Prifysgol Aberdeen
| Math | prifysgol ymchwil gyhoeddus, sefydliad di-elw |
|---|---|
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Lleoliad | Aberdeen |
| Sir | Dinas Aberdeen |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 57.165°N 2.1°W |
![]() | |

Prifysgol yn Aberdeen, y drydedd brifysgol hynaf yn yr Alban, ydy Prifysgol Aberdeen (Saesneg: University of Aberdeen). Fe'i sefydlwyd ef yn 1495 fel Coleg y Brenin (Saesneg: King's College),[1] yn ddiweddarach, sefydlwyd Coleg Marischal (Saesneg: Marischal College) yn 1592, fel sefydliad Protestanaidd.[2] Yn 1860 unwyd y ddwy sefydliad i ffurfio'r sefydliad modern.
Mae yna ddau gampws; lleolir campws Coleg y Brenin yn Hen Aberdeen, sydd tua dwy filltir i'r gogledd o ganol y ddinas. Codwyd y mwyafrif o'r adeiladau academaidd yn yr (heblaw capel Coleg y Frenin a'r cwad) ugeinfed ganrif.
Ceir ysgol Feddygol a Deintyddiaeth ae gampws Forest Hill, ger ysbyty yr Aberdeen Royal Infirmary. Gyda'i gilydd, mae'r adeiladau hyn yn ffurfio un o gampysau meddygol mwyaf Ewrop.
Cysylltiadau Cymreig
[golygu | golygu cod]Rhwng 2003 a 2024, roedd y cyfansoddwr Paul Mealor yn Athro Cyfansoddi yma ac ef wnaeth sefydlu Cystadleuaeth Cyfansoddi y brifysgol yn 2003.
Cynfyfyrwyr
[golygu | golygu cod]- Alistair Darling, gwleidydd
- Tessa Jowell, gwleidydd
- Gilbert Burnet, offeiriad, hanesydd a diwinydd
- Patrick Manson, meddyg a phryfetegwr
- Robert Brown, botanegydd a phaleontolegydd
- James Macpherson, bardd
- John Boyd Orr, meddyg, gwleidydd a biolegydd
- Thomas Sutherland, bancwr, sefydlu HSBC[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Bulloch, John Malcolm (1895). A History of the University of Aberdeen: 1495–1895. London: Hodder and Stoughton. tt. 18–19. Cyrchwyd 20 December 2012.
- ↑ "The New Statistical Account of Scotland – Account of the University and King's College of Aberdeen". Electricscotland.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Hydref 2024. Cyrchwyd 20 Tachwedd 2010.
- ↑ jin (2014-06-17). "Sir Thomas Sutherland Founder of HSBC -" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-01-27.
