Trawsnewid cyfiawn

Oddi ar Wicipedia
Trawsnewid cyfiawn
Protestiwr ym Melbourne yn galw am newid cyfiawn
Enghraifft o'r canlynolcysyniad gwleidyddol Edit this on Wikidata

Fframwaith a ddatblygwyd gan undebau llafur yw Trawsnewid Cyfiawn neu Gyfnod pontio Cyflawn (Saesneg: Just Transition), sy'n cynnwys dulliau o ymyrryd yn gymdeithasol er mwyn sicrhau hawliau a bywoliaeth gweithwyr drwy orfodi economïau i gynhyrchu mewn ffordd cynaliadwy, yn bennaf o fewn y frwydr i atal newid hinsawdd, ac amddiffyn bioamrywiaeth.[1] Mae wedi cael ei gymeradwyo'n rhyngwladol gan lywodraethau mewn gwahanol feysydd e.e. Sefydliad Llafur Rhyngwladol (ILO), Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd (UNFCCC) yng Nghytundeb Paris, a Chynhadledd Hinsawdd Katowice (COP24) a'r Undeb Ewropeaidd.[2][3][4]

Maer gair 'trawsnewid' yma'n cyfeirio at y newid o fyd llawn C02 i fyd gwyrdd, cyfnod anodd i weithwyr, a all olygu fod colli swyddi yn anhepgor. Dyma gyfnod pontio o'r hen fyd llawn danwydd ffosil i ynni gwyrdd. Mae'r gair 'cyfiawn' yn cyfeirio at gyfiawnder i'r gweithwyr hyn.

Mecanwaith[golygu | golygu cod]

I undebau llafur, mae'r term 'drawsnewid Cyfiawn' (Just Transition) yn disgrifio'r trawsnewidiad tuag at economi carbon isel a hinsawdd-gref (climate‐resilience) sy'n gwneud y gorau o weithredu dros yr hinsawdd a lleihau caledi a cholledion yn y gweithlu. Yn ôl y Cydffederasiwn Undebau Llafur Rhyngwladol, bydd anghenion sy'n berthnasol i Gyfnewid Cyfiawn yn amrywio mewn gwahanol wledydd, er bod angen i bolisïau pob gwlad gynnwys:[5]

  • Buddsoddiadau cadarn mewn sectorau a thechnolegau allyriadau isel yn enwedig lle ceir llawer o swyddi. Rhaid ymgymryd â'r buddsoddiadau hyn trwy ymgynghori'n briodol â phawb yr effeithir arnynt, gan barchu hawliau dynol a llafur, ac egwyddorion Gwaith Teg.
  • Deialog gymdeithasol ac ymgynghoriad democrataidd partneriaid cymdeithasol (undebau llafur a chyflogwyr) a rhanddeiliaid eraill (hy cymunedau).
  • Ymchwil ac asesiad cynnar o effeithiau cymdeithasol a chyflogaeth polisïau hinsawdd. Cyflwyno hyfforddiant a datblygu sgiliau, sy'n allweddol i gefnogi defnyddio technolegau newydd a meithrin newid diwydiannol.
  • Amddiffyn cymdeithasol, ynghyd â pholisïau gweithredol y farchnad lafur .
  • Cynlluniau arallgyfeirio economaidd lleol sy'n cefnogi gwaith teg ac yn darparu sefydlogrwydd cymunedol yn ystod y cyfnod pontio. Ni ddylid gadael cymunedau ar eu pennau eu hunain i reoli effeithiau'r trawsnewid gan na fydd hyn yn arwain at ddosbarthiad teg o gostau a buddion.

Mae nodau hinsawdd a chytundebau newid hinsawdd byd-eang yn gosod safonau ar gyfer economi lân. Yn y broses, rhaid i sectorau fel ynni, gweithgynhyrchu, amaethyddiaeth a choedwigaeth, sy'n cyflogi miliynau o weithwyr, ailstrwythuro. Mae pryder bod cyfnodau o newid strwythurol economaidd yn y gorffennol wedi gadael gweithwyr cyffredin, eu teuluoedd, a chymunedau i ysgwyddo costau'r newid i ffyrdd newydd o gynhyrchu cyfoeth, gan arwain at ddiweithdra, tlodi, a gwaharddiad i'r dosbarth gweithiol, mewn cyferbyniad llwyr â pherchnogion busnes sy'n gallu fforddio'r trawsnewid.[6]

Mae Trawsnewid Cyfiawn yn mynd i’r afael â’r pryder hwn trwy hyrwyddo gweithredoedd cynaliadwy sy’n helpu gweithwyr. Mae uno cyfiawnder cymdeithasol a chyfiawnder newid hinsawdd trwy gyfrwng Gyfnewid Cyfiawn yn golygu cytuno â galwadau am weithwyr glo mewn rhanbarthau sy'n datblygu sy'n ddibynnol ar lo ac sydd heb gyfleoedd cyflogaeth y tu hwnt i lo;[7][8][9]. Gall olygu hefyd: tegwch i weithwyr mewn economïau sy'n dod i'r amlwg sy'n mynnu eu cyfran o'r “difidend diwydiannol”; tegwch i'r rheini sy'n gorfod gadael eu cartrefi wrth i lefelau'r môr godi a cholli tiroedd arfordirol ac ynysoedd cyfan o ganlyniad i newid hinsawdd; tegwch i boblogaethau y mae llygredd aer yn effeithio (ac wedi effeithio) arnynt ac effeithiau amgylcheddol ehangach o ddefnyddio glo neu olew.[10]

Diffiniad ac esblygiad[golygu | golygu cod]

Bathwyd y term 'trawsnewid cyfiawn' gyntaf gan undebau Gogledd America yn y 1990au i ddisgrifio system gymorth ar gyfer gweithwyr sy'n ddi-waith oherwydd polisïau diogelu'r amgylchedd.[11] Gellir ystyried y cysyniad yn gymhwysiad ecolegol o drosi economaidd, a ddatblygwyd yn yr 1980au pan geisiodd gweithredwyr yn erbyn rhyfel adeiladu clymblaid gyda gweithwyr milwrol a rhoi rhan iddynt yn yr economi heddwch.

Un cynigydd cynnar a oedd o blaid Trawsnewid Cyfiawn oedd Tony Mazzocchi :[12] Yn gynnar yn y 1990au, yn dilyn cadarnhau cynhesu byd-eang a achoswyd gan danwydd ffosil, adfywiodd Mazzocchi y syniad hwn, gan ei alw’n “Superfund i weithwyr” - chwarae geiriol gyda'r Superfund a sefydlwyd ar gyfer glanhau gwenwyn neu'r toxic cleanup. Byddai'r Superfund i weithwyr yn darparu cefnogaeth ariannol a chyfle am addysg uwch i weithwyr sydd wedi'u dadleoli gan bolisïau diogelu'r amgylchedd. Fel y nododd Mazzocchi ym 1993,

“Mae yna Superfund ar gyfer baw. Dylai fod un ar gyfer gweithwyr hefyd.” Mae'r rhai sy'n gweithio gyda deunyddiau gwenwynig yn ddyddiol er mwyn darparu'r ynni a'r deunyddiau sydd eu hangen ar y byd “yn haeddu help llaw i ddechrau newydd mewn bywyd... Cwynodd amgylcheddwyr diweddarach fod gan y gair superfund ormod o ystyron negyddol, a newidiwyd enw'r cynllun i Just Transition.

Mewn araith ym 1995, nododd Leopold y cynnig Superfund ar gyfer gweithwyr Trawsnewid Cyfiawn:

Y sail ar gyfer Trawsnewid Cyfiawn yw egwyddor syml ecwiti. Ni ddylid gofyn i unrhyw weithiwr cysylltiedig â gwenwyn “dalu treth anghymesur - ar ffurf colli ei swydd - er mwyn cyflawni nodau diogelu'r amgylchedd. Yn hytrach na hyn, Dylai'r costau yma gael eu dosbarthu'n deg ar draws cymdeithas.

Ehangu'r defnydd[golygu | golygu cod]

Arwydd "Just Transition Now" ym Minneapolis, Minnesota, rali yn erbyn newid hinsawdd

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae nifer o sefydliadau wedi defnyddio'r cysyniad o Drawsnewid Cyfiawn mewn perthynas â chyfiawnder amgylcheddol a / neu hinsawdd.[13] Wrth i undebau ddechrau derbyn y cysyniad o drawsnewid a'i osod yn solat o fewn trafodaethau UNFCCC a'r mudiad newid hinsawdd, mae trawsnewid cyfiawn wedi esblygu i fod yn ymdrech fwriadol i wthio cynaliadwyedd yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol.[14]

Mae'r term "cyfiawn" yn hanesyddol, hefyd wedi golygu y pryderon ynghylch dod â rhyfel i ben ac adeiladu economi amser heddwch.

Cefnogir trawsnewid o lo gan Fanc Ewropeaidd Ailadeiladu a Datblygu.[15]

Cyflawniadau[golygu | golygu cod]

Trawsnewid yn cael ei drafod yn COP22

Yn 2015, cyhoeddodd yr ILO ei “Ganllawiau ar gyfer trosglwyddo’n gyfiawn tuag at economïau a chymdeithasau amgylcheddol gynaliadwy i bawb,” gan gynnwys egwyddorion arweiniol ar gyfer trawsnewidiad cyfiawn fel yr angen am gonsensws cymdeithasol cryf a deialog gymdeithasol, a meithrin cydweithredu rhyngwladol.[16] Mae'r canllawiau'n adeiladu ar bedair colofn

1. deialog cymdeithasol

2. amddiffyn cymdeithasol,

3. hawliau gweithwyr a

4. chyflogaeth Agenda Gwaith Gweddus yr ILO,

gan dynnu sylw at rôl gweithwyr, cyflogwyr a'r llywodraeth fel y prif bartneriaid gweithredol wrth sicrhau trosglwyddo cyfiawn.[17] Mae'r ddogfen hon yn galw ar lywodraethau rhyngwladol i integreiddio egwyddorion trosglwyddo cyfiawn i ddulliau ar gyfer cyrraedd Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig, cynyddu mynediad at ddata'r farchnad lafur, annog cydweithredu rhwng cenedlaethol perthnasol ayb.[18]

Ym mis Ebrill 2015, yn Unol Daleithiau America, ffurfiodd Cronfa Teulu Rockefeller a Rhwydwaith Cyllidwyr Appalachian y Gronfa Just Transition i helpu cymunedau lle mae'r trawsnewidiadau yn y sector glo yn effeithio arnynt i fanteisio ar Fenter POWER yr Arlywydd Obama. Trwy fuddsoddiadau uniongyrchol a chymorth technegol uniongyrchol, mae grantiau'r Gronfa wedi helpu i gyfeirio bron i $24 miliwn o gronfeydd ffederal tuag at brosiectau pontio.[19]

Yng Nghynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig 2015 ym Mharis, Ffrainc, (COP 21), argyhoeddodd undebau ac eiriolwyr trawsnewid cyfiawn y Partïon i gynnwys iaith ynglŷn â thrawsnewid cyfiawn a chreu gwaith perthnasol yn rhaglith Cytundeb Paris.[20][21][22][23]

Yng Nghynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig 2018 yn Katowice, Gwlad Pwyl, neu COP 24, mabwysiadodd y Penaethiaid Gwladol a Llywodraeth y Solidarity and Just Transition Silesia Declaration, gan dynnu sylw at bwysigrwydd trosglwyddo cyfiawn fel y crybwyllwyd yng Nghytundeb Paris, Canllawiau'r ILO, ac Agenda 2030 y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Datblygu Cynaliadwy.[24] Mae'r Datganiad yn annog holl asiantaethau perthnasol y Cenhedloedd Unedig i ystyried ac yna i fwrw ymlaen â'r ddogfen 'Cyfraniadau a Benderfynir yn Genedlaethol', neu NDCs.[25][26][27]

Mae'r Undeb Ewropeaidd wedi mabwysiadu Trawsnewid Cyfiawn fel rhan fawr o'u Bargen Werdd Ewropeaidd i helpu rhanbarthau sy'n ddibynnol ar danwydd ffosil yn yr Undeb Ewropeaidd i drosglwyddo i economi wyrddach.[28]

Mae'r Fargen Newydd Werdd yn cynnig mecanweithiau trosglwyddo cyfiawn ar gyfer yr Unol Daleithiau.[29]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Climate Frontlines Briefing - No Jobs on a Dead Planet" (PDF). International Trade Union Confederation. March 2015. Cyrchwyd 27 Mawrth 2020.
  2. "Resolution concerning sustainable development, decent work and green jobs" (PDF). International Labour Organization. 2013-06-13. Cyrchwyd 26 Mawrth 2020.
  3. "Guidelines for a just transition towards environmentally sustainable economies and societies for all". International Labour Organization. 2 Chwefror 2020. ISBN 978-92-2-130628-3. Cyrchwyd 26 Mawrth 2020.
  4. "Adoption of the Paris Agreement. Proposal by the President". United Nations Framework Convention on Climate Chang. 12 December 2015. t. 21. Cyrchwyd 3 Mawrth 2020.
  5. "Climate Frontlines Briefing - No Jobs on a Dead Planet" (PDF). International Trade Union Confederation. March 2015. Cyrchwyd 27 Mawrth 2020."Climate Frontlines Briefing - No Jobs on a Dead Planet" (PDF). International Trade Union Confederation. Mawrth 2015. Retrieved 27 March 2020.
  6. Smith, Samantha (May 2017). "Just Transition". Just Transition Centre. https://www.oecd.org/environment/cc/g20-climate/collapsecontents/Just-Transition-Centre-report-just-transition.pdf.
  7. "Climate action". EIB.org. Cyrchwyd 2020-08-19.
  8. "Coal and Just Transition". www.wwf.eu. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-04-18. Cyrchwyd 2020-08-19.
  9. "Just Transition Platform". European Commission - European Commission (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-08-19.
  10. Brecher, Jeremy (2019). "Making the Green New Deal Work for Workers". In These Times. Cyrchwyd 2 Mai 2019.
  11. Smith, Samantha (May 2017). "Just Transition". Just Transition Centre. https://www.oecd.org/environment/cc/g20-climate/collapsecontents/Just-Transition-Centre-report-just-transition.pdf.Smith, Samantha (May 2017). "Just Transition" (PDF). Just Transition Centre.
  12. ""Just Transition" – Just What Is It?". Labor Network for Sustainability. Cyrchwyd 2 Mai 2019.
  13. "Mapping Just Transition(s) to a Low Carbon World" (PDF). UNRISD. December 2018.
  14. Smith, Samantha (May 2017). "Just Transition". Just Transition Centre. https://www.oecd.org/environment/cc/g20-climate/collapsecontents/Just-Transition-Centre-report-just-transition.pdf.Smith, Samantha (May 2017). "Just Transition" (PDF). Just Transition Centre.
  15. "The EBRD's just transition initiative". European Bank for Reconstruction and Development.
  16. "Guidelines for a just transition towards environmentally sustainable economies and societies for all". International Labour Organization. 2015. https://www.ilo.org/wcmsp5/groups/public/---ed_emp/---emp_ent/documents/publication/wcms_432859.pdf.
  17. Smith, Samantha (May 2017). "Just Transition" (PDF). International Trade Union Confederation. Cyrchwyd March 17, 2020.
  18. "Decent work". International Labour Organization. Cyrchwyd 24 April 2020.
  19. "Just Transition Fund: History". Just Transition Fund. Cyrchwyd 24 April 2020.
  20. "Paris Agreement". United Nations 2015. 2015. https://unfccc.int/files/essential_background/convention/application/pdf/english_paris_agreement.pdf.
  21. Smith, Samantha (May 2017). "Just Transition" (PDF). International Trade Union Confederation. Cyrchwyd March 17, 2020.Smith, Samantha (May 2017). "Just Transition" (PDF). International Trade Union Confederation. Retrieved 17 March 2020.
  22. "What is the Paris Agreement?". UNFCCC. Cyrchwyd 24 April 2020.
  23. "Find out more about COP21". COP 21 Paris. Cyrchwyd 24 April 2020.
  24. "Solidarity and Just Transition Silesia Declaration". COP 21 - Katowice 2018. https://cop24.gov.pl/fileadmin/user_upload/Solidarity_and_Just_Transition_Silesia_Declaration_2_.pdf. Adalwyd 2021-04-18.
  25. "Unions support Solidarity and Just Transition Silesia Declaration". ITUC. Cyrchwyd 24 April 2020.
  26. "Katowice Climate Conference". United Nations. Cyrchwyd 24 April 2020.
  27. "Nationally Determined Contributions (NDCs)". UNFCCC. Cyrchwyd 24 April 2020.
  28. "Financing the green transition: The European Green Deal Investment Plan and Just Transition Mechanism". ec.europa.eu (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-11-14.
  29. Brecher, Jeremy (2019). "Making the Green New Deal Work for Workers". In These Times. Cyrchwyd 2 Mai 2019.Brecher, Jeremy (2019). "Making the Green New Deal Work for Workers". In These Times. Retrieved 2 May 2019.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod]

  • Bell, Karen (2020), Amgylcheddoliaeth Dosbarth Gweithiol: Agenda ar gyfer Trosglwyddo Cyfiawn a Theg i Gynaliadwyedd, Llundain: Palgrave
  • Hampton, Paul (2015), Gweithwyr ac Undebau Llafur ar gyfer Undod Hinsawdd, Llundain ac Efrog Newydd: Routledge
  • Morena, Edouard, Dunja Krause a Dimitris Stevis (2020), Just Transitions: Social Justice in the Shift Towards a Low-Carbon World, Llundain: Pluto
  • Räthzel, Nora a David Uzzell (2013), Undebau Llafur yn yr Economi Werdd: Gweithio dros yr Amgylchedd, Llundain ac Efrog Newydd: Earthscan / Routledge