Nodyn:Pigion/Wythnos 36

Oddi ar Wicipedia
Pigion

Dechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1914 a daeth i ben yn 1918. Dyma'r tro cyntaf y defnyddwyd arfau cemegol a'r tro cyntaf y gollyngwyd bomiau o awyrennau a chafwyd yr engraifft gyntaf o hil-laddiad yn ystod y ganrif hon. Nid oedd cymaint o filwyr erioed o'r blaen wedi cael eu defnyddio mewn gwrthdarro neu ryfel, ac anafwyd mwy o filwyr nag erioed o'r blaen. Roedd y Rhyfel Byd Cyntaf yn gyfnod o newidiau mawr, gan roi terfyn ar yr hen drefn a pharatoi'r ffordd i'r drefn newydd. Dyma gyfnod cwymp teuluoedd fel yr Habsburg, y Romanov, a'r Hohenzollern a oedd wedi bod mor ddylanwadol yng ngwleidyddiaeth Ewrop gyda'u gwreiddiau yn mynd yn ôl i ddyddiau y croesgadau. Achosodd y rhyfel hon yr Ail Rhyfel Byd yn ogystal a Chomiwnyddiaeth a'r Rhyfel Oer ac felly roedd yn ddylanwad sylweddol ar fywyd yr ugeinfed ganrif.

Lladdwyd mwy na 9 miliwn o filwyr yn ystod y brwydrau a bron cynnifer o bobl cyffredin o achos newyn, hil-laddiad a bomiau. Lladdwyd 40,000 o Gymry a oedd yn y lluoedd arfog... 


Mwy o bigion · Newidiadau diweddar

Erthyglau dewis