N'Ko

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
N'Ko
160px-NKo-script.svg.png
Math
gwyddor
Ieithoedd N'Ko
Crëwr Solomana Kante
Cyfnod
1949 i'r presennol
ISO 15924 Nkoo, 165
Cyfeiriad Dde-i'r-chwith
Alias Unicode
NKo
Ystod Unicode
U+07C0–U+07FF

Gwyddor yw N'Ko (ߒߞߏ) a ddyfeiswyd gan Solomana Kante yn 1949 ar gyfer yr ieithoedd Manding yng Ngorllewin Affrica. Mae hefyd yn enw ar yr iaith lenyddol safonol a ysgrifennir gan y wyddor hon. Golyga 'N'Ko' 'dywedaf' neu 'rwy'n dweud' yn holl ieithoedd Manding.

Mae i'r sgript N'Koeg beth debygrwyd i'r wyddor Arabeg, yn fwyaf amlwg, fe'i hysgrifennir o'r dde i'r chwith a'r ysgrifen yn 'glwm' neu'n 'sownd'. Yn wahanol i Arabeg, mae'n cofnodi amrywiaeth tôn a llafariaid yr iaith Manding.

Ceir hefyd wyddor gynhenid arall yng ngorllewin Affrica, Adlam ar gyfer iaith neu gontiniwm iaith Fulani.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Crewyd Kante N'Ko fel ymateb i ragfarn pobl a gredai bod yr Affricaniaid yn ddi-ddiwylliant, gan na fodolai wyddor gynhenid Affricanaidd cyn hynny. Defnyddiwyd N'Ko i gychwyn yn ardal Kankan yn Ngweriniaeth Gini fel gwyddor Maninka, ac oddi yno lledaenodd i rannau eraill o Orllewin Affrica a siaradai dafodieithoedd yn y continiwm Manding. Dethlir 'Diwrnod Wyddor N'Ko' ar 14 Ebrill, gan mai ar y diwrnod hwnnw yn 1949 y credir i'r wyddor gael ei orffen[1].

Yr un pryd, esgorwyd ar fudiad i hyrwyddo llythrennedd ynddo ymysg siaradwyr Manding ar draws Affrica Ffrangeg a Saesneg eu hiaith. Mae'r wyddor wedi bod yn sylfaenol wrth siapio hunaniaeth ddiwylliannol Mandinka yn Gini ac mae wedi cryfhau hunaniaeth Mande mewn rhannau erail o Orllewin Affrica.[2]

Defnydd Cyfredol[golygu | golygu cod y dudalen]

Erbyn 2005, roedd y wyddor yn cael ei defnyddio, gan fwyaf, gan siaradwyr Maninka yn Gini a Dioula yn yr Arfordir Ifori a bod cymuned fywiog ym Mali gan siaradwyr Bambara. Nodir yma bod y cysyniad o iaith a thafodiaith yn Affrica yn gallu bod yn un niwlog gyda'r hyn a elwir yn dafodiaith yn Ewrop yn cael ei hadnabod fel iaith yn Affrica. Dylid cadw mewn cof ein bod yn trafod continiwm ieithyddol yma. Cymhariaeth debyg fyddai Almaeneg Awstria ac Almaeneg gogledd yr Almaen, lle gellid eu galw'n ddwy iaith ar wahân, neu Beyerisch yn Bafaria a Plattdeutsch yn Hamburg; gellir dweud fod siaradwyr wedi eu huno gan un iaith ysgrifenedig, safonol Hochdeutsch (yr hyn a alwn yn 'Almaeneg') a bod honno bellach yn iaith lafar safonol hefyd.

Ceir amrywiaeth eang o gyhoeddiadau yn N'Ko gan gynnwys y Coran, gwerslyfrau mewn ffiseg a daearyddiaeth, barddoniaeth a gwaith athronyddol, meddygyniaethau traddodiadol, gweiriaduron a sawl papur newydd lleol. Caiff ei disgrifio gan rai fel y sgript gynhenid mwyaf llwyddiannus yng Ngorllewin Affrica.[3]

Bwriedir i'r iaith a ddefnyddir fod yn koine h.y. yn plethu prif elfennau y continiwm Manding sy'n ddealladwy i bawb ond gyda gwedd Maninka leol, gref iddi. Yn hyn o beth mae'n debyg i'r rhan fwyaf o fersiynau gwahanol ieithoedd 'safonol'. Bydd siaradwr tafodiaith yn parhau i siarad eu tafodiaeth leol ond defnyddi N'Ko ar gyfer ysgrifennu.

Oherwydd addysg a diffyg rhaglenni sy'n cynnwys sgript N'Ko bydd siaradwyr tafodieithoedd Manding hefyd yn defnyddio'r wyddor Ladin (Bambara) ac Arabeg (Mandinka) yn Gambia a Senegal.

Defnydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 2011 dyfnyddiwyd N'Ko ochr yn ochr gyda'r iaith Ffrangeg swyddogol mewn cynllun peilot mewn ysgol yn Kiniebakoro.

Mae'r gyfres deledu antur boblogaidd Americanaidd, '24' wedi ei throsi i N'Ko a cheir ymdrechion i'w ffrydio ar ffonau symudol, sy'n allweddol at ddefnydd iaith yn Affrica yn arbennig gan bod gwasanaeth post yn annibynadwy a strwythurau teleffonau traddodiadol mor ddiffygiol.

Ceir bellach peth arwydd bod yr iaith ysgrifenedig yn cael ei harddel yn gyhoeddus ac wrth farchnata.

Gwelwyd rhywfaint o'r wyddor N'Ko yn y ffilm Ffrengig/Manika o Senegal, Wùlu[1]

Llythrennau[golygu | golygu cod y dudalen]

Ysgrifennir y wyddor N'Ko o'r dde i'r chwith gyda'r llythrennau'n cael eu cysylltu i'w gilydd fel yn Arabeg.

Llefariaid[golygu | golygu cod y dudalen]

ɔ

o

u

ɛ

i

e

a

ߐ ߏ ߎ ߍ ߌ ߋ ߊ
NKo Aw.svg NKo O.svg NKo Uh.svg NKo Eh.svg NKo E.svg NKo A.svg NKo Ah.svg

Cytseiniaid[golygu | golygu cod y dudalen]

r d ch j t p b
ߙ ߘ ߗ ߖ ߕ ߔ ߓ
NKo R.svg NKo D.svg NKo Ch.svg NKo J.svg NKo T.svg NKo P.svg NKo B.svg
m l k f gb s rr
ߡ ߟ ߞ ߝ ߜ ߛ ߚ
NKo M.svg NKo L.svg NKo K.svg NKo F.svg NKo Gb.svg NKo S.svg NKo Rr.svg
n'   y w h n ny
ߒ   ߦ ߥ ߤ ߣ ߢ
NKo Ng.svg   NKo Y.svg NKo W.svg NKo H.svg NKo N.svg NKo Ny.svg

Tôn[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir dwy dôn wahanol yn Manding (fel y ceir 5 tôn yn Mandarin yn Tsieina). Nodir tôn mewn gair drwy roi diacritig uwch ben llefariad i nodi tôn neu hyd. Rhoir diacritig o dan llefariad i nodi trwynoli. Bydd tafodiaith Manding megis Bambara a siaredir fwyaf ym Mali hefyd yn defnyddio acenion wrth ysgrifennu yn y wyddor Ladin.

N'ko ar gyfrifiaduron[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae trosglwyddo'r wyddor newydd o ysgrifennu â llaw i ffordd mwy mecanyddol ac haws i'w llenaenu, wedi bod yn her o'r cychwyn. Bu'n rhaid i ladmeryddion cynnar yr iaith gopio llyfrau â llaw, a bu'n rhaid aros nes derbyn dau deipiadur o Ddwyrain Ewrop Gomiwnyddol nes symud o'r dull hwnnw.

Gyda dyfodiad cyfrifiaduron daeth yn her i sicrhau bod N'Ko i'w cael arnynt yn ddiofyn a diffwdan. O'r 1990au ymlaen, gwelwyd ymdrechion i ddatblygu ffontiau a hyd yn oed cynnwys ar y we drwy addasu ffontiau a meddalwedd arall. Datblygwyd prosesydd geiriad MS-DOS a alwyd y Koma Kunda, gan yr Athro Baba Mamadi Diané o Brifysgol Cairo yn yr Aifft.[4] Ond roedd y diffyg rhyng-gymwysedd rhwng y datblygiad yma a thechnoleg arall yn lyfethair ar ei ddatblygiad.

Mae gan Pango 1.18 a GNOME 2.20 gefnogaeth cynhenid i'r iaith N'ko. Mae cyfrifiannell iOS mewn N'ko, N'ko:Calc, ar gael o storfa Apple app. Ceir hefyd app iOS app ar gyfer danfon ebyst mewn N'ko: Triage-N'ko. Ceir hefyd allweddell rithiol virtual-keyboard-nko i deipio nodau N'Ko yn system Gwasanaeth Windows.

Mae ffont N’Ko, Conkary, ar gael ar gyfer Windows 8, OS X, ac Open OfficeGraphite program, which was developed by SIL International.[5]

Unicode[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: NKo (Unicode block)

Ychwanegwyd sgript N'Ko script i'r Unicode Safonol yng Ngorffennaf 2006 gyda fersiwn 5.0.

Cefnogodd rhaglen Programme Initiative B@bel UNESCO y gwaith paratoi ar gyfer cais i godio N'Ko mewn i Unicode. Yn 2004, fe gymeradwywyd y cais, a gyflwynwyd gan dri Athro mewn N'KO (Baba Mamadi Diané, Mamady Doumbouya, a Karamo Kaba Jammeh) oedd yn gweithio gyda Michael Everson, gan grwp gweithredu ISO, WG2. Yn 2006 pasiwyd N'Ko ar gyfer Unicode 5.0.

Bloc Unicode ar gyfer N'Ko yw U+07C0–U+07FF:

NKo[1][2]
Siart Swyddogol Consortiwm Unicode (PDF)
  0 1 2 3 4 5 6 7 8 9 A B C D E F
U+07Cx ߀ ߁ ߂ ߃ ߄ ߅ ߆ ߇ ߈ ߉ ߊ ߋ ߌ ߍ ߎ ߏ
U+07Dx ߐ ߑ ߒ ߓ ߔ ߕ ߖ ߗ ߘ ߙ ߚ ߛ ߜ ߝ ߞ ߟ
U+07Ex ߠ ߡ ߢ ߣ ߤ ߥ ߦ ߧ ߨ ߩ ߪ ߫ ߬ ߭ ߮ ߯
U+07Fx ߰ ߱ ߲ ߳ ߴ ߵ ߶ ߷ ߸ ߹ ߺ
Notes
1.^ Côd Unicode fersiwn 8.0
2.^ Mae'r rhannau llwyd yn nodi pwyntiau côd sydd heb eu neilltuo

Yr iaith lenyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

N'ko
Siaredir yn
Rhanbarth
Cyfanswm siaradwyr dim
Teulu ieithyddol Manding koine
Codau ieithoedd
ISO 639-1 Dim
ISO 639-2 nqo
ISO 639-3 nqo
Wylfa Ieithoedd

Mae llenyddiaeth mewn N'Ko yn datblygu fewn i iaith lenyddol a elwir yn kangbe 'iaith glir'. Seilir hi ar dafodiaeth gyfaddawd o sawl tafodiaith Manding. Bydd siaradwyr Mande yn denfyddio kangbe i gyfathrebu yn ysgrifenedig.[6] Er enghraifft, yr gair am 'enw' yn nhafodiaith Bamanan yw tɔgɔ ac yn Maninka dywedir, toh. Wrth ysgrifennu bydd siaradwyr y ddwy dafodiaeth yn ysgrifennu mewn N’Ko, ond gan ddarllen ac yngannu'r gair yn ei tafodiaith ei hunain. Mae hyn yn debyg i siaradwyr Cymraeg yn ysgriennu 'chwarae' ond yn llefaru 'chwara' neu 'chware' yn ôl eu tafodiaith ei hunain.

N'Ko mewn Ffilm[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir defnydd o'r wyddor yn y ffilm Ffrengig-Mali, 'Wùlu' (2016). Gwelir y wyddor ar deitlau agoriadol y ffilm. Mae'r ffilm yn gwneud defnydd o ddeialog Bambara a Ffrangeg. Gwelir defnydd clir o diglosia yn y ffilm rhwng y Ffrangeg a'r Bambara.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Oyler, Dianne White (Tachwedd 2005). The History of N’ko and its Role in Mande Transnational Identity: Words as Weapons. Africana Homestead Legacy Publishers. p. 1. ISBN 0-9653308-7-7.
  2. Oyler, Dianne White (1994) Mande identity through literacy, the N'ko writing system as an agent of cultural nationalism. Toronto : African Studies Association.
  3. Unseth, Peter. 2011. Invention of Scripts in West Africa for Ethnic Revitalization. In The Success-Failure Continuum in Language and Ethnic Identity Efforts, ed. by Joshua A. Fishman and Ofelia García, pp. 23–32. New York: Oxford University Press.
  4. Personal note from the LISA/Cairo conference, in Dec. 2005, Don Osborn
  5. Rosenberg, Tina (2011-12-09). "Everyone Speaks Text Message". New York Times. http://www.nytimes.com/2011/12/11/magazine/everyone-speaks-text-message.html?pagewanted=all&_r=0. Adalwyd 2013-12-22.
  6. N'Ko Language Tutorial: Introduction

Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]


Gwyddorau cymdeithas
Addysg | Anthropoleg | Cymdeithaseg | Daearyddiaeth ddynol | Economeg
Gwyddor gwleidyddiaeth | Hanes | Ieithyddiaeth | Rheolaeth | Seicoleg


Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am n'ko
yn Wiciadur.