Cytundeb Paris (1259)

Oddi ar Wicipedia
Cytundeb Paris
Enghraifft o'r canlynolcytundeb Edit this on Wikidata
Dyddiad4 Rhagfyr 1259 Edit this on Wikidata
LleoliadParis Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cytundeb Paris gyda sêl y Brenin Harri III.

Cytundeb heddwch a arwyddwyd gan Louis IX, brenin Ffrainc ac Harri III, brenin Lloegr yn 1259 oedd Cytundeb Paris neu Gytundeb Abbeville a ddaeth â therfyn i gan mlynedd o ryfela rhwng y Capetiaid a'r Plantagenetiaid. Yn ôl gofynion y cytundeb, ildiodd Teyrnas Lloegr ei hawl i diroedd Normandi, Angyw, Poitou, a Maen, a chadwodd ei rheolaeth dros Bordeaux, Baewn, a Gwasgwyn. Cytunodd y Brenin Louis i dalu am bumcant o farchogion am gyfnod o ddwy flynedd, er budd Teyrnas Lloegr neu Eglwys Rufain.

Baner FfraincEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Ffrainc. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Baner LloegrEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Lloegr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.