Newid hinsawdd a rhyw pobl

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Wangari Maathai in Nairobi.jpg
"Mae menywod yn dal yr allwedd i Ddyfodol yr Amgylchedd" - Wangari Maathai
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynoleffeithiau newid hinsawdd Edit this on Wikidata

Mae newid hinsawdd a rhyw pobl yn ffordd o ddehongli effeithiau newid hinsawdd ar ddynion a menywod, yn seiliedig ar sut mae cymdeithas yn gwahaniaethu rhwng dynion a menywod.

Mae newid hinsawdd yn cynyddu anghydraddoldeb rhwng y rhywiau, [1] ac yn lleihau gallu menywod i fod yn ariannol annibynnol, mae hefyd yn cael effaith negyddol ar hawliau cymdeithasol a gwleidyddol menywod, yn enwedig mewn economïau sydd wedi'u seilio'n helaeth ar amaethyddiaeth. Mewn llawer o achosion, mae anghydraddoldeb rhyw yn golygu bod menywod yn fwy agored i effeithiau negyddol newid yn yr hinsawdd.[2] Mae hyn oherwydd rolau rhyw, yn enwedig yn y byd sy'n datblygu, sy'n golygu bod menywod yn aml yn ddibynnol ar yr amgylchedd naturiol ar gyfer cynhaliaeth ac incwm. Trwy gyfyngu ymhellach ar fynediad menywod sydd eisoes wedi'u cyfyngu'n gymdeithasol, gwleidyddol a chyllidol, mae newid hinsawdd yn rhoi baich trymach ar fenywod yn fwy na dynion a chaiff yr anghydraddoldeb rhywiol presennol ei chwyddo.[3][4]

Mae gwahaniaethau ar sail rhyw hefyd wedi'u nodi mewn perthynas ag ymwybyddiaeth (awareness) ac ymateb i newid hinsawdd, a datblygodd llawer o wledydd eu strategaethau newid hinsawdd a chynlluniau gweithredu ar sail rhywedd. Er enghraifft, mabwysiadodd llywodraeth Mozambique Strategaeth a Chynllun Gweithredu Rhyw, yr Amgylchedd a Newid Hinsawdd yn gynnar yn 2010, sef y llywodraeth gyntaf yn y byd i wneud hynny. [5]

O fewn newid hinsawdd cymhwysir system ddadansoddol ddeuaidd dynion / menywod ar setiau o ddata meintiol, ac ystyried sut mae rhyw, fel ffactor cymdeithasol yn dylanwadu ar ymatebion i newid hinsawdd, a sut mae'n croestorri gyda newidynnau eraill fel oedran, cast, statws priodasol, ac ethnigrwydd.[6]

Effeithiau trychinebau ar sail rhyw[golygu | golygu cod y dudalen]

Niferoedd gwahanol o farwolaethau rhwng dynion a menywod[golygu | golygu cod y dudalen]

Canfu astudiaeth gan Ysgol Economeg Llundain, mewn trychinebau naturiol mewn 141 o wledydd, fod perthynas rhwng gwahaniaethau mewn rhyw a marwolaethau sy'n gysylltiedig â hawliau economaidd a chymdeithasol menywod yn y gwledydd hynny.[7] Oherwydd eu safle cymdeithasol, yn gyffredinol nid yw menywod mewn gwledydd sy'n datblygu yn cael sgiliau goroesi fel nofio neu ddringo, sy'n golygu eu bod yn fwy tebygol o farw mewn trychineb naturiol. [3] [8] Pan fo gan fenywod lai o hawliau a llai o bwer mewn cymdeithas, mae mwy ohonynt yn marw oherwydd newid hinsawdd, ond pan fo hawliau cyfartal i bob grŵp yna mae cyfraddau marwolaeth yn fwy cyfartal.

Gwahaniaethau rhyw mewn canfyddiadau o newid yn yr hinsawdd[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae astudiaeth o bobl ifanc yn y Ffindir yn dangos bod pryder ynghylch newid yn yr hinsawdd yn fwy o fewn menywod.[9][10] Mae menywod yn tueddu i gytuno â'r farn wyddonol mai allyriadau nwyon tŷ gwydr anthropogenig sy'n bennaf gyfrifol am newid hinsawdd (m: 56%, f: 64%) ac yn poeni mwy am ei effeithiau: 29% o ddynion a 35% o fenywod yn yr UDA yn "poeni llawer am gynhesu byd-eang".

Cynhaliwyd astudiaeth arall yn 2016 gan ddefnyddio dynion a menywod o Frasil a Sweden i fesur ac archwilio effeithiau cyfeiriadedd rhyw a gwleidyddol ar ganfyddiadau o newid hinsawdd. Casglwyd data trwy holiaduron ar-lein gan 367 o gyfranogwyr o Frasil, gan gynnwys 151 o ddynion a 216 o ferched, a 221 o gyfranogwyr o Sweden gyda 75 o ddynion a 146 o ferched. Dangosodd canlyniadau’r astudiaeth gydberthynas gref rhwng dynion ceidwadol a gwadu newid hinsawdd yn y ddau grŵp (rSweden = .22, rBrazil = .19) gan nodi bod dynion (yn nodweddiadol â chyfeiriadedd gwleidyddol ceidwadol) yn fwy tebygol o wadu bodolaeth newid hinsawdd. Dangosodd menywod yn y ddau grŵp y canlyniadau cyferbyniol gan amlaf, gan nodi bod menywod yn fwy tebygol o gredu ym modolaeth newid yn yr hinsawdd.[11] Fodd bynnag, mae'r sampl yma, ynddo'i hun, yn rhy fach i'w ystyried yn ddifrifol.

Canfu astudiaeth a gyhoeddwyd yn 2020 fod gwahaniaethau hefyd yn y strategaethau ymdopi. Canfu’r astudiaeth, a gynhaliwyd ymhlith ffermwyr reis yn Nhalaith Mazandaran yn Iran, fod dynion yn tueddu i gredu bod technegau gwell ar gyfer rheoli cadwraeth tir yn ffordd dda o reoli risg hinsawdd, tra bod menywod yn credu mai addysg yw’r ffordd bwysicaf i addasu, fel y gallent ddarganfod beth yw'r technegau a'r dechnoleg orau i wynebu newid hinsawdd.

Un o alluogwyr allweddol i addasu i newid hinsawdd yw mynediad at wybodaeth ddefnyddiol am yr hinsawdd, ond yn Affrica Is-Sahara gwelwyd bod mynediad at wybodaeth yn wahanol rhwng y ddau ryw, gyda menywod yn cael mynediad gyfyng at wybodaeth am yr hinsawdd.[12][13][14] Mewn astudiaeth a gyhoeddwyd yn 2020 o ffermwyr siwgwr bychan ym Malawi, gwelwyd mai dynion sy'n cyrchu gwybodaeth berthnasol sy'n berthnasol i wneud penderfyniadau addasu.[15]

Gwahaniaethau rhyw mewn cyfraniadau at newid yn yr hinsawdd[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae cysylltiad hefyd rhwng cyfranu at newid hinsawdd - trwy allyriadau nwyon tŷ gwydr - â rhyw y person.[16] Canfu astudiaeth ar ddefnyddio ceir yn Sweden, er enghraifft, fod dynion yn debygol o ddefnyddio'r car yn fwy, am bellteroedd hirach ac ar eu pennau eu hunain o gymharu â menywod, a thrwy hynny allyrru mwy o CO2.[17]

Gwahaniaethau rhyw o ran bregusrwydd newid yn yr hinsawdd[golygu | golygu cod y dudalen]

Amaethyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Effaith neu impact ragamcanol newid hinsawdd ar gynnyrch amaethyddol erbyn yr 2080au, o'i gymharu â lefelau 2003 (Cline, 2007)

Mae'r tlawd a'r tlawd yn dibynnu ar yr amgylchedd a'i adnoddau naturiol ar gyfer cynhaliaeth ac incwm; mae ymchwil tlodi yn datgelu bod llawer o'r tlawd yn fenywod oherwydd, fel grŵp, mae ganddyn nhw lai o rym cymdeithasol.[18] Mae llawer o fenywod sy'n byw mewn gwledydd sy'n datblygu, yn ffermwyr, ond mae menywod fel grŵp yn cael trafferth cael addysg, incwm, tir, da byw a thechnoleg, sy'n golygu y gall newid hinsawdd effeithio'n negyddol ar ffermwyr benywaidd yn fwy na ffermwyr gwrywaidd trwy gyfyngu eu hadnoddau ymhellach.[19] Yn 2009, roedd menywod yn cynhyrchu rhwng 60 ac 80 y cant o'r holl fwyd yn y byd sy'n datblygu, ac eto roeddent yn berchen ar ddeg y cant o'r holl dir amaethyddol a thua dau y cant o hawliau tir.

Dwy ferch, sydd wedi bod yn ffermio gwymon ar ynys Zanzibar ers 20 mlynedd, yn rhydio trwy'r llanw isel i'w fferm. Mae menywod yn cynrychioli cyfran sylweddol o'r gweithwyr amaethyddol y mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio arnynt

Wrth i'r blaned gynhesu a mynediad at ddŵr yn newid, mae cynnyrch y cnwd yn tueddu i leihau.[20] Nid yw'r effeithiau hyn yn unffurf, ac maent yn cael yr effaith fwyaf ar rannau o'r byd lle mae'r economi'n dibynnu ar amaethyddiaeth ac mae'r hinsawdd yn sensitif i newid. Mewn gwledydd sy'n datblygu, mae menywod yn aml yn gyfrifol am ganfod a chyrchu dŵr, coed tân ac adnoddau eraill ar gyfer eu teuluoedd, ond mae'r newid hinsawdd yn effeithio'n uniongyrchol ar yr adnoddau hyn, sy'n golygu bod yn rhaid i fenywod deithio ymhellach a gweithio'n hirach i gael mynediad atynt yn ystod argyfwng.[3][18] Mae newid hinsawdd yn cynyddu'r beichiau y mae cymdeithas yn eu rhoi ar fenywod ac yn cyfyngu ymhellach ar eu mynediad i addysg a chyflogaeth. Mae hinsawdd sy'n newid yn cael effeithiau andwyol ar gynhyrchu amaethyddol ac yn delta Mahanadi India, mae hyn wedi gorfodi'r ffermwyr gwrywaidd i ymfudo, gan adael ar ôl y cyfrifoldeb o drin y daliadau tir bach i'r menywod o dan "amodau hinsoddol cynyddol ansicr".[21]

Anghydraddoldebau cynyddol trwy newid yn yr hinsawdd[golygu | golygu cod y dudalen]

Merched o Ghana sy'n cymryd rhan mewn rhaglen ymchwil ar ryw a gwybodaeth gymdeithasol ffermwyr a'u profiadau gyda newid hinsawdd

Daw Pumed Adroddiad Asesu'r IPCC i'r casgliad bod 'tystiolaeth gadarn' ar y cynnydd mewn anghydraddoldebau rhyw o ganlyniad i ddigwyddiadau tywydd. Gall y cynnydd mewn anghydraddoldebau oherwydd newid hinsawdd fod â sawl rheswm. Er enghraifft, mae merched yn aml yn wynebu risgiau mwy difrifol na bechgyn oherwydd dosbarthiad anghyfartal adnoddau prin yn yr aelwyd. Mae'r effaith hon yn cael ei chwyddo gan brinder adnoddau a achosir gan newid hinsawdd.[22] Ar ben hynny, mae newid hinsawdd yn aml yn arwain at gynnydd mewn dynion yn ymfudo. Mae hyn yn gadael menywod â llwyth gwaith cynyddol gartref, gan arwain at fenyweiddio cyfrifoldebau. Rhagwelir y bydd newid hinsawdd yn cynyddu nifer a maint peryglon naturiol fel gwres eithafol. Yn ystod ac ar ôl y peryglon hyn, yn enwedig, mae menywod yn cael beichiau ychwanegol ee mwy o waith gofalu am blant, yr hen, y claf a'r bregus, gan ychwanegu ymhellach at nifer sylweddol o ddyletswyddau cartref. Mae menywod hefyd yn tueddu i rannu eu bwyd ar adegau o brinder bwyd,[23] gan eu gadael yn fwy agored i afiechydon a phroblemau cymdeithasol a seicolegol. [24]

Astudiaethau achos[golygu | golygu cod y dudalen]

Madagascar[golygu | golygu cod y dudalen]

Nid yw 80% o'r rhywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid a geir ym Madagascar ar gael yn unman arall ar y Ddaear.[25][26] Oherwydd hyn bydd datgoedwigo ym Madagascar yn cael effaith ddifrifol ar fioamrywiaeth fyd-eang, a gellir dadlau bod hyn yn golygu mai'r wlad hon yw'r flaenoriaeth uchaf ar gyfer cadwraeth bioamrywiaeth y byd. Disgwylir i effeithiau newid yn yr hinsawdd ym Madagascar, gwlad sydd â phoblogaeth wledig a bregus yn bennaf waethygu o ran seiclonau pwerus, llifogydd, sychder a phatrymau hinsawdd na ellir eu rhagweld, a fydd yn bygwth diogelwch bwyd, isadeileddau ac ecosystem y wlad ymhellach.[27][28][29] Mae'r Briff Ymchwil Polisi a gyhoeddwyd gan yr International Policy Centre for Inclusive Growth (IPC-IG) o'r enw "Gwyrddio'r Economi a Chynnyddu Ecwiti Economaidd i Ffermwyr Benywaidd ym Madagascar" yn nodi bod realiti byw newid hinsawdd ym Madagascar wedi'i wahaniaethu'n benodol ar sail rhyw.[30] Nid yw'r polisïau a'r strategaethau cenedlaethol perthnasol fel Rhaglen Weithredu Addasu Genedlaethol Madagascar (NAPA) sy'n ymwneud â newid hinsawdd wedi canolbwyntio ar wahaniaethau rhyw, felly, gan arwain at fwlch polisi sy'n gysylltiedig â rhyw sy'n tueddu i atgyfnerthu ymhellach ymyleiddio menywod mewn prosesau polisi sy'n ymwneud ag addasu yn yr hinsawdd., cyllid a lliniaru. Roedd yr adroddiad yn argymell trefnu cydweithfeydd (mentrau cydweithredol) gan fenywod a gwella cynhwysiant menywod yn y rôl arwain yn yr economi werdd.[31]

Mozambique[golygu | golygu cod y dudalen]

Mabwysiadodd llywodraeth Mozambique 'Strategaeth a Chynllun Gweithredu ar sail Rhyw, yr Amgylchedd a Newid Hinsawdd ' yn gynnar yn 2010, y llywodraeth gyntaf yn y byd i wneud hynny.[5] Yn ei gynllun gweithredu cam II, nododd Alcinda António de Abreu, Gweinidog yr Amgylchedd ym Mozambique ar y pryd, bod "addasu a lliniaru newid hinsawdd yn dibynnu ar ddefnyddiau cynaliadwy a rheolaeth deg o adnoddau naturiol, yn ogystal â'r buddion sy'n deillio ohono. Mae gan ddinasyddion, waeth beth yw eu statws cymdeithasol neu eu rhyw, ym mhob cylch o fywyd economaidd a gwleidyddol, ran i'w chwarae yn yr ymdrech dyngedfennol hon ". [32] Mae defnyddio a rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy - a hyfforddi pobl sut i wneud hynny - wedi cael ei ddarparu i dros 12,000 o fenywod yn y wlad. Yn yr un modd, mae 36 o gymunedau wedi dysgu am ddulliau mwy effeithiol ar gyfer atal a rheoli tanau, plannu cnydau sy'n gwrthsefyll sychder, a chynhyrchu a defnyddio stofiau gwell.[33]

De Affrica[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 2010, De Affrica oedd y rhanbarth gyda'r economi fwyaf yn Affrica, ac eto roedd mwy na hanner y boblogaeth yn byw mewn tlodi ac roedd llawer yn ddi-waith.[34] Mae poblogaethau tlawd De Affrica yn dibynnu'n fawr ar amaethyddiaeth ac adnoddau naturiol i fyw. Roedd mwyngloddio glo a mwynau metal hefyd yn sectorau sylweddol o'r economi, ond maent yn gostwng oherwydd newid hinsawdd a globaleiddio.

Yn 2007, rhagwelodd y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd (IPCC) y byddai Affrica yn cynhesu oherwydd newid hinsawdd 1.5 gwaith yn fwy na gweddill y byd ac y byddai De Affrica, yn benodol, yn 3 - 4° C yn gynhesach erbyn 2100. Byddai'r newidiadau hyn mewn tymheredd a thywydd yn effeithio ar ddŵr, amaethyddiaeth, mwyngloddio, bwyd a choedwigaeth. Canfu Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Dynol yn 2004 fod 57% o dlodion De Affrica mewn perygl o gael eu heffeithio'n negyddol oherwydd newid hinsawdd oherwydd eu bod yn dibynnu ar amaethyddiaeth a all gael ei ddifa gan sychder hirach a dwysach na'r hyn a geir heddiw. Mae llawer o'r tlodion gwledig yn Ne Affrica yn fenywod sydd â mynediad cyfyngedig yn unig i eiddo, incwm, credyd, adnoddau a phwer cymdeithasol.

Yn Ne Affrica, yn draddodiadol mae dynion yn gofalu am y da byw tra bod menywod yn gofalu am yr ardd, ond mewn cyfnodau estynedig o sychder, mae llawer o aelwydydd yn colli eu da byw.[34] Mewn ymateb i'r golled hon ac i ddiweithdra cynyddol, mae dynion yn troi at alcohol i ddelio â'r straen seicolegol. Mae rhai hefyd yn cynyddu nifer eu partneriaid rhyw, gan gynyddu eu risg o ddal neu ledaenu HIV. Mewn ymateb i'r newidiadau hyn, mae mwy o fenywod yn ymuno â'r gweithlu, naill ai'n ffurfiol neu'n anffurfiol gyda llawer bellach yn gweithio mewn galwedigaethau gwrywaidd traddodiadol fel mwyngloddio ac adeiladu. Gwertha eraill nwyddau lleol. Ceir grantiau cymdeithasol gan lywodraeth De Affrica er mwyn cefnogi aelwydydd lle mae'r newid hinsawdd wedi effeithio arnynt ymhellach. Gall y grantiau hyn gynnwys pensiynau, taliadau anabledd, a chynhaliaeth plant. Mewn rhai achosion, pan fydd dynion yn gyfrifol am ddosbarthu grantiau cymdeithasol ar yr aelwyd yn lle menywod, maen nhw'n defnyddio'r arian i brynu alcohol. Mewn ymateb, mae'r llywodraeth yn tueddu i roi'r arian i fenywod, a all achosi anghydfodau domestig mewn cartrefi.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Eastin, Joshua (2018-07-01). "Climate change and gender equality in developing states" (yn en). World Development 107: 289–305. doi:10.1016/j.worlddev.2018.02.021. ISSN 0305-750X. http://www.sciencedirect.com/science/article/pii/S0305750X18300664.
  2. Habtezion, Senay (2013). Overview of linkages between gender and climate change. Gender and Climate Change. Asia and the Pacific. Policy Brief 1 (PDF). United Nations Development Programme.
  3. 3.0 3.1 3.2 Aboud, Georgina. "Gender and Climate Change." (2011).
  4. Dankelman, Irene. "Climate change is not gender-neutral: realities on the ground." Public Hearing on "Women and Climate Change". (2011)
  5. 5.0 5.1 Republic of Mozambique, Mozambique Climate Change Gender Action Plan (ccGAP) Report Archifwyd 2020-06-17 yn y Peiriant Wayback., accessed 25 December 2019 Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; mae'r enw "Moz" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol
  6. "Gender is one of many social factors influencing responses to climate change | Adaptation at Scale in Semi-Arid Regions". www.assar.uct.ac.za (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-11-27.
  7. Adeniji, Grace. "Adapting to climate change in Africa." Jotoafrika. no. 6 (2011).
  8. Dr Virginie Le Masson and Lara Langston, Mind the gap: new disasters agreement must be more proactive on gender
  9. Korkala, Essi A E, Timo T Hugg, and Jouni J K Jaakkola, "Awareness of Climate Change and the Dietary Choices of Young Adults in Finland: A Population-Based Cross-Sectional Study." PLoS ONE 9.5 (2014): 1-9. Web.(accessed October 20, 2014).
  10. McCright, Aaron M. "The Effects of Gender on Climate Change Knowledge and Concern in the American Public." Population and Environment 32.1 (2010): 66–87. Web.(accessed October 8, 2014).
  11. Jylhä, Kirsti M.; Cantal, Clara; Akrami, Nazar; Milfont, Taciano L. (2016-08-01). "Denial of anthropogenic climate change: Social dominance orientation helps explain the conservative male effect in Brazil and Sweden". Personality and Individual Differences 98: 184–187. doi:10.1016/j.paid.2016.04.020. ISSN 0191-8869.
  12. Diouf, Ndeye Seynabou; Ouedraogo, Issa; Zougmoré, Robert B.; Ouedraogo, Mathieu; Partey, Samuel Tetteh; Gumucio, Tatiana (2019-05-04). "Factors influencing gendered access to climate information services for farming in Senegal". Gender, Technology and Development 23 (2): 93–110. doi:10.1080/09718524.2019.1649790. ISSN 0971-8524.
  13. Carr, Edward R.; Onzere, Sheila N. (2018-01-01). "Really effective (for 15% of the men): Lessons in understanding and addressing user needs in climate services from Mali" (yn en). Climate Risk Management 22: 82–95. doi:10.1016/j.crm.2017.03.002. ISSN 2212-0963. https://www.sciencedirect.com/science/article/pii/S2212096316300754.
  14. Carr, Edward R.; Fleming, Grant; Kalala, Tshibangu (2016-07-01). "Understanding Women's Needs for Weather and Climate Information in Agrarian Settings: The Case of Ngetou Maleck, Senegal" (yn en). Weather, Climate, and Society 8 (3): 247–264. doi:10.1175/WCAS-D-15-0075.1. ISSN 1948-8327. https://journals.ametsoc.org/wcas/article/8/3/247/932/Understanding-Women-s-Needs-for-Weather-and.
  15. Henriksson, Rebecka; Vincent, Katharine; Archer, Emma; Jewitt, Graham (2020-08-21). "Understanding gender differences in availability, accessibility and use of climate information among smallholder farmers in Malawi". Climate and Development 0: 1–12. doi:10.1080/17565529.2020.1806777. ISSN 1756-5529.
  16. Boyd, Emily. "The Noel Kempff Project in Bolivia: Gender, Power, and Decision-Making in Climate Mitigation." Climate Change and Gender Justice. Ed. Geraldine Terry and Caroline Sweetman. Warwickshire: Practical Action Publishing, Oxfam GB, 2009. 101–110. Web.(accessed October 24, 2014).
  17. Polk, Merritt. "Are Women Potentially More Accommodating than Men to a Sustainable Transportation System in Sweden?" Transportation Research Part D: Transport and Environment 8.2 (2003): 75–95. Web. (accessed October 25, 2014).
  18. 18.0 18.1 Rodenberg, Birte. Climate Change Adaptation from a Gender Perspective: A Cross-cutting Analysis of Development-policy Instruments. German Development Institute, 2009.
  19. FAO. "Women in Agriculture: Closing the gender gap for development." The State of Food and Agriculture. (2011) (accessed March 18, 2013).
  20. Rosenzweig, Cynthia, and Martin L. Parry. "Potential impact of climate change on world food supply." Nature 367, no. 6459 (1994): 133-138.
  21. Hans, Asha; Hazra, Sugata; Das, Shouvik; Patel, Amrita (2019-09-01). "Encountering Gendered Spaces in Climate Change Policy in India: Migration and Adaptation". Journal of Migration Affairs 2 (1): 1. doi:10.36931/jma.2019.2.1.1-24. ISSN 2582-0990. https://migrationaffairs.com/encountering-gendered-spaces-in-climate-change-policy-in-india-migration-and-adaptation/.
  22. Demetriades, Justina, and Emily Esplen. "The Gender Dimensions of Poverty and Climate Change Adaptation." IDS Bulletin 39.4 (2009): 24–31. doi:10.1111/j.1759-5436.2008.tb00473.x.
  23. 10 (2018-03-14). "نماینده مجلس ایران: بیشترین آسیب تغییرات اقلیمی متوجه زنان روستایی است". ایرنا (yn Perseg). Cyrchwyd 2020-03-31.CS1 maint: numeric names: authors list (link)
  24. Goli, Imaneh; Omidi Najafabadi, Maryam; Lashgarara, Farhad (2020-03-09). "Where are We Standing and Where Should We Be Going? Gender and Climate Change Adaptation Behavior" (yn en). Journal of Agricultural and Environmental Ethics 33 (2): 187–218. doi:10.1007/s10806-020-09822-3. ISSN 1573-322X.Goli, Imaneh; Omidi Najafabadi, Maryam; Lashgarara, Farhad (2020-03-09). "Where are We Standing and Where Should We Be Going? Gender and Climate Change Adaptation Behavior". Journal of Agricultural and Environmental Ethics. 33 (2): 187–218. doi:10.1007/s10806-020-09822-3. ISSN 1573-322X. S2CID 216404045.
  25. "ENVIRONMENT AND CLIMATE CHANGE | Madagascar | U.S. Agency for International Development". www.usaid.gov (yn Saesneg). 2019-02-13. Cyrchwyd 2020-11-24.
  26. "Story Map Journal". www.arcgis.com. Cyrchwyd 2020-11-24.
  27. Ghouri, Nadene (2016-07-07). "Climate change plagues Madagascar's poor: 'The water rose so fast'". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2020-11-24.
  28. "Climate Risk and Adaptation Country Profile: Madagascar" (PDF). climateknowledgeportal.worldbank.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-11-24.
  29. "Future Climate Change in Madagascar - how gender equality can help". Lick the Spoon (yn Saesneg). 2019-01-27. Cyrchwyd 2020-11-24.
  30. "Greening the Economy and Increasing Economic Equity for Women Farmers in Madagascar" (PDF). www.ipc-undp.org. Cyrchwyd 2020-11-24.
  31. Hub, IISD's SDG Knowledge. "IPC-IG Publishes Brief on Climate Change, Farming and Gender in Madagascar | News | SDG Knowledge Hub | IISD" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-11-24.
  32. Climate Change and Gender Action Plan (Phase II) for the Republic of Mozambique, published October 2014, accessed 25 December 2019
  33. "Mozambique Climate Change Gender Action Plan (ccGAP) Report". Climatelinks (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-11-26.
  34. 34.0 34.1 Babugura, Agnes. "Gender and Climate Change: South Africa Case Study." Heinrich Böll Foundation. (2010). (accessed March 30, 2013).
  • MacGregor, Sherilyn. "Tawelwch Dieithr: Yr Angen am Ymchwil Gymdeithasol Ffeministaidd ar Newid Hinsawdd." Yr Adolygiad Cymdeithasegol 57 (2010): 124–140. Gwe. 25 Hydref 2014.
  • Nussbaum, Martha C. Creu Galluoedd: Y Dull Datblygiad Dynol. Caergrawnt, MA: Gwasg Prifysgol Harvard, 2011.
  • Olsson, Lennart et al. "Bywoliaethau a Thlodi." Newid Hinsawdd 2014: Effeithiau, Addasu a Bregusrwydd. Rhan A: Agweddau Byd-eang a Sectoraidd. Cyfraniad Gweithgor II i Bumed Adroddiad Asesu'r Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd. Gol. CB Maes et al. Caergrawnt ac Efrog Newydd: Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 2014. 793–832.
  • Schneider, Stephen H., Armin Rosencranz, Michael D. Mastrandrea, a Kristin Kuntz-Duriseti. Gwyddoniaeth a Pholisi Newid Hinsawdd. Washington, DC: Gwasg yr Ynys, 2010.
  • Tuana, Nancy. "Rhywiol Gwybodaeth Hinsawdd ar gyfer Cyfiawnder: Cataleiddio Agenda Ymchwil Newydd." Ymchwil, Gweithredu a Pholisi: Mynd i'r afael ag Effeithiau Rhywiol Newid Hinsawdd. Gol. Margaret Alston a Kerri Whittenbury. Dordrecht: Springer Netherlands, 2013. 17–31.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]