Kneecap (band)
| Enghraifft o: | band |
|---|---|
| Cyllideb | gwrth-Seioniaeth |
| Label recordio | Heavenly Recordings |
| Dod i'r brig | 2017 |
| Dechrau/Sefydlu | 2017 |
| Genre | rapio, hip hop, political hip-hop |
| Yn cynnwys | Liam Óg Ó hAnnaidh, Móglaí Bap, DJ Próvaí |
| Gwefan | https://www.kneecap.ie/ |
| Dynodwyr | |
Triawd rap o Orllewin Belfast sy'n canu yn yr iaith Wyddeleg yw Kneecap. Y tri aelod yw Mo Chara (Liam Óg Ó hAnnaidh), Móglaí Bap (Naoise Ó Cairealláin) a DJ Próvaí (JJ Ó Dochartaigh) ac maent yn defnyddio hen sloganau ymfflamychol yr IRA fel rhan o’u hymgyrch cyhoeddusrwydd.[1][2] Maen nhw wedi nodi bod llwyddiant y Sîn Roc Gymraeg wedi bod yn ysbrydoliaeth a dylanwad arnynt i ganu yn yr iaith Wyddeleg.[3]
Cerddoriaeth
[golygu | golygu cod]Rhyddhaodd Kneecap eu sengl gyntaf, 'CEARTA' ("hawliau")[4][5][6] yn 2017.[7] Daw enw'r gân o weithred ar y diwrnod cyn gorymdaith An Dream Dearg dros Ddeddf Iaith Wyddeleg yn 2017, lle roedd Móglaí Bap a ffrind yn chwistrellu graffiti i gefnogi'r ymgyrch iaith. Ysgrifennodd ei ffrind y gair 'Cearta' (Hawliau) ar safle bws yn Belffast pan daeth yr heddlu ac arestiwyd y ffrind. Gwrthododd siarad Saesneg â nhw, a threuliodd y noson dan glo cyn i gyfieithydd gyrraedd. Mae'r gân 'C.E.A.R.T.A.' yn seiliedig ar y digwyddiad hwnnw."[8]
Roedd y sengl yn llwyddiannus iawn a phenderfynodd Mo Cara, Móglaí Bap a DJ Próvaí barhau dan yr enw Kneecap. Erbyn Rhagfyr 2024 roedd y sengl ar Youtube wedi derbyn 1.4 miliwn gwyliad.[9]
Daeth eu halbwm cyntaf, Fine Art, allan ym mis Mehefin 2024.[10] Derbyniodd Fine Art adolygiad pum seren gan yr NME, a ddywedodd y bydd rapio Moglaí Bap a Mo Cara yn eich cadw'n swynol a bod yn albwm sy'n ffafrio hiwmor a barddoniaeth.[11]
Anogaeth
[golygu | golygu cod]
Roedd caneuon Rónán Mac Aodha Buí [ga] yn ysbrydoliaeth fawr i’r band, meddent, "heb Rónán Mac Aodha ni fyddai Kneecap yn bodoli heddiw, fe a roddodd lwyfan i gymaint o gerddorion, a roddodd lais da ar y radio ac a ysbrydolodd bob math o gerddoriaeth. Roedd bob amser yn credu mewn cerddoriaeth Wyddelig gyfoes ac fe roddodd dipyn o egni i mewn iddo. Rónán oedd y cyflwynydd gyntaf i chwarae CEARTA ar Raidió na Gaeltachta ond wedyn cafodd y gân ei gwahardd ac fe gafodd hynny fwy o gyhoeddusrwydd i ni nag y gallen ni erioed ddychmygu, roedd yn ddyn a gymerodd siawns. Rónán roddodd ein gig cyntaf i ni yn [y dafarn] Teach Hiúdaí Beag [Tŷ Hiúdaí Iau], gig a ddechreuodd ein taith gerddorol o ddifri."[12]
Mae llinell yn CEARTA yn adlais o gorws Muca ("moch"), trac o'r band hip hop Gwyddeleg, Craos [ga], "Muca Muca Muca sa tóir ar do mheon Muca Muca Muca mo ghráin iad go deo" ("Moch Moch Moch yn erlid dy ysbryd Moch Moch Moch Mae'n gas gen i nhw am byth")".
Dadleuol
[golygu | golygu cod]Mae Kneecap yn destun dadlau. Daeth Kneecap yn enwog gyntaf yn 2017 pan ddywedwyd bod RTÉ wedi gwahardd y gân CEARTA.
Enw'r grŵp
[golygu | golygu cod]Kneecap oedd enw cosb parafilwrol lle byddai aelod o'r IRA yn saethu person (fel arfer rhywun a gyhiddid o frad) yn eu pengliniau. Roedd pobl ifanc oedd wedi eu cyhuddo o ymddygiad gwrthgymdeithasol neu weithredoedd eraill nad oedd yr IRA yn eu hoffi hefyd yn cael eu cosbi yn y modd yma.[2] Mae’n debyg bod yna dipyn o chwarae ar eiriau hefyd yn gysylltiedig â’r geiriau Gwyddeleg "ní cheapaim" sef yr ergyd mewn jôc boblogaidd[13] yn seiliedig ar yr ateb amwys i'r cwestiwn.[14]
| “ | Dau aelod o'r IRA yn trafod beth ddylid ei wneud gydag aelod o'r UVF. Maent yn siarad Gwyddeleg a Saesneg. "Should we kneecap him? Ní cheapaim." (ystyr ní cheapaim yw: Dwi ddim yn meddwl hynny)" | ” |
Agwedd gwrth-sefydliad
[golygu | golygu cod]Mae gan y grŵp agwedd gwrth-sefydliadol, maen nhw'n delio â chyffuriau ac yn aml yn pryfocio'r heddlu. Maent yn Weriniaethwyr i'r carn[15] ond ar yr un pryd maent wedi mynnu nad oes neges sectyddol yn eu cerddoriaeth.
Mae Kneecap yn defnyddio’r term "RUC" i ddisgrifio’r heddlu presennol yn y gogledd, sydd wedi newid eu henw bellach i Wasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon (PSNI).[7]
Mynegodd Kneecap eu hundod â phobl Palestina trwy gyhwfan baner mewn cyngherddau.[16]
Ffilm
[golygu | golygu cod]Gwnaethpwyd ffilm yn 2023, Kneecap [ga], sy'n adrodd hanes a thwf y band lle mae aelodau'r band yn chwarae eu hunain[17] gan ei ryddhau yn 2024. Ochr yn ochr ag aelodau'r band mae actorion mwy profiadol gan gynnwys Michael Fassbender, Josie Walker, a Simone Kirby. Lleolir y ffilm yn Cwarter Gaeltacht, Belffast yn 2019. Dangoswyd y ffilm am y tro cyntaf yn y Ngŵyl Ffilmiau Sundance ar 18 Ionawr 2024, y ffilm gyntaf yn Wyddeleg i wneud hynny.[18]
Ym mis Awst 2024, cyhoeddodd Academi Ffilm a Theledu Iwerddon eu bod wedi dewis y ffilm Kneecap fel eu cyflwyniad swyddogol i gynrychioli Iwerddon yn y Categori Ffilm Rhyngwladol yn 97ain Gwobrau'r Academi.[19]
Kneecap a Chymru
[golygu | golygu cod]Mewn cyfweliad yn 2024 wrth hyrwyddo eu ffilm a gwneud cyngerdd yng Nghaerdydd soniodd y band y bu gweld grwpiau'n canu yn y Gymraeg yn ysbrydoliaeth iddynt ganu yn y Wyddeleg. Dwedont i'r frwydr dros amddiffyn y Gymraeg roi ysbrydoliaeth iddynt yn yr ysgol ac wrth edrych ar ennill deddfwriaeth dros y Wyddeleg. Meddai DJ Próvaí (yr aelod yn y balaclafa), “roedden ni’n gweld pa mor wrthryfelgar oedd y Cymry’n rhwygo arwyddion uniaith Saesneg i lawr, y gwaith roedd Cymdeithas Yr Iaith yn ei wneud, ac roedd S4C yn sbardun i ni sefydlu TG4.” Esboniodd Móglaí iddo ymweld â'r Eisteddfod Genedlaethol a mwynhau cyngerdd pop Cymraeg gyda cherddoriaeth electronig. Meddai, "... o'n i'n meddwl bod hi’n anhygoel gweld y bobl ifanc ma’n cysylltu gymaint efo’u hiaith drwy gerddoriaeth fodern".[3]
Chwaraeodd y grŵp gig yn neuadd Tramshed yn ardal Glan-yr-afon, Caerdydd ar 1 Hydref 2024.[20] Bu iddynt hefyd recordio cyfarchiad yn y Gymraeg "ni yw Kneecap a dyma Cymru Fyw", i hyrwyddo'r gig a'r ffilm a rannwyd ar y cyfryngau cymdeithasol.[21]
Ennill achos llys
[golygu | golygu cod]Ar 19 Tachwedd 2024 enillodd y grŵp achos cyfreithiol yn erbyn Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar ôl i'r cyn ysgrifennydd busnes Kemi Badenoch wrthod gwobr o £14,250 iddynt. Roedd y grŵp wedi gwneud cais am grant oedd yn cefnogi artistiaid o'r Deyrnas Unedig mewn marchnadoedd rhyngwladol. Fe wnaeth y band ddwyn achos yn erbyn y llywodraeth gan honni bod y penderfyniad i wrthod grant yn gwahaniaethu yn eu herbyn ar sail cenedligrwydd a barn wleidyddol.[22]
Disgyddiaeth
[golygu | golygu cod]Albymau
[golygu | golygu cod]- 3CAG (2018)
- Fine Art (2024)
Senglau
[golygu | golygu cod]| Teitl | Dyddiad rhyddhau | Safle uchaf yn y siartiau |
|---|---|---|
| Siart Senglau Iwerddon| [23] | ||
| "C.E.A.R.T.A" | December 2017 | — |
| "H.O.O.D" | June 2019 | 78 |
| "Gael-Gigolos" | June 2019 | — |
| "Fenian Cunts" | Medi 2019 | — |
| "Get Your Brits Out" | Hydref 2019 | 100 |
| "Mam" | Rhagfyr 2020 | — |
| "Guilty Conscience" | Hydref 2021 | — |
| "Thart agus Thart" | Hydref 2021 | — |
| "Its Been Ages" | Mawrth 2023 | — |
| "Better Way to Live" | Tachwedd 2023 | 92 |
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Lucy O'Toole. "12 INTERVIEWS OF XMAS: KNEECAP on Controversies, Misconceptions, Mental Health and Generational Trauma". Hotpress. Cyrchwyd 2024-01-27.
- 1 2 Nuacht RTÉ (2024-01-23). "'Mór an náire airgead poiblí a bheith caite ar Kneecap'" (yn Gwyddeleg).
- 1 2 "Kneecap: 'Y Gymraeg yn ysbrydoliaeth'". BBC Cymru Fyw. 4 Hydref 2024.
- ↑ NÓS (15 Rhagfyr 2017). "Amhrán na hAoine". NÓS (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-06-01. Cyrchwyd 23 Ionawr 2024.
- ↑ "A Short Glossary for the Irish Rap Song "C.E.A.R.T.A" by Kneecap (Rapcheol Gaeilge) Cuid/Pt.1". Irish Language Blog | Language and Culture of the Irish-Speaking World. 2018-01-07. Cyrchwyd 2024-01-23.
- ↑ "KNEECAP - C.E.A.R.T.A (Official Music Video)" (yn Gwyddeleg).
- 1 2 Foireann NÓS. "Amhrán na hAoine 'C.E.A.R.T.A.', le Kneecap". NÓS. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-06-01. Cyrchwyd 2019-02-05.
- ↑ Mullally, Una. "Kneecap: 'Low-life scum' of west Belfast rap whose day has come". The Irish Times (yn Saesneg). Cyrchwyd 4 Medi 2020.
- ↑ "KNEECAP - C.E.A.R.T.A (Official Music Video)". Sianel Youtube Kneecap. 2018.
- ↑ "Michael Fassbender le Gaeilge a labhairt i scannán nua". Tuairisc.ie (yn Gwyddeleg). Cyrchwyd 2023-03-30.
- ↑ "Ardmholadh do Kneecap agus dá n-albam 'réabhlóideach'". Tuairisc.ie (yn Gwyddeleg). 2024-06-18. Cyrchwyd 2024-06-18.
- ↑ Méabh Ní Thuathaláin (16 Chwefror 2023). "'An méid grá atá ag teacht chuige, tá sé go hiontach' – airgead á bhailiú do chúnamh leighis do Rónán Mac Aodh Bhuí". Tuairisc.ie (yn Gwyddeleg). Cyrchwyd 2024-01-23.
- ↑ "'Kneecapaim é' a deir Ard Chúirt Bhéal Feirste le Badenoch" (yn Gwyddeleg). 2024-11-29.
- ↑ Gael GÁIRÍ ar Twitter (5 Ionawr 2014). "@GaelGÁIRÍ". Cyrchwyd 4 Rhagfyr 2024.
- ↑ "Stupid questions Irish people are always asked, answered by KNEECAP - YouTube". www.youtube.com. Cyrchwyd 2021-01-10.
- ↑ "KNEECAP - 2019 RECAP". youtube. Cyrchwyd 4 Rhagfyr 2024.
- ↑ "Kneecap | movie | 2024 | Official Clip - video Dailymotion". Dailymotion (yn Gwyddeleg). 2024-01-18. Cyrchwyd 2024-01-27.
- ↑ O'Broin, Cian (6 Rhagfyr 2023). "Belfast rap group Kneecap make history with new film becoming first Irish language movie at Sundance Festival". Irish Independent. Cyrchwyd 8 Rhagfyr 2023.
- ↑ "IFTA Announces Kneecap As Ireland's Entry For Oscars® 2025 - International Feature Film". www.ifta.ie. Cyrchwyd 2024-10-16.
- ↑ "'Anhygoel': Grŵp hip hop sy'n rapio mewn Gwyddeleg yn 'cynnig rhywbeth newydd' i'r iaith". Newyddion S4C. 2 Hydref 2024. Gwall cyfeirio: Tag
<ref>annilys; enwau annilys, ee. gormod ohonynt - ↑ "Trio Dysgu ychydig o Gymraeg i Kneecap". sianel Instagram BBC Cymru Fyw. 4 Hydref 2024.
- ↑ "Y grŵp hip hop Kneecap yn ennill achos cyfreithiol yn erbyn Llywodraeth y DU". Newyddion S4C. 29 Tachwedd 2024.
- ↑ "IRMA – Irish Charts: Week 35, 2024". Irish Recorded Music Association. Cyrchwyd 31 Awst 2024.