O. M. Lloyd

Oddi ar Wicipedia
O. M. Lloyd
Ganwyd14 Chwefror 1910 Edit this on Wikidata
Blaenau Ffestiniog Edit this on Wikidata
Bu farw1 Chwefror 1980 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl, bardd, newyddiadurwr, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Roedd Y Parchedig O. M. (Owen Morgan) Lloyd (14 Chwefror 19101 Chwefror 1980)[1] yn weinidog gyda'r Annibynwyr, yn fardd ac yn genedlaetholwr Cymreig.[2]

Bywyd Personol[golygu | golygu cod]

Ganwyd O. M. ym Maenofferen, Blaenau Ffestiniog yn fab i Hugh Lloyd, chwarelwr a Sarah Ann (née Morgan) ei wraig.[3] Wedi damwain yn y chwarel penodwyd Hugh Lloyd yn llyfrgellydd y Blaenau. Trwy gadw cwmni ei dad yn y llyfrgell magwyd diddordeb O. M. mewn llyfrau, llenyddiaeth a barddoniaeth[4] Cafodd ei addysgu yn Ysgol Ramadeg Blaenau Ffestiniog, Prifysgol Bangor a Choleg Bala-Bangor, gan raddio ym 1934.

Priododd Gwyneth Jones ym 1938, roedd hi yn athrawes ysgol uwchradd. Bu iddynt dau fab ac un ferch; Gwyn, Rhys a Nest[5].

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Cafodd O. M. ei ordeinio yn weinidog Annibynnol yng Nghapel Soar, Nefyn ym 1937 gan wasanaethu yno ac wedyn yng Nghapel Mynydd Bach, Llangyfelach hyd dderbyn galwad i Gapel y Tabernacl, Dolgellau a chapeli annibynnol eraill cylch Dolgellau ym 1955. Bu'n gwasanaethu fel gweinidog y Tabernacl hyd ei ymddeoliad ym 1978. Yn ôl Tecwyn Owen Roedd yn bregethwr huawdl a chymeradwy.... Roedd hefyd yn ŵr na allai ddioddef anghyfiawnder a hymbyg gwleidyddol a chymdeithasol, ac nid oedd yn fyr o ddweud ei farn a'i chyhoeddi o'r pulpud ... ac nid oedd y farn honno bob amser wrth fodd pawb o wrandawyr y bregeth[6]. Wedi ymddeol symudodd O. M. a Mrs Lloyd i fyw i Ffordd Segontiwm, Caernarfon.

Cadwodd O. M. gopi o bob taflen bedydd, priodas ac angladd iddo weinidogaethu ynddynt. Cyflwynwyd y taflenni i Archif Gwynedd/Meirionnydd, gan greu casgliad hanes teulu / hel achau unigryw[7].

Bardd[golygu | golygu cod]

Roedd O. M. yn gynganeddwr hynod fedrus. Enillodd o leiaf saith cadair yn ôl gwefan Casglu'r Cadeiriau.[8]

Does dim cofnod ei fod wedi ymgeisio am Gadair Genedlaethol, ac os wnaeth ni fu'n llwyddiannus. Er na chafodd ei godi'n brifardd cenedlaethol roedd yn fardd bu prifeirdd yn ei barchu ac yn ymofyn ei gymorth[10]. Byddai'n annheg ei alw'n fardd gwlad, gan fod hynny, yn aml, yn awgrymu bardd eilradd; doedd dim oedd yn eilradd yng nghanu O. M.; ond roedd y rhan fwyaf o'i gynnyrch yn ganu at iws gwlad. Englynion bedydd, priodas a choffa, englynion ar bynciau'r dydd.

Bu'n cyfrannu i'r rhaglen radio Ymryson y Beirdd ar y radio yn y 1950au a'r 1960au. Bu'n holwr ar y rhaglen cwis teledu Barddota[11]. Ond mae'n debyg ei fod yn cael ei gofio'n bennaf fel rhan o dybl act comedi cyntaf Cymru trwy ei bartneriaeth a'r Prifardd W. D. Williams fel beirniaid Ymryson y Beirdd ym Mhabell Lên yr Eisteddfod Genedlaethol.

Newyddiadurwr[golygu | golygu cod]

Rhwng 1956 a 1979 bu O. M. Lloyd yn golofnydd tudalen flaen Y Dydd. Bu'r Dydd yn bapur o bwys cenedlaethol yn y 1880au ond erbyn y 1950au roedd wedi troi'n bapur lleol i ardal Dolgellau. Er hynny roedd colofn O. M., O Gader Idris yn delio efo materion Cymreig, Prydeinig, byd eang a lleol. Roedd y golofn yn trin pynciau crefydd a llenyddiaeth, fel byddid disgwyl gan weinidog a bardd, ond roedd yn fwyaf nodedig am ei farn wleidyddol ddigyfaddawd. Roedd O. M. yn sosialydd ac yn genedlaetholwr pybyr. Roedd yn cefnogi Plaid Cymru ac yn rhoi cefnogaeth lwyr i bobl ifanc Cymdeithas yr Iaith ar adeg pan fu cyfoedion iddo yn y Blaid yn gofyn iddynt bwyllo. Bu hefyd yn gyfranu colofn i'r Herald Gymraeg[12]

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw O. M. yn ysbyty Môn ac Arfon, Bangor, ychydig yn brin o'i 70ain pen-blwydd. Cynhaliwyd ei wasanaeth angladd yng Nghapel Salem Caernarfon cyn trosglwyddo ei weddillion i amlosgfa Bangor.

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod]

  • O em i em: detholiad byr o waith O.M. Lloyd Cymdeithas Barddas 1978
  • Barddoniaeth O.M. Lloyd; Cyhoeddiadau Barddas 1981
  • O Gader Idris: detholiad o ysgrifau y Parchedig O.M. Lloyd, Dolgellau : Gwasg y Dydd 1997.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Taflen gwasanaeth angladd O. M. Lloyd 1980
  2. "LLOYD, OWEN MORGAN ('O.M.') (1910 - 1980), gweinidog a bardd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2022-01-10.
  3. Archif Genedlaethol Lloegr; Cyfrifiad Cymru a Lloegr 1911; 4 Maenofferen Street, Blaenau Ffestiniog; Cyfeirnod: RG14/628/5/5/2
  4. Cyflwyniad i Barddoniaeth O. M. Lloyd; Cyhoeddiadau Barddas (1981)
  5. BBC Orig gydag OM adalwyd 7 Mai 2018
  6. Rhagair Tecwyn Owen yn O Gader Idris, Detholiad o Ysgrifau'r Parchedig O. M. Lloyd; Gwasg y Dydd, Dolgellau (1997) ISBN0-8638-458-I
  7. Casgliad O M Lloyd - ar archives Hub
  8. Casglu'r Cadeiriau rhestrau o enillwyr adalwyd 07 Mai 2018
  9. Delwedd o gadair Eisteddfod ryng-golegol 1932
  10. Cyflwyniad y Prifardd Dylan Iorwerth yn O Gader Idris, Detholiad o Ysgrifau'r Parchedig O. M. Lloyd; Gwasg y Dydd, Dolgellau (1997) ISBN0-8638-458-I
  11. Y Traethodydd - Cymraeg Iach adalwyd 07 Mai, 2018
  12. Eco'r Wyddfa Rhif 156, Mehefin 1990; Mary Williams - Agor ffiniau'r Gorffennol