David Willis
David Willis | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 1970 ![]() |
Swydd | Athro mewn Celteg yng Ngholeg yr Iesu ![]() |
Gwobr/au | Cymrawd yr Academi Brydeinig ![]() |
Ieithydd ac arbenigwr yn yr Ieithoedd Celtaidd yw David W. E. Willis (ganwyd 1970). Yn 2020 penodwyd ef yn Athro Celteg i Goleg yr Iesu, Rhydychen.[1] Mae hefyd wedi dal swyddi mewn ieithyddiaeth hanesyddol ym Mrifysgol Manceinion a Phrifysgol Caergrawnt, lle bu'n Gymrawd yng Ngholeg Selwyn, Caergrawnt.
Gyrfa academaidd
[golygu | golygu cod]Graddiodd mewn Ieithoedd Modern (Almaeneg a Rwseg) yng Ngholeg Sant Ioan, Rhydychen.
Cafodd ei benodi'n gymrawd ymchwil iau yng Ngholeg Somerville, Rhydychen ac yna'n gymrawd yr Academi Brydeinig yng Ngoleg yr Iesu, Rhydychen. Bu’n ddarlithydd mewn ieithyddiaeth hanesyddol ym Mhrifysgol Manceinion, yna’n gymrawd mewn ieithyddiaeth yng Ngholeg Selwyn, Caergrawnt. Cyn ei benodi i’r Gadair Geltaidd yn Rhydychen.
Yn 2022, cafodd ei ethol yn Gymrawd yr Academi Brydeinig ar gyfer dyniaethau a gwyddorau cymdeithas (British Academy).[2]
Ymchwil
[golygu | golygu cod]Prif ddiddordeb Willis yw cystrawen, yn enwedig cystrawen yr iaith Gymraeg.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Syntactic Change in Welsh: A Study of the Loss of Verb-second (Gwasg Prifysgol Rhydychen 1998) ISBN 9780198237594
- The Syntax of Welsh (Gwasg Prifysgol Caergrawnt 2007) gol. gyda Robert Borsley a Maggie Tallerman ISBN 9780511486227
- Continuity and Change in Grammar (Gwasg John Benjamins 2007) gol. gyda Anne Breitbarth, Christopher Lucas a Sheila Watts ISBN 9789027255426
- The History of Negation in the Languages of Europe and the Mediterranean, Volume I: Case Studies (Gwasg Prifysgol Rhydychen 2013) gol. gyda Christopher Lucas, ac Anne Breitbarth ISBN 9780199602537
- The History of Negation in the Languages of Europe and the Mediterranean, Volume II: Patterns and Processes (Gwasg Prifysgol Rhydychen 2020) gol. gyda Anne Breitbarth a Christopher Lucas ISBN 9780199602544
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Eades, Jude (2020-01-30). "Dr David Willis appointed as the new Jesus Chair of Celtic". Jesus College (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2025-01-25. Cyrchwyd 2024-11-23.
- ↑ "Record number of women elected to the British Academy". The British Academy (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-11-29.