O Gader Idris
| Enghraifft o: | gwaith llenyddol |
|---|---|
| Golygydd | Tecwyn Owen |
| Awdur | O. M. Lloyd |
| Cyhoeddwr | Gwasg y Dydd |
| Gwlad | Cymru |
| Iaith | Cymraeg |
| Pwnc | Ysgrifau Cymraeg |
| Argaeledd | mewn print |
| ISBN | 9780863814587 |
| Dynodwyr | |
Detholiad o ysgrifau gan O. M. Lloyd yw O Gader Idris. Gwasg y Dydd a gyhoeddodd y gyfrol a olygwyd gan Tecwyn Owen, a hynny yn 1997. Yn 2013 roedd y gyfrol mewn print.[1]
Disgrifiad byr
[golygu | golygu cod]Detholiad o ysgrifau O.M. Lloyd a ysgrifennwyd ganddo yn Y Dydd, papur lleol yn Nolgellau.
Roedd O.M. Lloyd yn weinidog yng nghapel annibynnol y Tabernacl, Dolgellau. O Ffestiniog, bu'n weinidog yn Abertawe (Mynydd Bach) ac yng Nghaernarfon yn ddiweddarach. Yr oedd, hefyd, yn fardd ac ef oedd meuryn Talwrn y Beirdd am gyfnod.
Dechreuodd ysgrifennu ei golofn wythnosol yn y Dydd o dan y pennawd, "O Ben y Bont Fawr", a datblygodd hyn yn ddiweddarach i fod yn "O Gader Idris".
Roedd yn genedlaetholwr, yn heddychwr ac yn Gristion o arddeliad. Adlewyrcha'r erthyglau hyn y gwerthoedd hynny tra'n trin a thrafod materion y dydd yn Nolgellau, yng Nghymru ac yn rhyngwladol.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 16 Hydref 2013