Cytundeb Paris

Oddi ar Wicipedia
Noder: dalen wahaniaethu yw hon.

Dros y canrifoedd mae sawl cytundeb wedi cael ei drafodi a'i arwyddo yn ninas Paris, Ffrainc, yn cynnwys:

  • Cytundeb Paris (1229), a ddaeth â'r Groesgad Albigensaidd i ben
  • Cytundeb Paris (1259), rhwng Harri III o Loegr a Louis IX o Ffrainc
  • Cytundeb Paris (1303), rhwng Philip IV o Ffrainc ac Edward I o Loegr
  • Cytundeb Paris (1323), Cownt Louis o Fflandrys yn ildio hawliau Fflandrys i Zeeland
  • Cytundeb Paris (1355), rhwng Ffrainc a Savoy
  • Cytundeb Paris (1623), rhwng Ffrainc, Savoy, a Fenis yn erbyn lluoedd Sbaen yn Valtelline
  • Cytundeb Paris (1657), yn seilio cynghrair milwrol rhwng Ffrainc a Lloegr yn erbyn Sbaen
  • Cytundeb Paris (1763), yn dod â Rhyfel y Saith Mlynedd/Rhyfel Ffrainc ac India i ben
  • Cytundeb Paris (1783), yn dod â Rhyfel Chwyldro America i ben
  • Cytundeb (Heddwch) Paris (1783), yn dod â'r 4ydd Rhyfel rhwng Prydain Fawr a'r Iseldiroedd i ben
  • Cytundeb Paris (1796), yn dod â Rhyfel Ffrainc a Theyrnas Piedmont-Sardinia i ben
  • Cytundeb Paris (1810), yn dod â Rhyfel Ffrainc a Sweden i ben
  • Cytundeb Paris (1814), yn dod â Rhyfel Ffrainc a'r Chweched Cynghrair i ben
  • Cytundeb Paris (1815), yn dilyn trechu Napoleon yn Waterloo
  • Cytundeb Paris (1856), yn dod â Rhyfel Crimea i ben
  • Cytundeb Paris (1857), yn dod â Rhyfel y DU a Persia i ben
  • Cytundeb Paris (1898), yn dod â Rhyfel Sbaen ac America i ben
  • Cytundeb Paris (1900), yn datrys yr anghydfod rhwng Ffrainc a Sbaen dros Río Muni
  • Cynhadledd Heddwch Paris, 1919, yn gosod amodau ar y pwerau a gollodd y Rhyfel Byd Cyntaf
  • Cytundeb Paris (1920), yn uno Bessarabia a Rwmania
  • Cytundebau heddwch Paris, 1947, yn sefydlu heddwch swyddogol rhwng Cynghreiriaid buddugol yr Ail Ryfel Byd a Bwlgaria, Hwngari, yr Eidal, Rwmania, a'r Ffindir
  • Cytundeb Paris (1951), yn sefydlu'r Gymuned Glo a Haearn Ewropeaidd ; un o gytundebau sylfaenol yr Undeb Ewropeaidd
  • Cytundebau heddwch Paris, 1973, yn dod â rhyfel America yn Fietnam i ben
  • Cytundeb Paris (2016) - Cytundeb Amgylchedd y Byd parthed cynhesu byd eang.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]