Nodyn:Pigion/Wythnos 18
Gwedd
Pigion
Prifddinas a dinas fwyaf Ffrainc yw Paris. Mae hi ar un o ddolenni Afon Seine, ac felly wedi ei rhannu yn ddwy: y lan dde i'r gogledd a'r lan chwith i'r de o'r afon. Mae'r afon yn enwog am ei quais (llwybrau gyda choed ar hyd y glannau), bythod llyfrau awyr agored a hen bontydd dros yr afon. Mae'n enwog hefyd am ei rhodfeydd, er enghraifft y Champs-Élysées, a llu o adeiladau hanesyddol eraill. Mae tua 2 filiwn o bobl yn byw yn y ddinas (1999: 2,147,857 o drigolion), ond mae tua 11 miliwn o bobl yn byw yn Ardal y Brifddinas (aire urbaine de Paris yn Ffrangeg; 1999: 11,174,743 o drigolion), sy'n llenwi tua 90% o arwynebedd rhanbarth Île-de-France. Yn ogystal mae Paris yn un o départements Ffrainc. mwy... |
Erthyglau dewis
|