Neidio i'r cynnwys

Harmonices Mundi

Oddi ar Wicipedia
Harmonices Mundi
Tudalen deitl yr argraffiad gwreiddiol
Enghraifft o:gwaith ysgrifenedig Edit this on Wikidata
AwdurJohannes Kepler Edit this on Wikidata
CyhoeddwrLinz Edit this on Wikidata
IaithLladin Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1619 Edit this on Wikidata
Prif bwncDeddfau mudiant planedau Kepler Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Traethawd yn yr iaith Ladin ar seryddiaeth gan Johannes Kepler yw Harmonices Mundi ("Cytgord y Byd"") a gyhoeddwyd yn Linz, Awstria, yn 1619. Yn y gwaith hwn, mae Kepler yn egluro ei syniadau am y cysylltiadau rhwng y byd corfforol a'r byd ysbrydol, ac yn cyfiawnhau'r rhain trwy arsylwadau a chyfrifiadau: gwneir y bydysawd ar ddelw Duw, a'r un cyfraneddau mathemategol sy'n sail i harmoni cerddoriaeth, yw sail gweithrediad y bydysawd.[1]

Rhennir y llyfr yn bum llyfrau:

1 De Figurarum Regularium: Ynghylch â pholyhedronau rheolaidd
2 De Congruentia Figurarum Harmonicarum: Ynghylch â chyfathiant ffigurau
3 De Ortu Proportionum: Ynchylch â tharddiad cymesuredd harmonig mewn cerddoriaeth
4 De Configurationibus Harmonicis Radiorum sideralium in Terra: Ynghylch â chyfluniadau harmonig y pelydrau serol ar y Ddaear (h.y. sêr-ddewiniaeth)
5 De Harmonia Perfectissima Motuum Coelestium: Ynghylch â Chytgord Perffaith y Symudiadau Nefol

Mae'r pumed llyfr yn cyflwyno trydedd ddeddf mudiant planedol Kepler.[2]


Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Judith V. Field (1984) (yn en). A Lutheran astrologer: Johannes Kepler. Archive for History of Exact Sciences. 31. pp. 207–219.
  2. Johannes Kepler, Harmonice Mundi [The Harmony of the World] (Linz, (Austria): Johann Planck, 1619), p. 189.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]