Yr Herald Cymraeg

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Herald Gymraeg)
Yr Herald Cymraeg
Enghraifft o'r canlynolpapur newydd Edit this on Wikidata
GolygyddOwen Picton Davies, Daniel Rees (newyddiadurwr), Robert John Rowlands, John James Hughes Edit this on Wikidata
CyhoeddwrJames Rees Edit this on Wikidata
Rhan oPapurau Newydd Cymreig Ar-lein Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi19 Mai 1855 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1855 Edit this on Wikidata
Lleoliad cyhoeddiCaernarfon Edit this on Wikidata
PerchennogJames Rees Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus Edit this on Wikidata
SylfaenyddJames Rees Edit this on Wikidata

Newyddiadur Cymraeg wythnosol yw Yr Herald Cymraeg, hefyd Yr Herald Gymraeg neu Yr Herald. Sefydlwyd y papur yng Nghaernarfon yn 1855, gan James Rees. Yn 1937, unwyd y papur a'r Genedl Gymreig, dan yr enw Yr Herald Cymraeg a'r Genedl.

Bu Daniel Rees yn olygydd yn rhan gyntaf yr 20g, yna bu Robert John Rowlands (Meuryn) yn olygydd o 1921 hyd 1954. Bu nifer o lenorion enwog yn gweithio i'r Herald, yn eu plith T. Gwynn Jones, Edward Prosser Rhys, Caradog Prichard, Gwilym R. Jones a John Roberts Williams.

Y golygydd rhwng 1994 ac Ebrill 2018 oedd Tudur Huws Jones.[1]

Ers 2004 mae'r Herald yn ymddangos fel atodiad bob dydd Mercher yn y Daily Post. Mae'r cyfranwyr yn cynnwys Rhys Mwyn, Angharad Tomos a Bethan Gwanas.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]


Eginyn erthygl sydd uchod am bapur newydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato