i'w trigolion. (Rhannau o) Wythnos Yng Nghymru Fydd, Ecotopia
Dystopaidd Ffuglen sy'n digwydd mewn cymdeithas sy'n annyumunol iawn, yn aml oherwydd llywodraeth sy'n gorthrymu'r boblogaeth neu oherwydd dirywiad cymdeithasol a/neu amgylcheddol. Y Dydd Olaf, 1984, Brave New World, Annwyl Smotyn Bach, Y Peiriant Amser
Hanes Amgen Straeon sy'n dychmygu'r presenol neu'r gorffennol pe bai digwyddiad neu ddiwygiadau mewn hanes wedi mynd yn wahanol (e.e. pe bai'r Almaen wedi ennill y rhyfel). The Man In The High Castle, Fatherland, Ein Llyw Cyntaf
Apocalyptaidd Yn digwydd cyn ac yn ystod digwyddiad (er enghraifft rhyfel niwclear neu glefyd pandemig) sy'n cael effaith pell-gyrhaeddiol a thrychinebus ar gymdeithas a'r byd. . The Day After Tomorrow, 2012, On The Beach, Threads
Ôl-Apocalyptaidd Dilyn trywydd unigolion sydd wedi goroesi trychineb enfawr ago iddo effeithiau sylweddol ar gymdeithas, fel arfer dros y byd i gyd. Y Dŵr, Ebargofiant, Fallout, Mad Max
Archarwyr Dilyn helyntion archarwyr, sef arwyr â pwerau goruwchnaturiol megis y gallu i hedfan neu gerdded drwy waliau. Bydysawd Sinematig Marvel, DC.