Sgwrs Defnyddiwr:Llewpart

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Croeso[golygu cod]

Shwmae, Llewpart! Croeso mawr i Wicipedia — y gwyddoniadur rhydd. Welcome message in English
Diolch am ymuno â Wicipedia ac am eich cyfraniadau diweddaraf — fe obeithiwn y byddwch yn mwynhau cyfrannu yma.
Prosiect amlieithog i greu gwyddoniadur rhydd yw Wicipedia. Fe sefydlwyd y fersiwn gwreiddiol yn Saesneg yn 2001, a'r fersiwn Cymraeg yn 2003, a bellach mae 280,400 erthygl gennym. Rhowch gynnig ar y dolenni defnyddiol isod, a dysgu sut gallwch chi olygu unrhyw erthygl o ganlyniad. A chofiwch — dyfal donc a dyr y garreg.
Y Caffi
Tudalen i ofyn cwestiynau ynglŷn â Wicipedia.
Cymorth
Cymorth ynglŷn â defnyddio Wicipedia.
Porth y Gymuned
Gwelwch beth sy'n mynd ymlaen a beth
sydd angen gwneud yma.
Golygu ac Arddull
Sut i olygu erthygl ac arddull erthyglau.
Hawlfraint
Y rheolau hawlfraint yma.
Cymorth iaith
Cymorth gyda'r iaith Gymraeg.
Polisïau a Chanllawiau
Rheolau a safonau a dderbynnir gan y gymuned.
Cwestiynau Cyffredin
Y cwestiynau cyffredin a ofynnir gan ddefnyddwyr.
Tiwtorial a'r Ddesg Gyfeirio
Dysgu sut i olygu cam wrth gam gyda'r Tiwtorial,
a chyflwynwch eich cwestiynau wrth y Ddesg Gyfeirio.
Y Pum Colofn
Egwyddorion sylfaenol y prosiect.

Dyma eich tudalen sgwrs lle gallwch dderbyn negeseuon gan Wicipedwyr eraill. I adael neges i Wicipedwr arall, dylech ysgrifennu ar dudalen sgwrs y defnyddiwr gan glicio ar y cysylltiad iddi, ac wedyn clicio ar y tab "sgwrs".

Ar ddiwedd y neges mewn tudalennau sgwrs (fel yr un yma), gadewch ~~~~, a bydd y cod yma yn gadael stamp eich enw ac amser gadael y neges. Os ydych am gael cymorth gan weinyddwyr, rhowch y nodyn {{Atsylwgweinyddwr}} ar eich tudalen sgwrs.

Fe obeithiwn y byddwch yn mwynhau cyfrannu yma,
Y Wicipedia Cymraeg


Cofion cynnes, -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 21:01, 20 Awst 2011 (UTC)[ateb]

Croeso (arall gennyf!) a chymorth iaith[golygu cod]

Heia, Llewpart, ti'n iawn? Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddweud croeso wrthyt ti unwaith eto i Wicipedia! Gwerthfawrogai'r gymuned yma unrhyw beth a allet ei gynnig, o ran ysgrifennu, gwella, neu olygu erthyglau, felly dal ati :) O ran dy iaith - paid â becso! Mae'n rhwydd i newid testun, gan gynnwys newid iaith i gynnwys treigladau, cystrawen gwell ayyb. Os wyt ti am gael cymorth ar-lein, mae rhaglen ar gael ar lein o'r enw Cysill yma. Mae'r rhaglen yn wirydd sillafu a gramadeg. Yr unig anfantais ydy ei fod yn rhoi terfyn ar y maint o eiriau dy fod yn gallu teipio i mewn, sef tua 170 dwi'n credu. Mae modd prynu'n feddalwedd, ond mae'n ddrud! Ta beth, os wyt ti am gael cymorth gydag unrhyw beth, paid ag ofni fy holi! Hwyl iti. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 19:44, 22 Awst 2011 (UTC)[ateb]

Y cwbwl ydw i iso'i ddeud ydy mod i'n mwynhau darllen dy erthyglau - bendigedig! Llywelyn2000 19:37, 10 Medi 2011 (UTC)[ateb]
Diolch yn fawr, Llywelyn2000
Dwi'n falch eich bod wedi mwynhau'r erthyglau hyd yn hyn. Fy prif bryder oedd fy ngramadeg, ond gobeithio mae'n gwella. Rwy'n awyddus iawn i gadw ar gyfrannu! Llewpart 21:45, 10 Medi 2011 (UTC)[ateb]

Arddull a strwythur erthyglau[golygu cod]

Heia, sut wyt ti? Diolch am dy gyfraniadau - mae'r Wicipedia Cymraeg yn eu gwerthfawrogi. Hoffwn egluro wrthyt sut mae strwythuro erthyglau Wicipedia a sôn am WP:Arddull Wicipedia am sbel. Pan rwyt ti'n ysgrifennu/cyfieithu erthyglau, gwna'n siŵr dy fod yn cynnwys dolen i'r Wikipedia Saesneg. Er enghriafft, gyda Deftones, mi fydd angen arnat gynnwys [[en:Deftones]]. Fel arfer mae'r botiau yn llenwi'r ieithoedd eraill - dim ond un cyswllt sydd angen, a gwnawn nhw'r gweddill. Hefyd, cofia i gynnwys ambell i gategori er mwyn categoreiddio/trefnu erthyglau. Ond am hynny, mae dy ysgrifennu yn dda iawn. Dwi'n defnyddio rhaglen Cysill er mwyn gwirio fy ngramadeg ambell waith hefyd :) Cofion. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 21:32, 11 Medi 2011 (UTC)[ateb]

Dwi'n iawn, diolch. Sut ydych chi'n cadw? Diolch am y cyngor 'ma, mae pob sylw a ddarn o cyngor yn helpu. Dw i wedi bod yn defnyddio'r rhaglen Cysill yn diweddar hefyd, diolch i ti am awgrymu e! :) Llewpart 21:52, 11 Medi 2011 (UTC)[ateb]
Dwi'n wych, diolch :) Dim problem o gwbl. Mae pawb yma i'w helpu'i gilydd - rydym i gyd am weld i'r Gymraeg yn ei le ar y we :D -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 16:04, 12 Medi 2011 (UTC)[ateb]

Saesneg/Seisnig[golygu cod]

S'mai Llewpart. Diolch am yr holl erthyglau newydd. Hoffwn dynnu dy sylw at rhywbeth sy'n baglu ambell siaradwr Cymraeg, sef y gwahaniaeth rhwng 'Saesneg (sef yr iaith ei hun) a Seisnig (sef 'o Loegr'). Yr un fath gyda Cymraeg/Cymreig a Gwyddeleg/Gwyddelig, Ffrangeg/Ffrengig ayyb. Gweler y golygiad yma. --Ben Bore 07:53, 17 Hydref 2011 (UTC)[ateb]

Diolch yn fawr iawn am y cyngor, Ben Bore. Byddaf yn cofio yn mynd ymlaen :) Llewpart 10:23, 23 Hydref 2011 (UTC)[ateb]

Cywiriadau[golygu cod]

Dw i wedi cywiro tua 40 o'th erthyglau y bore ma; tybed a wnei di sylwi'n ofalus ar y cywiriadau, er mwyn eu hosgoi yn y dyfodol. Diolch yn fawr. Llywelyn2000 05:25, 25 Hydref 2011 (UTC)[ateb]

Some of my corrections weren't taken aboard:
  • Mae gorsaf reilffordd Aberdyfi yn orsaf reilffordd sy'n...
  • Mae'r orsaf yn gorwedd ar Reilffordd Arfordir y Cambrian...
  • ...ac yn cael ei rheoli a'i gweithredu...

Please amend. Most of the above are mutations caused by the feminine noun, gorsaf. Diolch. Llywelyn2000 00:08, 2 Tachwedd 2011 (UTC)[ateb]

Diolch am eich arsylwadau a chywiriadau dilynol. Dwi yn ymddiheuro am y camgymeriadau sylfaenol a byddaf yn cymryd sylw o'ch cyngor. Rwy'n ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra o orfod cywiro nifer o'r gwallau hyn, byddaf yn gwneud fy ngorau i osgoi gwneud nhw eto. Yr wyf bob amser yn ceisio gwella fy Nghymraeg ysgrifenedig a hefyd yn gwneud ychydig o waith ddarllen i helpu gwella. Diolch unwaith eto. Llewpart 22:24, 4 Tachwedd 2011 (UTC)[ateb]

Ffeiliau/delweddi diweddar[golygu cod]

Helo, Llewpart, sut mae? Yn gyntaf, hoffwn ddweud diolch yn fawr ichi am gyfrannu at y Wicipedia Cymraeg - rydym yn gwerthfawrogi cymorth gan unrhyw un gan mai prosiect cymunedol ydyw. Wedi dweud hynny, rydych wedi bod yn uwchlwytho lluniau/delweddi nad ydynt yn cynnwys disgrifiadau digon manwl, sy'n colli ffynonellau, awdur/on, ayyb, neu'n colli'r drwydded/trwyddedau cywir. Mae'n rhaid gwybod, felly, bod modd iddynt gael eu dileu oddi wrth y Wicipedia hwn os nad ydych yn darparu'r wybodaeth gywir - gallwch ddod o hyd i'r hyn rydych yn ei uwchlwytho drwy ddefnyddio'r offeryn yma. Diolch am eich cyd-weithrediad, -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 12:50, 28 Tachwedd 2011 (UTC)[ateb]

Diolch i chi am y cyngor ar lwytho delweddau a'r wybodaeth sydd ei hangen. Dydw i erioed wedi bod yn rhy sicr ar y broses gyda delweddau sydd ddim wedi dod o'r comin. Rwyf wedi edrych am ychydig o enghreifftiau ar draws y safle, a rhan fwyaf ohonynt yn cyfeirio atynt yn syml at y Wikipedia Saesneg. Byddaf yn mynd trwyddynt cyn gynted â phosib ac yn diweddaru gyda'r wybodaeth berthnasol. Diolch unwaith eto Xxglennxx!

Rheilffyrdd Trefynwy ac ardaloedd cyfagos[golygu cod]

Tybed a wnei di erych ar Wicipedia:GLAM/MonmouthpediA/Erthyglau; mae sawl llinell yno, a mi fase'n wych pe bawn ni'n medru canolbwyntio ar y dudalen hon am ychydig. Mae'r posibiliadau o ddefnyddio QR ar hen drenau, mewn gorsafoedd ayb yng Nghymru yn gyffrous iawn: a dolen i dy erthyglau di! Diolch i ti. Llywelyn2000 09:17, 8 Ionawr 2012 (UTC)[ateb]

MonmouthpediA Project[golygu cod]

Thanks for the addition of Monmouth Railway in Welsh. As you may know we hope to be able to supply access to 1,000 codes by April. Hopefully lots in Welsh. You can see the effect of your edit and others here Victuallers 16:39, 8 Ionawr 2012 (UTC)[ateb]

Cyfesurynnau XY[golygu cod]

Wnei di ychwanegu cyfesurynnau XY (XY Ccordinates) uwchben y Nodyn os gweli di'n dda? Mae hyn yn caniatau i rywun sy'n chwilio am yr orsaf ei ffindio efo'i ffôn drwy GPS ac yn agor yr erthygl os ydy'r teithiwr yn sganio bar cod QR. Dw i wedi ei ychwanegu yma. Diolch Llewpart - paid a newid dy sbotiau! :} Llywelyn2000 04:25, 15 Ionawr 2012 (UTC)[ateb]

Hi a diolch yn fawr am eich holl gyngor, Llywelyn! Mae gen i gwestiwn cyflym ynghylch y tudalennau QR yma, beth ddylwn i wneud am ychwanegu cyfesurynnau ar gyfer tudalennau sydd â mwy nag un lleoliad sefydlog (ee Rheilffordd Dyffryn Gwy)? Gwelaf nad yw'r dudalen Saesneg efo unrhyw gyfesurynnau chwaith. Ydw i'n jyst yn gadael yr erthyglau hyn heb gyfesurynnau neu ddewis bwynt penodol ar hyd y rheilffordd (ee y "canol"). Ymddiheuriadau am mai dim ond gwybodaeth sylfaenol y system QR sydd gyda’i ar y foment, ond rydw i'n gywir wrth ddweud bod rhaid i bob erthyglau cynnwys cyfesurynnau? Llewpart 07:48, 15 Ionawr 2012 (UTC)[ateb]
Diolch am ymateb mor gyflym! Whaw! Dysgu ydw inna, felly paid a meddwl mod i'n gwybod llawer am QRpedia, ond dw i'n gwybod fod y codau du-a-gwyn yma i aros - am sbel. Mae Cyfesurynnau XY yma i aros am byth (fwy neu lai!) Fel rwyt ti'n dweud lleoliad sefydlog yw XY; mae'n chwerthinllyd, bron rhoi pwynt ar linell! Fel yr awgrymi un posibilrwydd yw nodi'r pwynt sy'n y canol. Posibilrwydd arall ydy rhoi dau bwynt - dechrau a diwedd y linell. Ond y dewis faswn i'n ei wneud ydy - gwneud dim! Eu hepgor am rwan. Na does dim RHAID cynnwys cyfesurynnau xy, ond mae nhw'n mynd i fod yn goblyn o handi i bobl sydd gan ffôn. ON Pob un wyt ti'n ei roi, mae o'n mynd o fewn munudau ar fapiau Gwgl a dolen i'r erthygl Gymraeg! Cyhoeddi digidol bendigedig! Llywelyn2000 08:57, 15 Ionawr 2012 (UTC)[ateb]
Diolch i chi am yr ateb cyflym a helaeth, Llywelyn! Roeddwn i'n meddwl y peth gorau fyddai gadael yr erthygl heb gyfesurynnau ond roeddwn yn meddwl ei orau i sicrhau yn gyntaf. Rwyf yn cytuno, rwy'n credu'r peth gorau yw gadael erthyglau o'r fath heb gyfesurynnau yn y cyfamser. Byddaf yn gwneud fy ngorau i ychwanegu at yr erthyglau Monmouthpedia dros yr wythnosau nesaf! Pob hwyl a diolch eto, Llywelyn! (Rwy'n gwybod nad ydw i'n lleisiol iawn yma, ond yr wyf yn gwerthfawrogi'r holl help gan eich hun a gan bawb arall ac yn meddwl fod pawb yn gwneud gwaith mor wych yma!) :) Llewpart 09:08, 15 Ionawr 2012 (UTC)[ateb]
;-} Llywelyn2000 09:13, 15 Ionawr 2012 (UTC)[ateb]

Dy gwestiwn (uchod): beth ddylwn i wneud i ychwanegu cyfesurynnau ar gyfer tudalennau sydd â mwy nag un lleoliad sefydlog (ee Rheilffordd Dyffryn Gwy)? Am ateb eitha da, cym olwg ar fama, sy'n son am ffyrdd; yr un ydy'r egwyddor. Pob lwc! Llywelyn2000 06:47, 14 Chwefror 2012 (UTC)[ateb]

Map o'r gorsafoedd[golygu cod]

  1. Dw i wedi ychwanegu un llinell syml ar dop yr erthygl ar Rhestr o orsafoedd rheilffordd yn Llundain, sy'n agor ffenest yn Google Maps lle da ni'n medru gweld ble mae pob gorsaf. Handi yn te?
  2. Yn ail, oes gen ti ffeil data Excel (neu debyg) o enwau'r gorsafoedd a'r cyfesurynnau? Mi fedraf wedyn wneud rhestr tebyg i hwn, a map o bob gorsaf yng Nghymru?

Llywelyn2000 (sgwrs) 03:27, 18 Mawrth 2012 (UTC)[ateb]

Dyna ychwanegiad gwych, Llywelyn! Nid wyf wedi rhoi tudalen Excel at ei gilydd ar gyfer y gorsafoedd Cymraeg eto ond gallaf weithio ar hynny'r prynhawn yma. Ddylwn i roi'r wybodaeth i mewn fel byddai ar Wicipedia heb y "Wiki mark-up"? Llewpart (sgwrs) 10:14, 18 Mawrth 2012 (UTC)[ateb]
Meddwl oeddwn i, Llewpart, fod gen ti fas-data'n barod. Paid a chreu un newydd! Pe bai gen ti un, mi fuaswn i'n medru ei droi'n restr neu yn Nodyn neu (fel y gwnes i efo'r rhestrau copaon mynyddoedd) yn erthyglau cyfan. Dw i'n chwilio ar hyn o bryd am ffeil Excel neu Open Office ayb o wybodaeth ar drefi yn yr Alban a Lloegr; hyd yn oed pentrefi - a meusydd megis poblogaeth, enw'r Sir, nifer dio=waith, nifer sy'n siarad Gaeleg ayb. O ran rheilffyrdd, dw i ddim yn gwybod lle i edrych. Os gei di un (dibynadwy) mi alla i dy helpu. Llywelyn2000 (sgwrs) 15:34, 18 Mawrth 2012 (UTC)[ateb]
Ôl-nodyn: paid ag anghofio gorsafoedd rheilffordd Trefynwy! Diolch. Llywelyn2000 (sgwrs) 15:36, 18 Mawrth 2012 (UTC)[ateb]
Dw i wedi cywiro un gwall bach a oedd yn y cyfesurynnau. Roedd pob un yn dolenu i ganol y môr! Felly ychwanegais y negydd o flaen yr ail rif (Y). Mae nhw'n gweithio rwan. Methais a chywiro'r geotag ar y gornel dde: dw i'n meddwl ei fod yn gywir ond fod Gwgl ayb yn storio hen wybodaeth, ac yn ei ffeindio'n anodd ei ddiweddaru! Mi adawaf neges yn fama, gan obeithio y daw cymorth! Mae'r rhestr yn edrych yn wych iawn, Llewpart, a mi fydd yn handi iawn i bobl ddal y tren mewn pryd! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:47, 20 Mawrth 2012 (UTC)[ateb]
Mae'r geotag y soniais amdano uxhod bellach yn gweithio: mae'r map mae'n ei ddangos yn arbennig o wych gan ei fod (wrth gwrs!) yn dangos rhediad y rheilffordd drwy Gymru. Llywelyn2000 (sgwrs) 13:58, 25 Mawrth 2012 (UTC)[ateb]
Hi Llywelyn! Mae'n ddrwg gen i i ddod yn ôl atoch mor hwyr, dw i ddim wedi cael amser i ddod ar y Wici yn ddiweddar. Diolch am eich holl waith cywiro ar y tudalen ac mae’r map yn edrych yn wych! :) Llewpart (sgwrs) 12:44, 27 Mawrth 2012 (UTC)[ateb]

Gorsafoedd rheilffordd Glasgow[golygu cod]

Gan bod 68 gorsaf yn Glasgow (yn ol y Wicipedia Saeseng), fella bod o'n syniad dilyn eu parwm nhw yno a'u rhoi mewn categori 'Gorsafoedd Rheilffrodd Glasgow' ac yna rhoi'r categori hynny wedyn yn 'Gorsafoedd Rheilffordd yr Alban'?--Ben Bore (sgwrs) 10:37, 17 Ebrill 2012 (UTC)[ateb]

Diolch i ti am eich sylwadau, Ben Bore! Y bwriad ydy (fel yr ydych yn awgrymu ac fel y gwnes i efo yw) creu categorïau o dan 'Gorsafoedd rheilffordd Yr Alban' yn ôl ardaloedd unedol Yr Alban. Rwyf yn gobeithio cychwyn ar y gwaith ail-gategoreiddio rhywbryd wythnos yma (ar y penwythnos ar y hwyraf!). Fel gorsafoedd Cymraeg, rwyf yn gobeithio hefyd creu erthygl efo holl restr gorsafoedd Yr Alban ar ôl cwblhau gweddill yr erthyglau. Diolch eto am yr awgrymiadau! Llewpart (sgwrs) 14:35, 17 Ebrill 2012 (UTC)[ateb]

Wicipediaid yn cyfarfod am y tro cyntaf erioed[golygu cod]

Tyrd i gaerdydd ar y 30 Mehefin, i ni gael sgwrs! Cinio am ddim a diwrnod yn rhoi trefn ar Gaerdydd. Gweler Wicipedia:Golygathon Caerdydd 2012. Gadawa dy enw yn yr Adran 'Cofrestru' i ni gael syniad o faint sy'n medru dod. If you need help with travel - there and back - send me an email, quietly. Llywelyn2000 (sgwrs) 16:25, 3 Mehefin 2012 (UTC)[ateb]

Syniad gwych! Fydd rhaid i mi gwneud yn shwr fy mod i ddim yn gweithio'r pen wsnos yna ond heb law am hyna fyddai'n gallu ddod! :) Wna i ychwanegu enw fi at y rhestr fory, pan dw i efo ateb 100%! Llewpart (sgwrs) 19:01, 5 Mehefin 2012 (UTC)[ateb]
Diolch am gorferstru, a edrychaf ymlaen i gael cwrdd a ti ar y dydd. Gai'n dynnu dy sylw at hyn, sef gofyn i fynychwyr weld os oes yna unrhyw lyfrau penodol hoffen nhw i'r llyfrgell gadw ar ein cyfer ar y dydd. Yn bwysicach fyth, os oes angen archebu llyfr o'r stacks (ystorfa), plis archeba hwn dy hun cyn gynted a phosib (os wyt yn aelod o'r llyfrgell) neu gofyn i mi wneud ar ar dy ran - gall gymryd rhai dyddiau i'r llyfr gyrraedd y llyfrgell. Hwyl am y tro. --Ben Bore (sgwrs) 10:23, 20 Mehefin 2012 (UTC)[ateb]

Eisteddfod 2012[golygu cod]

Rhag ofn bod gweithgarwch y bot wedi golygu dy fod wedi methu fy ngolygiad diweddaraf yn Y Caffi ar bwnc [http://cy.wikipedia.org/wiki/Wicipedia:Y_Caffi#Gweithdy.2F Gweithdai_Wicipedia_yn_Eisteddfod_Genedlaethol_2012 Gweithdai Wicipedia yn Eisteddfod Bro Morgannwg 2012], plis cer draw ASAP, mae angen i ni drefnu pethau cyn gynted a bo modd. Diolch. --Ben Bore (sgwrs) 20:59, 5 Gorffennaf 2012 (UTC)[ateb]

Dosbarthiad yng Nghymru[golygu cod]

Wyt ti wedi gweld y safle Wales.info? Mae'n syml ac effeithiol. os fedri di roi trefn ar y gwahanol fathau, mi wna i wneud map-index. Beth wyt ti'n ei feddwl? Llywelyn2000 (sgwrs) 16:20, 19 Gorffennaf 2012 (UTC)[ateb]

Ymddiheuriadau Llywelyn2000, dydw i erioed wedi dod ar draws y wefan ac nid yn rhy siŵr sut ydych eisiau ddosbarthu'r gorsafoedd? Ydych chi'n meddwl ar hyd y llinellau(no pun intended!) O restru'r gorsafoedd yn ôl sir neu drwy reilffordd unigol mewn erthyglau arwahan? Mae'n ddrwg gennyf am ddod ar draws yn dwp! :\ Llewpart (sgwrs) 19:06, 19 Gorffennaf 2012 (UTC)[ateb]
Be sy'n ein rhwystro rhag cael map gyda'r llinellau sydd ar Wales.info i'w gweld arno, a dolen o bob llinell i'r erthyglau rwyt ti wedi eu sgwennu? Dw i ddim yn son am orsafoedd, mae'r rheiny eisioes wedi'u geo-tagio gen ti. Llywelyn2000 (sgwrs) 19:10, 19 Gorffennaf 2012 (UTC)[ateb]
Iawn, gyda chi nawr! Oeddwn yn meddwl ohono mewn ffordd arall (ond byddai hynny'n gwbl ddiangen!). Mwy na pharod i edrych i mewn iddo! :) Llewpart (sgwrs) 19:18, 19 Gorffennaf 2012 (UTC)[ateb]

Infobox building[golygu cod]

Cofia bod Infobox building gennym ni wedi'i greu'n barod. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:34, 23 Gorffennaf 2012 (UTC)[ateb]

Nodyn eginyn gorsaf reilffordd[golygu cod]

Heia Llewpart. Dwi 'di creu Nodyn:Eginyn gorsaf reilffordd y galle ti rhoi ar erthyglau am orsafoedd rheilffordd. Hwyl, —Adam (sgwrscyfraniadau) 19:13, 9 Medi 2012 (UTC)[ateb]

Diolch Adam! Mi wna i ddefnyddio'r nodyn yma o hyn ymlaen. Llewpart (sgwrs) 19:45, 9 Medi 2012 (UTC)[ateb]

Categori:Gorsafoedd reilffordd yn Norfolk (sic)[golygu cod]

Ddim yn siwrt os mai ti neu Defnyddiwr:Stravos1 greeodd y cat yma, ond does dim eisiau treiglo 'rheilffordd' yn dilyn 'gorsafoedd'. Mae treiglad 'Gorsaf reilffordd' gan bod gorsaf yn enw benywaidd unigol.--Ben Bore (sgwrs) 21:41, 2 Rhagfyr 2012 (UTC)[ateb]

Pêl-droed yng Nghymru[golygu cod]

Croeso'n ôl. Sylwais dy fod wedi creu erthygl Tymor Uwch Gynghrair Cymru 2012-13. Er gwybodaeth, mae Defnyddiwr:Blogdroed hefyd wedi creu Pêl-droed yng Nghymru 2012-13, ble gellir torri a gludo cynnwys ohono os yn addas, hefyd falle dylid meddwl am ffordd o roi dolen rhwng y ddwy erthygl.--Rhyswynne (sgwrs) 13:28, 18 Tachwedd 2013 (UTC)[ateb]

Hen orsafoedd rheilffordd[golygu cod]

Haia Llewpart ; nodyn o ddiddordeb i ti, efallai yn fama? Llywelyn2000 (sgwrs) 13:38, 9 Hydref 2014 (UTC)[ateb]

Diolch, Llywelyn2000! Sori am yr ymateb hwyr. Ddim wedi bod arlein am sbel o achos gwaith. Llewpart (sgwrs) 15:33, 2 Tachwedd 2014 (UTC)[ateb]

Golygathon Wicipop yng Nghaerdydd - galw i'r gad[golygu cod]

Helo Llusiduonbach. Dyma fi yn tynnu eich sylw at digwyddiad Wici yn Caerdydd dydd Sadwrn yma. Bydd hyn yn cyfle gwych i cyfrafod Wicipediwr arall ac i greu cwpl o erthyglau newydd. Diolch! Jason.nlw (sgwrs) 08:12, 23 Mawrth 2017 (UTC)[ateb]