Cwarter Gaeltacht, Belffast

Oddi ar Wicipedia
Cwarter Gaeltacht, Belffast
Enghraifft o'r canlynolcymdogaeth Edit this on Wikidata
Map
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
RhanbarthBelffast Edit this on Wikidata

Cyfesurynnau: 54°35′31″N 5°57′47″W / 54.592°N 5.963°W / 54.592; -5.963

Arwydd ddwyieithog Springfield Road yn y Cwarter Gaeltacht
Arwydd ddwyieithog ar fferyllfa ar y Falls Road yn Cwarter Gaeltacht, Belffast
Ysgol cyfrwng Gwyddeleg Gaelscoil an Lonnáin, sy'n rhan o'r Gaeltacht

Y Cwarter Gaeltacht (Gwyddeleg: An Cheathrú Ghaeltachta [ənˠ ˌcahɾˠuː ˈɣeːl̪ˠt̪ˠəxt̪ˠə]; Saesneg: Gaeltacht Quarter) yn Belffast, Gogledd Iwerddon, yn ardal o maestref gorllewin dinas Falls Road. Mae Gaeltacht yn ardal lle siaredir yr iaith Wyddeleg, tebyg i'r syniad o "Y Fro Gymraeg" ond bod, yng Ngweriniaeth Iwerddon statws tiriogaethol a stadudol iddynt arbed yr iaith Wyddeleg. Nod y Cwarter yw hybu'r iaith Wyddeleg, creu awyrgylch i fagu teuluoedd a diwylliant Gwyddelig yn yr ardal a datblygu atyniadau twristiaeth cysylltiedig.[1]

Ar draws y Cwarter lleolir llawer o sefydliadau cyfrwng Gwyddeleg. Ceir ysgolion cyfrwng Gwyddeleg, y gaelscoil megis: Gaelscoil an Lonnáin, Gaelscoil na bhFál, Bunscoil an tSléibhe Dhuibh a Choleg Feirste. Sefydliad trydydd lefel yn yr ardal yw Coleg Ollscoile Naomh Muire.[2]

Hanes a Sail y Gaeltacht Ddinesig[golygu | golygu cod]

Rhoddwyd seiliau yr hyn ddaeth yn Cwarter Gaeltacht gan nifer fach o deuluoedd a sefydlodd Gaeltacht Shaw’s Road yn Belffast yn 1969. Daeth yr ymgyrch yma'n ysbrydoliaeth i siaradwyr Gwyddeleg ledled Ulster. Yn ddiweddarach, yn 1971, sefydlodd cymuned Shaw’s Road y gaelscoil, sef ysgol cyfrwng Gwyddeleg gyntaf yng Ngogledd Iwerddon a arweiniodd at ddatblygiad y sector addysg cyfrwng Gwyddeleg yma.

Sefydlwyd y Gaeltacht gan grŵp bach o ffrindiau a benderfynodd sefydlu Gaeltacht drefol gyntaf Iwerddon i fyw eu bywydau trwy gyfrwng y Wyddeleg. Gyda sectyddiaeth gynyddol a dyfodiad yr Helyntion, llwyddodd eu penderfyniad i sicrhau goroesiad y Gaeltacht er gwaethaf pob disgwyl.

Yn ôl Séamus Mac Sheáin dechrodd y fenter gyda'r cynhwysyn mwyaf hanfodol ar gyfer cymuned yn y Gaeltacht. “Rydych chi angen pobl; mae angen teuluoedd Gwyddeleg arnoch chi; rydych angen tai lle gallwch fyw ochr yn ochr. Daw popeth arall ar ôl hynny, yn yr ystyr mai dim ond ystyriaethau ymarferol ydyn nhw,” meddai. Wrth i'r gymuned ffynnu, ychwanegodd ysgol gynradd Wyddeleg ac yn y pen draw ysgol uwchradd er mwyn i blant gael eu haddysgu trwy Wyddeleg, eu hiaith gyntaf. Yn hynny, Shaw’s Road oedd yr ysbrydoliaeth i’r ysgolion Gwyddeleg a dyfodd ar draws y gogledd, yn ôl Diarmaid Ua Bruadair. “Roedd pobl yn dysgu Gwyddeleg mewn tai, mewn ceginau, mewn ystafelloedd cyfyng, yn wirfoddol, trwy gydol eu hoes, heb ofyn am na derbyn ceiniog am eu hymdrechion,” meddai Máire Mhic Sheáin.[3] Dyma oedd y "Gaeltacht ddinesig gyntaf mewn 100 mlynedd" yn ôl rhai.[4]

Dechreuodd cynigion ar gyfer Ardal Gaeltacht yn 2002 fel argymhelliad Cyd-dasglu Gorllewin Belfast/Shankill Fwyaf. Mabwysiadwyd y cynllun wedyn gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Celfyddydau a Hamdden a Chyngor Dinas Belfast.[5]

Canolfan ddiwylliannol[golygu | golygu cod]

Mae safleoedd a digwyddiadau allweddol yn ardal y Gaeltacht yn cynnwys Cultúrlann McAdam Ó Fiaich, Y Ceathrú Póilí, Melin Conwy a Féile an Phobail.[6] Mae gan y rhan fwyaf o fusnesau yn yr Ardal Gaeltacht arwyddion Gwyddeleg neu ddwyieithog.[7] Mae yna hefyd orsaf radio Gwyddeleg, Raidió Fáilte.[8]

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Gaeltacht Quarter and Irish language Broadcast Fund". Department for Communities.An Roinn Pobal.Department fur Commonities. Cyrchwyd 1 September 2021.
  2. "An Ghaeilge agus Oideachas Lán-Ghaeilge i gColáiste Ollscoile Naomh Muire". St. Mary's University College. Cyrchwyd 1 September 2021.
  3. "Belfast Gaeltacht inspired Irish speakers all over North". The Irish News. 16 Mai 2020.
  4. "Pobal Bhóthar Seoighe: Story of the Shaws Road Gaeltacht told in BBC documentary". BelfastMedia. 13 Mai 2020.
  5. DCAL report on the quarter Archifwyd 2007-09-27 yn y Peiriant Wayback.
  6. "Féile an Phobail - Events". Féile an Phobail - Festival of the People. Cyrchwyd 1 September 2021.
  7. An Cheathru Ghaeltachta - Gaeltacht Quarter (PDF). Belfast: Visit West Belfast. 2017. t. 32. Cyrchwyd 1 September 2021.
  8. "About". Raidió Fáilte. Cyrchwyd 1 September 2021.
Eginyn erthygl sydd uchod am Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.