De Motu Cordis
| Enghraifft o: | gwaith ysgrifenedig |
|---|---|
| Awdur | William Harvey |
| Iaith | Lladin |
| Dyddiad cyhoeddi | 1628 |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/02lc1_ |
Gwaith mwyaf adnabyddus y meddyg o Sais William Harvey yw De Motu Cordis a gyflwynodd darganfyddiadau'r awdur am gylchrediad gwaed trwy'r corff. Fe'i cyhoeddwyd gyntaf yn Lladin gan William Fitzer yn Frankfurt am Main, yr Almaen, yn 1628, o dan ei deitl llawn, Exercitatio Anatomica de Motu Cordis et Sanguinis in Animalibus (Lladin, "Astudiaeth Anatomegol o Symudiad y Galon a'r Gwaed mewn Anifeiliaid").
Roedd y gyfrol yn garreg filltir yn hanes ffisioleg. Bu Harvey yn cyfuno arsylwadau, arbrofion, mesuriadau, a damcaniaethau mewn modd rhyfeddol i gyrraedd ei athrawiaeth. Cafodd y llyfr ddylanwad dwfn ac uniongyrchol ar ei gyfoeswyr.
Gwelodd Harvey nad rhyw sedd gyfriniol o'r ysbryd a'r teimladau oedd y galon; yn hytrach roedd yn bwmp y gellid deall ei waith yn fecanyddol. Mesurodd Harvey faint o waed a anfonodd y galon i'r corff a sylwodd fod dwy owns o waed yn gadael y galon gyda phob curiad; felly gyda 72 o guriadau y funud, byddai'r galon yn taflu i'r system 540 pwys o waed bob awr. O ble y gallai'r holl waed hwn ddod? Yr ateb oedd mai'r un gwaed oedd bob amser yn dychwelyd i'r galon. Roedd y galon yn pwmpio'r gwaed i bob rhan o'r corff trwy'r rhydwelïau a byddai'n dychwelyd trwy'r gwythiennau mewn gylchred gaeedig gyflawn.[1]
-
Tudalen deitl
-
Darluniau yn dangos cylchrediad y gwaed yn y fraich
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "De motu cordis", Prifysgol Glasgow, Adran Casgliadau Arbennig; adalwyd 28 Tachwedd 2024
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- De Motu Cordis Archifwyd 2010-11-27 yn y Peiriant Wayback, argraffiad cyntaf (1628); Rare Book Room
- "On The Motion Of The Heart And Blood In Animals", cyfieithiad Saesneg gan Robert Willis