Pont-y-meistr
Math |
pentref ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Caerffili ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
51.6°N 3.1°W ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Rhianon Passmore (Llafur) |
AS/au | Chris Evans (Llafur) |
Pentref a saif i'r de o dref Rhisga yw Pont-y-meistr (Saesneg: Pontymister). Fferm o'r enw Tŷ Isaf oedd y lleoliad yn wreiddiol, ond daeth y pentref i fodolaeth mewn ymateb i'r angen am dai ar gyfer gweithwyr y felin ddur a'r gweithiau cemegol gerllaw. Adeiladwyd y rhan fwyaf o'r tai rhwng 1920 ac 1925.
Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Rhianon Passmore (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Chris Evans (Llafur).[1][2]
Mae nifer o dafarndai lleol yn dal i fod ag enwau sy'n ymwneud a'r diwydiant dur: The Rolling Mill, The Forge Hammer ayb. Ceir llwybr hir y Ffordd Sistersiaidd (Cymru) wedi ei farcio ac yn pasio drwy Bont-y-Meistr.[3]
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Roedd gweithfeydd dur Pont-y-Meistr yn enwog fel mynwent hen drenau stêm. Daethpwyd â'r rhan fwyaf yno yn yr 1960au cynnar er mwyn manteisio ar eu gwerth fel metel sgrap, achubwyd rhai a symudwyd hwy i Ddociau y Barri.
Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- The development of Pontymister ar wefan Risca Industrial History Museum & OHIHS
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Ffordd Sistersiaidd ar wefan Cyngor Casnewydd
Aberbargoed · Abercarn · Abertridwr · Argoed · Bargoed · Bedwas · Bedwellte · Brithdir · Caerffili · Cefn Bychan · Cefn Hengoed · Coed-duon · Crymlyn · Cwmcarn · Chwe Chloch · Draethen · Fochriw · Gelli-gaer · Y Groes-wen · Hengoed · Llanbradach · Machen · Maesycwmer · Nelson · Pengam · Penpedairheol · Pontlotyn · Pontllan-fraith · Pont-y-Meistr · Rhisga · Rhydri · Rhymni · Senghennydd · Trecelyn · Tredegar Newydd · Tretomos · Waterloo · Wyllie · Ynys-ddu · Ystrad Mynach
