Neidio i'r cynnwys

Y Storm (Islwyn)

Oddi ar Wicipedia
Joseph Vernet wedi'i glymu i hwylbren yn ystod storm, gan Horace Vernet, 1822

Y Storm yw'r enw ar ddwy bryddest gan y bardd Cymraeg Islwyn (William Thomas, 1832-1878) a gyfansoddwyd rhwng 1854-56.[1] Ni chyhoeddwyd y naill gerdd na'r llall yn llawn yn ystod bywyd y bardd, nac yn eu ffurfiau gwreiddiol nes canrif yn ddiweddarch, ond bellach ystyrir mai hwythau yw uchafbwyntiau ei waith,[2][3] ac fe'u cyfrir ymysg uchafbwyntiau barddoniaeth Gymraeg yn gyffredinol ac yn y 19g yn enwedig.[4]

Hyd nes cyhoeddwyd golygiadau safonol o'r ddwy gerdd yn 1980 ac 1990 gan Meurig Walters bu cryn dryswch a dadlau ynghylch union gynnwys, ffurf, strwythur ac arwyddocâd y ddwy gerdd.[2] Cerddi annibynnol ac ymddangosol gyflawn yw'r ddwy gerdd, er bod rhai llinellau'n gyffredin rhyngddynt a'u bod yn debyg iawn eu cymeriad a'u deunydd thematig. Un achos ar gyfer y dryswch oedd arfer y bardd ei hun o gyhoeddi detholiadau o'r Storm gyntaf fel cerddi annibynnol; er cyhoeddwyd rhannau felly yn ystod ei fywyd ni chyhoeddwyd y naill gerdd na'r llall yn ei chyfanrwydd nes diwedd y ganrif. Cyhoeddwyd golygiad o'r ail Storm gan O. M. Edwards yn 1897, ond cynhwysodd rhai rhannau o'r gerdd gyntaf hefyd nad oedd wedi sylweddoli eu bod yn rannau o gerdd wahanol.

Cefndir a dylanwadau

[golygu | golygu cod]
Islwyn yn ŵr ifanc; roedd eisoes wedi cwblhau'i waith ar Y Storm erbyn adeg tynnu'r llun hwn yn 1859.

Y ddwy Storm yw prif gwaddol barddonol Islwyn o'r cyfnod. Ysgogiad oedd yn amlwg o bwys oedd marwolaeth sydyn cariad Islwyn, Ann Bowen, ym mis Hydref 1853.[2] Roedd y ddau wedi dyweddïo ac mae awgrym mai ychydig ddyddiau'n unig cyn eu priodas y bu farw. Roedd yr ergyd yn un ysgytwol i Islwyn a effeithiodd arno am weddill ei fywyd; mae'r ddwy gerdd yn frith o gyfeiriadau uniongyrchol at Ann a'u tôn cyffredinol yn lleddf a phrudd drwyddi draw.

Ymddengys mai beirdd Saesneg yw'r prif dylanwadau ar y cerddi, yn enwedig y gyfres Night-Thoughts gan Edward Young;[2][5] ond ymddengys hefyd bod Islwyn hefyd yn fwriadol ymateb i'r hen awydd ym marddoniaeth Gymraeg i greu arwrgerdd[6] a bod ganddo feddwl uchel o awdl Caledfryn ar Long-ddrylliad y Rothsay Castle (1832), sy'n llawn o ddisgrifiadau pwerus o dymestl ac a ddisgrifiodd Islwyn fel "yr awdl fwyaf cyffrous yn yr iaith."[7]

Mae tystiolaeth bod Islwyn wedi bod yn darllen gwaith (neu drafodaethau ohonynt yn y Gymraeg neu'r Saesneg) gan feddylwyr o'r Almaen megis Kant ac mae'n bosib mai ymgais i leihau dylanwad y rhain oedd un o'r rhesymau iddo roi'r Storm cyntaf o'r neilltu a dechrau o'r newydd.[8]

Ffurf a Mesur

[golygu | golygu cod]

Pryddestau yw'r ddwy gerdd o ran ffurf; cerddi rhydd hirion ydynt gyda mydr ac odl pendant mewn adrannau unigol ond yn amrywio'n sylweddol dros y cyfanwaith. Mae'r ddwy gerdd yn sylweddol eu maint, ill dwy dros 6,000 o linellau. Mae rhannau ohonynt yn ddi-odl a rhannau eraill yn fwy telynegol eu naws. Pan ymddangosodd rhannau o'r gerdd gyntaf yn Caniadau Islwyn yn 1867 rhoddodd y bardd benawdau arnynt; mae'r rhain yn ymddangos yn fynych mewn cyhoeddiadau eraill o waith Islwyn hyd yn oed ers cyhoeddi'r fersiynau llawn o'r Storm (er enghraifft yn Blodeugerdd Barddas o'r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg) ond nid ydynt i'w gweld yn y llawysgrif gwreiddiol.

Themâu

[golygu | golygu cod]

Cerddi gwahanol, hunan-gynhwysol yw'r ddwy gerdd (er bod rhyw 250 o linellau'n gyffredin rhyngddynt) ond er bod gwahaniaethau rhyngddynt o ran pwyslais a strwythur, yr un yn y bôn yw'r themâu a'r delweddau sy'n ymddangos ynddynt. Yng ngeiriau Glyn Tegai Hughes,

Aildroedio'r un llwybrau â'r Storm gyntaf y mae yr ail Storm, ond bod y cerddediad efallai yn fwy pwyllog, yr awyrgylch yn llai nwydwyllt. Hanfod y ddwy gerdd yw'r frwydr rhwng amser ac anfarwoldeb, rhwng atgof a'r presennol, rhwng sylwedd ac ymddangosiad. Maes y gad yw'r byd naturiol, ond ar wedd gosmig yn hytrach na thirluniadol.[8]

Nid oes naratif clir, cydlynus i'r cerddi ac mae'r delweddau'n aml yn annelwig ac yn gwahodd dehongliadau gwahanol o'u harwyddocâd. Serch hynny mae nifer o elfennau amlwg sy'n gyffredin i'r ddwy gerdd.

Stormydd

[golygu | golygu cod]

Disgrifiadau o stormydd llythrennol yw rhai rhannau o'r ddwy gerdd, mwy ohonynt yn y cyntaf na'r ail. Dyma enghraifft o'r Storm gyntaf:

  Un elfen deyrnasa trwy'r cyfan yn awr,
  Mae hanner y ddaear yn gefnfor mawr!
  Y corwynt a dreigla y creigiau bryd hyn
  O gopa y mynydd nes llanw y glyn,
  Ffowch ymaith! mae'n dymchwel y bryniau cellt,
  Ffowch! ffowch! mae ei anadl yn boeth gan y mellt!

Ac o'r ail:

  Saf ar y graig! Barddoniaeth duwiau yw,
   Os meiddi oddef yr ofnadwy iaith
  Os meiddi wrando ar y môr a byw
   A'th enaid godi gyda'r fordon faith
   Ymgodi tuag ardderchocach traeth

Ymddengys bod Islwyn wedi darllen disgrifiadau o storm yn 1703 a chwalodd oleudy;[9] mae cyfeiriad at oleudai'n dymchwel i'w cael yn y ddwy gerdd. Ceir delweddau eraill o ddinistr a cholled megis merch yn colli plentyn i'r môr, ac mae morwr unig yn brwydro'r ddrycin yn ddelwedd gyffredin arall. Trosiad estynedig ar y cyfan yw'r cyfeiriadau hyn at ddrycinoedd ac mae'n glir mai stormydd ffigurol bywyd a cholled sydd dan sylw yn Y Storm cymaint â stormydd llythrennol.

Marwolaeth a Meidroldeb

[golygu | golygu cod]

Mae marwolaeth yn destun sy'n britho'r ddwy gerdd yn eu cyfanrwydd; fel y soniwyd eisoes roedd Islwyn yn galaru am ei gariad Ann Bowen fu farw'n sydyn ychydig fisoedd cyn dechrau cyfansoddi'r Storm gyntaf. Mae geiriau fel "bedd", "angau" a "marw" yn ymddangos ugeiniau o weithiau yn y naill gerdd a'r llall.

Er mai yng nghyd-destun ergyd ei cholled y mae'r cerddi'n trafod cariad Islwyn at Ann Bowen gan fwyaf, mae ambell awgrym erotig hefyd yn yn cerddi, yn enwedig yr ail, gyda chyfeiriadau mynych at fronnau.[10]

Diwinyddiaeth Gristnogol

[golygu | golygu cod]

Roedd Islwyn yn weinidog gyda'r Methodistiaid ac mae'r elfen ddiwinyddol yn gryf iawn yn y ddwy gerdd, gyda rhannau helaeth o'r ddwy yn trafod a thraddodi syniadau diwinyddol y bardd am y berthynas rhwng Duw, yr unigolyn a'r byd. Thema'r ail gerdd yw "Pererindod yr enaid a'i fuddugoliaeth dros storm bywyd" chwedl y Cydymaith.[2]

Cyfriniaeth

[golygu | golygu cod]

Ystyrir y ddwy Storm yn destunau pwysig yn nhraddodiad cyfrinol yr iaith Gymraeg.[11]

Barddoniaeth

[golygu | golygu cod]

Mae Islwyn yn trafod pwrpas a natur barddoniaeth mewn sawl rhan o'r cerdd; gofynnir yn y cyntaf

       A yw'r sêr uwchben
  Mor ddwyfol ac ardderchog ag y myn
  Barddoniaeth ganu?

Ac yn enghraifft yn yr ail gerdd ceir yr anerchiad hwn:

  Barddoniaeth, O Farddoniaeth! Pwy a dyd
   Derfynau arnat? Eang fel y nef
  Yw taen dy ymerodraeth; mae y byd
   Ei greig, ei foroedd, a'i fynyddoedd ef
   Yn troi o'th gylch ag argufundraeth gref
  O dragwyddol bethau, a'r holl sêr
  O fewn gwelediad dy gerubdrem têr.

Mewn rhannau eraill yn y cerddi sonir am y tensiwn rhwng y mesurau caeth a rhydd.

Hanes Cyhoeddi

[golygu | golygu cod]

Er bod y ddwy gerdd yn ymddangos fel cerddi cyflawnedig yn y llawsygrifau - nid sgetsys na drafftiau mohonynt - nid chyhoeddwyd y naill neu'r lall yn ei chyfanrwydd yn ystod bywyd Islwyn ac nid yw'n glir beth oedd bwriad Islwyn yn eu cylch. Ymddengys iddo weithio ar y Storm gyntaf o 1854 hyd yn gynnar yn 1856, cyn ei rhoi o'r neilltu a gweithio ar yr ail am weddill y flwyddyn honno. Nid yw'n ymddangos iddo barhau i ychwanegu at y naill gerdd na'r llall ar ôl 1856 er iddo fyw am dros ugain mlynedd wedi hynny, ond nid yw hynny o reidrwydd yn brawf nad oedd yn bwriadu dychwelyd atynt, yn enwedig i'r ail Storm: dylid nodi bod enghreifftiau ym marddoniaeth Saesneg y cyfnod o feirdd yn gweithio ar gerddi hir am gyfnodau maith, er enghraifft William Wordsworth a weithiodd ar ei gerdd hir The Prelude o 1799 hyd ei farwolaeth yn 1850. Gall fod y ffaith iddo gyhoeddi rhai rhannau o'r Storm gyntaf, ond nid yr ail, yn Caniadau yn 1867 awgrymu ei fod wedi rhoi'r gorau i'r cyntaf fel cyfanwaith ond yn bwriadu dychwelyd ryw dro i'r ail; ond nid oes prawf pendant o hyn. Nododd W. J. Gruffydd mai Islwyn oedd y bardd cyntaf ers Dafydd Ionawr i ganu cerdd hir ar destun o'i ddewis ei hun;[12] gan nad oedd y gerdd yn destun cystadleuaeth Eisteddfodol nid oedd dan unrhyw bwysau i'w gwblhau erbyn dyddiad penodol. Yn ei ragymadrodd i Gwaith Islwyn, awgrymodd O. M. Edwards bod Islwyn wedi bwriadu trefnu ei holl brydyddiaeth fel un cyfanwaith dan y teitl Y Storm,[13] ond prin yw'r dystiolaeth i gefnogi hyn.

Mae'r rhannau o'r Storm gyntaf sy'n ymddangos yn Caniadau ac mewn cylchgronau wedi'u codi o amrywiol rannau o'r gerdd ac nid bob amser yn rhannau gydlynus o'r gerdd wreiddiol (mewn rhai achosion ychwanegodd ddeunydd newydd); mae'r driniaeth hon o'i ddeunydd gan y bardd ei hun yn anarferol iawn ac yn un agwedd sydd wedi ychwanegu at ddryswch dehongli'r farddoniaeth.[14]

Gweithiau Barddonol Islwyn (1897)

[golygu | golygu cod]

Wedi marwolaeth Islwyn yn 1878 prynwyd ei bapurau gan O. M. Edwards gyda'r bwriad o gyhoeddi cyfrol yn casglu ynghyd holl waith barddonol y bardd. Y canlyniad oedd Gweithiau Barddonol Islwyn yn 1897, ac yn hwn cynhwysodd Edwards holl linellau'r ail Storm. Fodd bynnag ychwanegodd hefyd 297 o linellau o'r gerdd gyntaf at y fersiwn o'r gerdd sy'n ymddangos yn y gyfrol honno, ynghyd a dros fil o linellau'n ychwanegol o ddeunydd arall gan Islwyn (a gyhoeddwyd yn Caniadau gan mwyaf) nad oedd yn rhan o lawysgrif gwreiddiol yr ail Storm.[15]

Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil) (1906)

[golygu | golygu cod]

Pan gyhoeddodd Gweithiau Barddonol Islwyn credai O. M. Edwards ei fod wedi cyhoeddi holl weithiau'r bardd.[16] Fodd bynnag daethpwyd o hyd i lawysgrif arall a manteisiodd Edwards ar Cyfres y Fil i gyhoeddi rhywfaint o'i gynnwys yn 1906; Y Storm gyntaf, gyflawn oedd prif gynnwys y llawysgrif newydd hwn ond oherwydd bod rhannau ohoni eisoes wedi'u cyhoeddi (yn Caniadau) ni sylweddolodd Edwards mai cyfanwaith ydoedd er iddo nodi bod tudalennau'r ysgrif wedi'u rhifo felly.[13] Oherwydd cyfyngiadau maint Cyfres y Fil, nid oedd gan Edwards ddigon o le i gyhoeddi holl gynnwys y llawysgrif ac felly aeth ati i ddethol pigiadau ohono a'u cyhoeddi fel cerddi hunan-gynhwysol heb sylwi eu bod yn rhan o gyfanwaith.[15] Yn gyfangwbl mae Gwaith Islwyn yn cynnwys rhyw 2,000 o linellau o'r Storm gyntaf, sef tua thraean o'r gerdd.[15]

Y Storm Gyntaf gan Islwyn (1980) ac Ail Storm Islwyn (1990)

[golygu | golygu cod]

O ganlyniad i'r dryswch cyhoeddi, am hanner gyntaf yr ugeinfed ganrif ystyriwyd mai dim ond un gerdd gan Islwyn a fodolai dan y teitl Y Storm a'r unig fersiwn ohoni oedd ar gael yn eang oedd y fersiwn o'r ail gerdd sy'n ymddangos yn Gweithiau Barddonol Islwyn. Mae rhai o'r camgymeriadau a wnaeth Edwards yn ei olygiad o'r gerdd felly wedi lliwio'r feirniadaeth a fu ar y gerdd yn ystod y cyfnod hwn.[17] Fodd bynnag arweiniodd y dryswch amlwg at gryn astudio ar bapurau'r bardd, ac mewn darlith yn 1953 o eiddo D. Gwenallt Jones ceir y cyfeiriad cyntaf at fodolaeth dwy Storm.[18] Bu'n rhaid aros degawdau eto fodd bynnag nes cyhoeddi'r gerdd gynharach am y tro cyntaf yn 1980, "Y Storm" Gyntaf gan Islwyn, dan olygyddiaeth Meurig Walters (a astudiodd y bardd gyda Gwenallt), sef y cyhoeddiad cyntaf llawn o'r gerdd gyntaf, sydd iddi yn y ffurf terfynol hwn 6,564 o linellau, 2,948 ohonynt heb eu cyhoeddi o'r blaen cyn y dyddiad hwnnw.[15] Dilynwyd y cyhoeddiad gan yr ail Storm yn 1990, sef y tro cyntaf yr oedd y gerdd honno wedi'i chyhoeddi ar ei ffurf gwreiddiol heb ychwanegiadau.

Beirniadaeth

[golygu | golygu cod]

Y sylw negyddol a wneir ar y cyfan wrth drafod y ddwy Storm yw eu bod yn anghyson - "Cerdd anwastad iawn yw'r Storm cyntaf" meddai Glyn Tegai Hughes,[6] - a'u bod yn or-hir. Meddai R. I. Aaron, "fel yr â'r Storm yn ei blaen, cyll yr awdur afael ar ei syniadau canolog, ac ar ei gyfundrefn."[19]

Serch hynny, er gwaetha'r ffaeleddau strwythurol hyn mae cydnabyddiaeth eang bod y rhannau gorau o'r ddwy Storm yn cynrychioli barddoniaeth mwyaf pwerus y bardd os nad yr 19g. Er ei fod yn feirniadol o'r gerdd fel cyfanwaith ystyriodd W. J. Gruffydd bod trydedd rhan yr ail Storm yn "anrhaethol bwysicach na dim arall yng nghyfraniad llenyddiaeth Cymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg."[20] I R. M. Jones roedd yr ail Storm yn un o gerddi hir orau'r ganrif ac yn sefyll "ymhlith gorchestion cydnabyddedig a diogel ein llenyddiaeth."[4] Yn cyfeirio at y ddwy gerdd, meddai cofianydd Islwyn Glyn Tegai Hughes:

Nid yw'r cerddi heb eu gorlwyth o ddelweddau emosiynol, o'r straenio am yr aruchel a nodwyd, o ddilyn ffasiynau llenyddol eilradd. Nid oes cysondeb yn y trafod motiffau a symbolau - gweithredol, synfyfyriol, gweledgiaethol, breuddwydiol, llesmeiriol, diwiynyddol, yn eu tro. Ond prin bod dryswch a blerwch o unryw bwys; llif y dychymyg ac angerdd y mynegiant sy'n ysgubo popeth o'u blaen, o leiaf yn yr ariâu mawr sy'n codi byth a hefyd allan o'r adroddgan. Yng nghroth yn gerdd y mae rhyw gydweddiadau'n tyfu: metafforau tragwyddoldeb, ehediadau daearyddol, gofodol a hanesyddol, gweledigaethau ysbeidiol o ddoleniad natur, meddwl, a'r anfeidrol. Y rhyfeddod yw gweld llanc 22 a 23 oed o'r Ynys-ddu yn anelu mor uchel, ac yn cyrraedd y nod mor aml.[21]

Y Storm Saesneg

[golygu | golygu cod]

Yn llawysgrif Y Storm cyntaf ceir trydedd cerdd anorffenedig o eiddo Islwyn a ysgrifennwyd yn yr un cyfnod, sef cerdd Saesneg o'r enw The Storm. Er bod y deunydd, y ffurf a'r themâu yn debyg nid yw'r gerdd yn gyfieithiad o'r cerddi Cymraeg. Ni orffennodd Islwyn y gerdd hon ac mae'n fyrrach o lawer na'r ddwy gerdd Gymraeg.

Ffynonellau

[golygu | golygu cod]
  • Hughes, Glyn Tegai (2003). Islwyn (Dawn Dweud). Gwasg Prifysgol Cymru.
  • Stephens, Meic (gol.) (1997). Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (2il Argraffiad). Gwasg Prifysgol Cymru.
  • Walters, Meurig (gol.) (1980). "Storm" Gyntaf Islwyn. Yr Academi Gymraeg.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Meurig Walters, Storm Gyntaf Islwyn, t. 159.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 Stephens, t. 685.
  3. "Islwyn". Cyrchwyd 3 Rhagfyr 2024. Unknown parameter |site= ignored (help)
  4. 4.0 4.1 Blodeugerdd Barddas o'r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, gol. R. M. Jones Cyhoeddiadau Barddas, 1988), t.11-13
  5. Hughes, t. 125.
  6. 6.0 6.1 Hughes, t. 111.
  7. Hughes, t. 110.
  8. 8.0 8.1 Hughes, t. 136-7.
  9. Hughes, t. 108.
  10. Hughes, t. 146.
  11. Stephens, t. 132.
  12. W. J. Gruffydd, "Islwyn", Y Llenor II.2 (Haf 1923), t.71
  13. 13.0 13.1 O. M. Edwards, "Rhagymadrodd", yn Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil, 1906), t.4
  14. Meurig Walters, Storm Gyntaf Islwyn, t. 162.
  15. 15.0 15.1 15.2 15.3 Meurig Walters, Storm Gyntaf Islwyn, t. 163-4.
  16. Edwards, O. M., "Rhagymadrodd", Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil), 1906. t.3
  17. Hughes, t. 124.
  18. Jones, D. Gwenallt (1953) "Y Storm": Dwy Gerdd gan Islwyn", Darlith Goffa Islwyn.
  19. Aaron, R.I.; "Islwyn", Y Llenor VIII.1 1929, tt.44
  20. Gruffydd, W. J.; "Islwyn", Y Llenor II.2 Haf 1923, t.99; Noder mai at 'bedwaredd' ran y gerdd y mae Gruffydd yn cyfeirio yn y ffynhonnell, camgymeriad sy'n deillio o flêrwch golygiad O. M. Edwards o'r gerdd.
  21. Hughes, t. 182-3.