Barbara Taylor Bradford
Barbara Taylor Bradford | |
---|---|
Ganwyd | Barbara Taylor 10 Mai 1933 Leeds |
Bu farw | 24 Tachwedd 2024 Dinas Efrog Newydd |
Dinasyddiaeth | Lloegr UDA |
Galwedigaeth | llenor, nofelydd, awdur |
Adnabyddus am | A Woman of Substance |
Arddull | nofel ramant |
Priod | Robert E. Bradford |
Gwobr/au | OBE |
Gwefan | http://www.barbarataylorbradford.com/ |
Nofelydd oedd Barbara Taylor Bradford, OBE (10 Mai 1933 – 24 Tachwedd 2024). Roedd hi'n ysgrifennu yn Saesneg: cafodd ei geni yn Lloegr, ond roedd hi'n byw yn Unol Daleithiau America. Roedd ei nofelau'n gwerthu'n dda, gyda nifer yn werthwyr gorau.
Barbara Taylor oedd ei henw cyn priodi. Cafodd ei geni yn Armley, Leeds, yn ferch i Freda a Winston Taylor.[1][2] Cafodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd Christ Church yn Upper Armley, oedd yn un o ysgolion Eglwys Loegr, a hynny ar yr un pryd â'r awdur Alan Bennett.[3] Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, A Woman of Substance, ym 1979, a gwerthodd dros 30 miliwn o gopïau ledled y byd.[4]
Cyfarfu Taylor â'i gŵr, y cynhyrchydd ffilm Americanaidd Robert E. Bradford, yn 1961, ar ôl i'r sgriptiwr o Loegr, Jack Davies, gyflwyno'r ddau.[3][5] Priodasant yn 1963 a symud yn barhaol i'r Unol Daleithiau.[2]
Daeth yn ddinesydd Unol Daleithiau America. Bu farw yn 91 oed, yn ei chartref yn Manhattan, Dinas Efrog Newydd.[2]
Llyfrau
[golygu | golygu cod]Mae ei llyfr A Woman of Substance yn adrodd hanes cymeriad o'r enw Emma Harte sy'n dechrau gyda dim byd ac yn dod yn gyfalafwraig lwyddiannus. Crewyd cyfres deledu ar sail y llyfr, ac aeth Barbara Taylor Bradford yn ei blaen i ysgrifennu chwe nofel arall am Emma Harte.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Thomson, Liz (25 Tachwedd 2024). "Barbara Taylor Bradford obituary". The Guardian. Cyrchwyd 25 Tachwedd 2024.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 McFadden, Robert D. (25 Tachwedd 2024). "Barbara Taylor Bradford, Whose Sagas Were Best Sellers, Dies at 91". The New York Times. Cyrchwyd 25 Tachwedd 2024.
- ↑ 3.0 3.1 Cooke, Rachel (8 Hydref 2006). "You can never be too rich". The Guardian. Cyrchwyd 21 Chwefror 2014.
- ↑ "Barbara Taylor Bradford". HARDtalk. BBC News. 23 Medi 2009. Cyrchwyd 27 Ionawr 2011.
- ↑ Bradford, Barbara Taylor (22 Rhagfyr 2013). "Barbara Taylor Bradford: my golden husband". The Daily Telegraph. Cyrchwyd 21 Chwefror 2014.
- Genedigaethau 1933
- Llenorion ffeithiol yr 20fed ganrif o'r Unol Daleithiau
- Llenorion ffeithiol o Loegr
- Llenorion ffeithiol benywaidd o'r Unol Daleithiau
- Llenorion benywaidd yr 21ain ganrif o'r Unol Daleithiau
- Llenorion ffeithiol yr 21ain ganrif o'r Unol Daleithiau
- Llenorion benywaidd yr 20fed ganrif o'r Unol Daleithiau
- Marwolaethau 2024
- Nofelwyr benywaidd o Loegr
- Nofelwyr benywaidd o'r Unol Daleithiau
- Nofelwyr yr 21ain ganrif o Loegr
- Nofelwyr yr 21ain ganrif o'r Unol Daleithiau
- Nofelwyr yr 20fed ganrif o Loegr
- Nofelwyr yr 20fed ganrif o'r Unol Daleithiau
- Swyddogion Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig