Gwacâd gogledd Llain Gaza

Oddi ar Wicipedia
Gwacâd gogledd Llain Gaza
Map o Lain Gaza gyda'r llinell wacâd ar hyd Wadi Gaza yn ddu.
Enghraifft o'r canlynoltrosglwyddo poblogaeth, evacuation Edit this on Wikidata
DyddiadHydref 2023 Edit this on Wikidata
Rhan oRhyfel Gaza Edit this on Wikidata
Dechreuwyd13 Hydref 2023 Edit this on Wikidata
LleoliadLlain Gaza Edit this on Wikidata
GwladwriaethGwladwriaeth Palesteina Edit this on Wikidata

Ar 13 Hydref 2023, chwe diwrnod wedi dechrau Rhyfel Gaza, gorchmynnodd Lluoedd Amddiffyn Israel (IDF) wacâd y rhan o Lain Gaza i ogledd Wadi Gaza, gan gynnwys Dinas Gaza, gan gyfarwyddo sifiliaid i symud i dde'r llain ymhen 24 awr. Cychwynnodd allfudiad ar raddfa enfawr o drigolion Palesteinaidd, ac erbyn 14 Hydref symudodd cannoedd o filoedd ohonynt tua'r de. Mae disgwyl i Israel oresgyn y diriogaeth fel rhan o'r rhyfel yn erbyn Hamas, sy'n rheoli Llain Gaza.

Mae gan Lain Gaza ddwysedd poblogaeth uchel, a thrigiannodd mwy nag un filiwn o bobl yn y gogledd—rhyw hanner o gyfanswm poblogaeth y llain—ar ddechrau'r rhyfel. Yn y dyddiau cyn y gorchymyn, bu farw 1,800 o bobl yn Llain Gaza o ganlyniad i ymgyrch fomio Israel, ac yn ôl y Cenhedloedd Unedig cafodd mwy na 423,000 o drigolion Gaza eu dadleoli'n fewnol yn barod. Gollyngodd yr IDF daflenni o'r awyr ar Ddinas Gaza yn cyfarwyddo sifiliaid i "ymadael i'r de er diogelwch eich hunain a diogelwch eich teuluoedd" ac i "ymddieithrio'ch hunain oddi wrth derfysgwyr Hamas sy'n defnyddio chi fel tarianau dynol". Ffoes yr ymadawyr mewn ceir, bysiau bychain a chertiau mulod, ac ar gerdded, er gwaetha'r prinder tanwydd o ganlyniad i warchae Israel ar Lain Gaza, a ffyrdd a ddinistriwyd gan fomiau'r IDF.[1][2]

Câi'r gorchymyn ei gondemnio gan nifer fel "dadleoli gorfodol" a'r ddiboblogaeth ei galw'n "ail Nakba" gan Mahmoud Abbas, Arlywydd Gwladwriaeth Palesteina. Mynegai Stéphane Dujarric, llefarydd o'r Cenhedloedd Unedig, bryder bod y fath ymadawiad yn "amhosib heb ganlyniadau dyngarol dinistriol". Er gwaetha'r bygythiad, erfynai gweinyddiaeth gartref Llain Gaza ar bobl i aros yn y fan. Cyhuddwyd Hamas gan John Kirby, llefarydd ar ran Cyngor Diogelwch Cenedlaethol yr Unol Daleithiau, o "godi rhwystrau ar y ffyrdd i atal pobl rhag dianc".[1]

Ymosodiadau[golygu | golygu cod]

Er i Israel annog i bobl ymadael er diogelwch eu hunain, cafodd cerbydau a oedd yn cludo sifiliaid ar hyd ffordd Salah-a-Din, un o'r ddau lwybr tua'r de, eu bomio gan yr IDF yn hwyr y prynhawn ar 13 Hydref. Yn ôl gweinyddiaeth iechyd Palesteina, lladdwyd 70 o bobl yn y cyrch awyr.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) John Reed, Mehul Srivastava a Mai Khaled, "Residents flee Gaza City as Israel tells 1.1mn to leave", Financial Times (13 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 14 Hydref2023.
  2. (Saesneg) Heba Saleh, Mai Khaled ac Henry Foy, "‘The worst day’: Israeli warning prompts Palestinian exodus from north Gaza", Financial Times (13 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 13 Hydref 2023.
  3. (Saesneg) "Strike on civilian convoy fleeing Gaza: What we know from verified video", BBC (15 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 15 Hydref 2023.