John James Hughes (Alfardd)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Bardd a llenor Cymraeg a golygydd oedd John James Hughes (18428 Ionawr 1875), a adnabyddid gan amlaf wrth ei enw barddol Alfardd. Roedd yn amddiffynydd pybyr i'r iaith Gymraeg, a hawliau Cymru a'i gwerin.[1] Roedd yn frodor o Ynys Môn.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed John James mewn bwthyn gerllaw Carreglefn, ym mhlwyf Llanbadrig yn y flwyddyn 1842. Bu farw ei dad cyn ei eni. Cafodd addysg ddyddiol o saith hyd ddeuddeng mlwydd oed. Wedi hynny, gwasanaethodd am rai tymhorau fel gwas fferm gydag amaethyddwyr yr ardal. Pan yn 16 mlwydd oed symudodd i Fangor, lle y bu am dair blynedd yn gertiwr i adeiladydd, ac wedi hynny am bum mlynedd yn gweini ar seiri meini.[1]

Yn 1866 ymunodd â'r heddlu lle daeth yn argyhoeddedig o anghyfiawnder y drefn Seisnig yng Nghymru a dechreuodd ysgrifennu erthyglau ar bynciau llosg y dydd gan ennill sylw iddo'i hun. Yn 1870 cafodd ei benodi'n is-olygydd yr Herald Cymraeg. Bu farw ym mis Ionawr 1875, yn 33 mlwydd oed, a chladdwyd ef ym mynwent Glanadda, Bangor.[1]

Gwleidyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ôl ei fywgraffydd, R. Môn Williams:

"Yr oedd ei sêl dros bopeth Cymreig yn angherddol, a chynhyrfodd y wlad yn erbyn penodiad barnwyr Seisnig i'r llysoedd yng Nghymru. Dinoethodd anghyfiawnder a gorthrwm ymhob cylch, ac amcanodd dros ddylanwad y Wasg er daioni y werin."[1]

Llenor[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfranodd Alfardd nifer o gerddi ac erthyglau i gylchgronau Cymraeg y cyfnod. Yn ogystal, ysgrifenodd ddwy nofel yn Gymraeg, sef Yr Hafoty Gwyn ac Ifor Wyn[1]; themâu moesol a dirwestol yn arddull gweddill nofelau Cymraeg y cyfnod a geir ynddynt.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Ifor Owen. Nofel.
  • Yr Hafoty Gwyn. Nofel.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 R. Môn Williams, Enwogion Môn (Bangor, 1913).