Neidio i'r cynnwys

Swydd Gaer

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Swydd Caer)
Swydd Gaer
Mathsiroedd seremonïol Lloegr Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolGogledd-orllewin Lloegr, Lloegr
PrifddinasCaer Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,069,646 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd2,342.7699 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaManceinion Fwyaf, Swydd Amwythig, Swydd Derby, Swydd Stafford, Clwyd, Glannau Merswy Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.1667°N 2.5833°W Edit this on Wikidata
GB-CHS Edit this on Wikidata
Map

Sir seremonïol a sir hanesyddol yng Ngogledd-orllewin Lloegr yw Swydd Gaer, Sir Gaer, Swydd Gaerlleon neu Sir Gaerlleon[1] (Saesneg: Cheshire), ar y ffin â gogledd-ddwyrain Cymru. Ei chanolfan weinyddol yw dinas Caer ond y ddinas fwyaf ydy Warrington ac mae ei threfi'n cynnwys: Widnes, Congleton, Crewe, Ellesmere Port, Runcorn, Macclesfield, Winsford, Northwich, a Wilmslow.[2]

Lleoliad Swydd Gaer yn Lloegr

Mae ei harwynebedd yn 2,343 km² a'i boblogaeth yn 1,066,647 yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[3]

Gwleidyddiaeth a gweinyddiaeth

[golygu | golygu cod]

Gan mai sir seremonïol ydyw ers Ebrill 2009, ni chynhelir etholiadau; mae'r gwaith o weinyddu'r sir ar lefel lleol yn cael ei wneud gan bedwar awdurdod unedol llai: Dwyrain Swydd Gaer, Gorllewin Swydd Gaer a Chaer, Bwrdeistref Halton a Bwrdeistref Warrington.[4][5]

Ardaloedd awdurdod lleol

[golygu | golygu cod]

Rhennir y sir yn bedwar awdurdod unedol:

  1. Gorllewin Swydd Gaer a Chaer
  2. Dwyrain Swydd Gaer
  3. Bwrdeistref Warrington
  4. Bwrdeistref Halton

Etholaethau seneddol

[golygu | golygu cod]

Rhennir y sir yn 11 etholaeth seneddol yn San Steffan:

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Geiriadur yr Academi, gol. Bruce Griffiths (Gwasg Prifysgol Cymru), tudalen C:230
  2. "Cheshire County Council Map" (PDF). Cheshire County Council. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2007-06-05. Cyrchwyd 2007-03-05.
  3. Cyfanswm y pedwar awdurdod unedol: Gorllewin Swydd Gaer a Chaer, Dwyrain Swydd Gaer, Warrington, Halton; City Population; adalwyd 17 Medi 2020
  4. Vale Royal Borough Council - Minister's announcement is welcomed[dolen farw]
  5. Chester City Council - Two new councils for Cheshire