Rhyfel Gaza (2023‒24)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Rhyfel Gaza (2023))
Rhyfel Gaza
Enghraifft o'r canlynolrhyfel Edit this on Wikidata
Dyddiad2023 Edit this on Wikidata
Lladdwyd11,500, 16,075, 17,180, 21,600, 24,800 Edit this on Wikidata
Rhan oGwrthdaro Israel-Gaza Edit this on Wikidata
Dechreuwyd7 Hydref 2023 Edit this on Wikidata
Daeth i benUnknown Edit this on Wikidata
LleoliadLefant Edit this on Wikidata
Yn cynnwysIsraeli invasion of the Gaza Strip, attacks on health facilities during the 2023 Israel–Hamas war, airstrikes on Palestinian refugee camps during the 2023 Israel–Hamas war, airstrikes on schools during the 2023 Israel–Hamas war Edit this on Wikidata
Enw brodorolعملية طوفان الاقصى Edit this on Wikidata
GwladwriaethIsrael, Gwladwriaeth Palesteina, Syria, Libanus Edit this on Wikidata
RhanbarthIsrael, Llain Gaza Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Rhan o'r gwrthdaro rhwng Israel a'r Palesteiniaid yn Llain Gaza yw Rhyfel Gaza (2023) a sbardunwyd gan ymosodiad o dir Israel a lansiwyd o'r Llain ar 7 Hydref 2023. Y prif garfan Palesteinaidd yw Hamas, a lywodraetha Llain Gaza ers 2007, ac ymhlith y grwpiau Palesteinaidd llai mae Mudiad y Jihad Islamaidd, y Ffrynt Democrataidd (DFLP), a Gwâl y Llewod. Bu'r goresgyniad, a elwir yn Ymgyrch Llif al-Aqsa gan Hamas, yn cynnwys ymosodiadau yn erbyn cymunedau a sifiliaid yn ogystal â chyrchoedd ar dargedau milwrol.[1] Ymatebodd Lluoedd Amddiffyn Israel (IDF) gyda'r gwrthymosodiad Ymgyrch Cleddyfau Haearn.[2]

Ar 8 Tachwedd 2023 galwodd Senedd Cymru am gadoediad; mae hyn yn debyg i ddatganiad Senedd yr Alban, ond yn gwbwl groes i farn San Steffan a Phlaid Lafur y DU.[3]

Mae'r rhyfel yn cynrychioli trobwynt yn y gwrthdaro Israelaidd-Palesteinaidd, a'r gwrthdaro rhwng Israel ac Hamas yn benodol. Rhagflaenwyd yr ymladd gan flwyddyn o drais, gan gynnwys ymledu'r gwladfeydd Israelaidd yn y Lan Orllewinol a thrais gan setlwyr yn erbyn Palesteiniaid,[4] cyrch milwrol ar wersyll ffoaduriaid Jenin, terfysg ym Mosg Al-Aqsa yn Jeriwsalem, a brwydro yn Gaza. Yn 2023, hyd at gychwyn y rhyfel, lladdwyd o leiaf 247 o Balesteiniaid gan luoedd Israel, a 32 o Israeliaid a dau dramorwr gan Balesteiniaid. Datganodd Hamas yn Hydref 2023 bod y digwyddiadau hyn yn gyfiawnhad am y goresgyniad, a galwyd ar yr holl Balesteiniaid i ymuno â'r frwydr i "yrru'r meddianwyr allan a dymchwel y muriau". Mewn ymateb, cyhoeddodd Benjamin Netanyahu, Prif Weinidog Israel, argyfwng a rhyfel, ac mae rhai o'r gwrthbleidiau wedi galw am ffurfio llywodraeth undod cenedlaethol.[5]

Dechreuodd yr ymladd yn y bore ar 7 Hydref 2023 pan saethwyd o leiaf 3000 o rocedi gan Hamas tuag at Israel, a chyrchoedd ar diriogaeth Israel gyda cherbydau.[6] Torrodd lluoedd Palesteinaidd hefyd drwy'r gwahanfur rhwng Israel a Llain Gaza a thrwy croesfannau ar y ffin, ac ymosodasant ar gymunedau ac adeiladau milwrol Israelaidd cyfagos, gan ladd 1,200 o Israeliaid a dinasyddion o wledydd eraill.[7] Cyflawnwyd trais yn erbyn sifiliaid gan ryfelwyr Hamas o'r cychwyn, gan gynnwys cyflafan mewn gŵyl cerddoriaeth a laddodd o leiaf 260 o bobl. Mae rhyw 200 o filwyr a sifiliaid Israelaidd, gan gynnwys plant, wedi eu herwgipio gan ymladdwyr Palesteinaidd ac wedi eu cymryd yn wystlon yn Llain Gaza.[8]

Aeth Israel ati i alw'r lluoedd wrth gefn a chlirio'r ymladdwyr Palesteinaidd o'i thiriogaeth, a thalu'r pwyth yn ôl gyda chyrchoedd awyr ar dargedau milwrol a strategol yn Llain Gaza. Mae dwysedd poblogaeth y llain yn hynod o uchel, a cafwyd o leiaf 20 o achosion o ffrwydron yn taro isadeiledd sifil, gan gynnwys cartrefi, mosgiau, ac ysbytai. Yn ôl y Weinyddiaeth Iechyd yn Gaza, bu farw o leiaf 900 o Balesteiniaid yn ystod tridiau cyntaf y rhyfel, mewn ysgarmesau saethu ac o ganlyniad i gyrchoedd awyr, gan gynnwys 260 o blant. Hawliodd yr IDF ladd "mwy na 1,500" o ymladdwyr Palesteinaidd y tu mewn i ffiniau Israel. Cyhoeddodd y Cenhedloedd Unedig bod mwy na 200,000 o Balesteiniaid—un o bob deg o boblogaeth Llain Gaza—wedi eu dadleoli ers dechrau'r brwydro. Cynyddodd y braw o argyfwng dyngarol wed i Israel dorri cyflenwadau bwyd, dŵr, trydan, a thanwydd i'r llain, a fu dan warchae ers 2007.[9]

Condemniwyd Hamas gan nifer o wledydd y Gorllewin,[10] a chafodd yr ymosodiadau eu hystyried yn derfysgaeth.[11] Mae nifer o wledydd eraill, yn enwedig yn y byd Mwslimaidd, wedi disgrifio meddiannaeth y Tiriogaethau Palesteinaidd a'r gwarchae ar Lain Gaza fel achos sylfaenol y gwrthdaro ac yn rhoi'r bai ar lywodraeth Israel am waethygu'r sefyllfa, ac yn galw am ddatchwyddo'r ymladd a chyhoeddi cadoediad.[12][13] Cyhuddwyd Hamas ac Israel ill dau o droseddau rhyfel gan Human Rights Watch.[14] Datganodd llywodraeth Unol Daleithiau America y byddai'n cefnogi Israel trwy symud ei chludydd awyrennau USS Gerald R. Ford a'i grŵp brwydro, a jetiau milwrol, i ddwyrain y Môr Canoldir a darparu cyfarpar a ffrwydron rhyfel ychwanegol i'r IDF.[15] Erbyn 8 Hydref ymledodd y gwrthdaro i Libanus, gyda Hezbollah a Brigadau Al-Quds yn brwydro'n erbyn lluoedd Libanus ac Israel.[16][17]

Ymosodiadau Hamas ar Israel[golygu | golygu cod]

Cyhoeddwyd cychwyn Ymgyrch Llif Al-Aqsa gan Muhammad Deif, arweinydd milwrol Hamas, wrth i'r ymosodiadau ddechrau ar fore 7 Hydref 2023. Lladdwyd cannoedd o sifiliaid mewn ymosodiadau ar drefi a chibwtsau yn y gororau. Rhoes Israel ei lluoedd ar eu gwyliadwriaeth ymhen dwy awr, a chychwynnodd cyrchoedd awyr ar Lain Gaza gan Awyrlu Israel. Trannoeth y drin, ar 8 Hydref, cyhoeddodd Israel yn ffurfiol gyflwr rhyfel, y tro cyntaf i Erthygl 40A o'r Gyfraith Sylfaenol gael ei galw i rym ers Rhyfel Yom Kippur ym 1973.

Ymgyrch Israel yng ngogledd Llain Gaza[golygu | golygu cod]

Ehangu'r gwarchae[golygu | golygu cod]

Ar 9 Hydref cyhoeddodd Yoav Gallant, Gweinidog Amddiffyn Israel, gwarchae "llwyr" ar Lain Gaza, gan gynnwys torri cyflenwadau trydan ac atal bwyd a thanwydd rhag mynd i mewn i'r diriogaeth. Meddai, "rydym yn ymladd ag anifeiliaid dynol ac yr ydym yn gweithredu yn gyfatebol". Ail-gyhoeddwyd difrifoldeb y gwarchae ar 12 Hydref, pan cyhoeddodd y llywodraeth na fydd Llain Gaza yn derbyn dŵr, tanwydd, na thrydan nes i'r gwystlon Israelaidd yn y diriogaeth gael eu rhyddhau.

Cyrchoedd awyr[golygu | golygu cod]

Cynyddodd cyrchoedd awyr gan yr IDF ar 11 Hydref, a chafodd nifer o adeiladau Prifysgol Islamaidd Gaza eu dinistrio gan awyrennau Israel. Yn ogystal, cafodd croesfan Rafah ar y ffin rhwng Llain Gaza a'r Aifft ei thargedu gan yr IDF.

Ar 11 Hydref, cyhoeddodd Gweinyddiaeth Iechyd Palesteina 1,055 o farwolaethau a 5,184 o anafiadau o ganlyniad i gyrchoedd awyr Israel, a 2,600 o bobl wedi'u dadleoli'n fewnol. Yn ôl y Cenhedloedd Unedig, cynyddodd y ffigur ganplyg i 260,000 o drigolion Gaza wedi eu dadleoli.

Gwacâd a dadleoli[golygu | golygu cod]

Ar 13 Hydref 2023, gorchmynnodd yr IDF wacâd y rhan o Lain Gaza i ogledd Wadi Gaza, gan gynnwys Dinas Gaza, gan gyfarwyddo holl sifiliaid yr ardal—rhyw 1.1 miliwn o bobl—i symud i ddeheubarth y llain ymhen 24 awr. Gollyngodd yr IDF daflenni o'r awyr ar Ddinas Gaza yn cyfarwyddo sifiliaid i "ymadael i'r de er diogelwch eich hunain a diogelwch eich teuluoedd" ac i "ymddieithrio'ch hunain oddi wrth derfysgwyr Hamas sy'n defnyddio chi fel tarianau dynol". Ffoes yr ymadawyr mewn ceir, bysiau bychain a chertiau mulod, ac ar gerdded, er gwaetha'r prinder tanwydd o ganlyniad i'r gwarchae, a ffyrdd a ddinistriwyd gan fomiau'r IDF.[18][19] Erbyn 14 Hydref symudodd cannoedd o filoedd ohonynt tua'r de.

Er i Israel annog i bobl ymadael er diogelwch eu hunain, cafodd cerbydau a oedd yn cludo sifiliaid ar hyd ffordd Salah-a-Din, un o'r ddau lwybr tua'r de, eu bomio gan yr IDF yn hwyr y prynhawn ar 13 Hydref. Yn ôl gweinyddiaeth iechyd Palesteina, lladdwyd 70 o bobl yn y cyrch awyr.[20]

Cafodd croesfan Rafah ei chau gan yr Aifft, a'i hagor ar achlysuron i alluogi dinasyddion tramor i ddianc Llain Gaza. Ni chaniateir i drigolion Palesteinaidd groesi'r ffin. Fodd bynnag, mae nifer ohonynt wedi ymgasglu yn y fan honno yn y gobaith byddai'r Aifft yn derbyn ffoaduriaid.[21]

Goresgyniad Llain Gaza[golygu | golygu cod]

Er i Israel dynnu ei lluoedd a'i setlwyr yn ôl o'r diriogaeth yn 2005, mae wedi dychwelyd mewn sawl ymgyrch a gwrthdaro ers hynny, gan gynnwys Ymgyrch Plwm Bwrw (2008–09), Ymgyrch Colofn o Niwl (2012), ac Ymgyrch y Clogwyni Cedyrn (2014). Goresgynnwyd Llain Gaza gan yr IDF unwaith eto yn sgil Ymgyrch Llif Al-Aqsa, a dygwyd gyrchoedd ar adeiladau i dargedu celloedd o frwydrwyr Hamas. Yn sgil cyhoeddi'r gorchymyn gwacâd yn y gogledd, bu disgwyl i Israel gynyddu ei phresenoldeb milwrol yn Llain Gaza, ac yn ystod oriau mân y bore ar 28 Hydref, wedi noson o fomio trwm, lansiwyd goresgyniad ar raddfa eangach gan filwyr yr IDF i mewn i'r diriogaeth. Ailgyhoeddwyd y gorchymyn i drigolion ymadael y gogledd, a datganodd Netanyahu bod "ail gam y rhyfel wedi dechrau".[22]

Camwybodaeth a thwyllwybodaeth[golygu | golygu cod]

Câi twyllwybodaeth am y rhyfel eu lledaenu ar bwrpas gan y ddwy ochr, yn enwedig ar-lein, ac âi ffug-newyddion a lluniau a fideos o darddiad annibynnol neu ansicr yn firaol. Un o'r honiadau amlycaf ar y cyfryngau cymdeithasol oedd y cyhuddiad o derfysgwyr Hamas yn torri pennau rhyw 40 o fabanod yng nghyflafan Kfar Aza. Cyhoeddwyd y stori gan gyfrifon y sianel newyddion i24NEWS a llywodraeth Israel ar wefan X, a chafodd ei hailadrodd gan y mwyafrif o bapurau newydd cenedlaethol y Deyrnas Unedig, Sky News yn Awstralia, a Fox News yn yr Unol Daleithiau. Tarddiad y cyhuddiad oedd milwr o'r IDF, a feddai mewn cyfweliad ag i24NEWS i 40 o blant gael eu lladd gan Hamas yn Kfar Aza, a phennau rhai ohonynt wedi eu torri.[23] Honnai Joe Biden, Arlywydd yr Unol Daleithiau, ar gam ei fod wedi gweld tystiolaeth ffotograffig o'r hwnnw.[24] Mae'n sicr i o leiaf 52 o bobl gael eu lladd yn y gyflafan, gan gynnwys plant, ond mae ffynonellau newyddion eraill wedi bwrw amheuaeth ar yr honiad priodol o "dorri pennau 40 o fabanod".[25]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Steven Erlanger, "An Attack From Gaza and an Israeli Declaration of War. Now What?", The New York Times (7 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 8 Hydref 2023.
  2. (Saesneg) "IDF strikes Hamas as operation 'Iron Swords' commences", The Jerusalem Post (7 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 11 Hydref 2023.
  3. [https://nation.cymru/news/senedd-backs-motion-calling-for-immediate-ceasefire-in-gaza-and-israel/ nation.cymru; adalwyd 9 Tachwedd 2023.
  4. (Saesneg) Tia Goldenberg a Wafaa Shurafa, "Israel declares war, bombards Gaza and battles to dislodge Hamas fighters after surprise attack", Associated Press (9 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 11 Hydref 2023.
  5. (Saesneg) "Opposition heads call for united front amid massive ongoing Hamas attack", The Times of Israel (7 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 8 Hydref 2023.
  6. (Saesneg) "Around 1,000 dead in Israel-Hamas war, as Lebanon’s Hezbollah also launches strikes", South China Morning Post (8 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 11 Hydref 2023.
  7. (Saesneg) Emanuel Fabian, "Death toll from Hamas onslaught passes 1,200, as IDF steps up attacks on Hamas", The Times of Israel (11 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 11 Hydref 2023.
  8. (Saesneg) Bethan McKernan, "Israel and Hamas at war after surprise attacks from Gaza Strip", The Guardian (7 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 11 Hydref 2023.
  9. (Saesneg) "Gaza faces ‘humanitarian catastrophe’ as power plant running out of fuel", Al Jazeera (11 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 11 Hydref 2023.
  10. (Saesneg) "World reaction to surprise attack by Palestinian Hamas on Israel", Al Jazeera (8 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 11 Hydref 2023.
  11. (Saesneg) Ruth Michaelson, "Condemnation and calls for restraint after Hamas attack on Israel", The Guardian (7 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 8 Hydref 2023.
  12. (Saesneg) Vivian Nereim, "Across the Mideast, a Surge of Support for Palestinians as War Erupts in Gaza", The New York Times (9 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 9 Hydref 2023.
  13. (Saesneg) Talya Zax, "Arab states call for restraint after Hamas attack— but some blame Israel", The Forward (7 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 8 Hydref 2023.
  14. (Saesneg) "Israel/Palestine: Devastating Civilian Toll as Parties Flout Legal Obligations", Human Rights Watch (9 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 10 Hydref 2023.
  15. (Saesneg) "US moves warships closer to Israel after Hamas attack", BBC (9 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 11 Hydref 2023.
  16. (Saesneg) "Hamas-Israel war: Israel bombards Gaza as death toll surpasses 1000 on second day of fighting - as it happened", Ahram Online (8 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 11 Hydref 2023.
  17. (Saesneg) "Israel Orders ‘Siege’ of Gaza; Hamas Threatens to Kill Hostages", The New York Times (9 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 10 Hydref 2023.
  18. (Saesneg) John Reed, Mehul Srivastava a Mai Khaled, "Residents flee Gaza City as Israel tells 1.1mn to leave", Financial Times (13 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 14 Hydref2023.
  19. (Saesneg) Heba Saleh, Mai Khaled ac Henry Foy, "‘The worst day’: Israeli warning prompts Palestinian exodus from north Gaza", Financial Times (13 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 13 Hydref 2023.
  20. (Saesneg) "Strike on civilian convoy fleeing Gaza: What we know from verified video", BBC (15 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 15 Hydref 2023.
  21. (Saesneg) "Rafah border crossing: could Egypt open it to fleeing Palestinians?", The Guardian (15 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 15 Hydref 2023.
  22. (Saesneg) "Israel-Gaza latest: War against Hamas in 'next stage'; Netanyahu warns conflict will be 'long and difficult'", Sky News (28 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 28 Hydref 2023.
  23. (Saesneg) Nicole Zedek, "'It smells of death here': Surveying the atrocities committed by Hamas in Kfar Aza", i24NEWS (10 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 12 Hydref 2023.
  24. (Saesneg) Kat Tenbarge a Melissa Chan, "Unverified reports of ‘40 babies beheaded’ in Israel-Hamas war inflame social media" (12 Hydref 2023). Archifwyd o'r "dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 12 Hydref 2023.
  25. (Saesneg) Matthew Chance, Richard Allen Greene a Joshua Berlinger, "Israeli official says government cannot confirm babies were beheaded in Hamas attack", CNN (12 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 12 Hydref 2023.