Yr wyddor Adlam

Oddi ar Wicipedia
Enghraifft o'r wyddor Adlam

Mae wyddor Adlam yn sgript a ddyfeisiwyd yn ddiweddar i ysgrifennu'r iaith (neu continiwm tafodiaith) Fula; (a elwir hefyd yn Fulfulde, Pular, Fulani neu Pula) sy'n un o brif ieithoedd brodorol gorllewin Affrica a siaradeir gan oddeutu 40 miliwn o bobl.[1] Mae'r enw "adlam" yn acronym sy'n deillio o bedair llythyren gyntaf yr wyddor (A, D, L, M), yn sefyll am Alkule Dandayɗe Leñol Mulugol sef, "yr wyddor sy'n amddiffyn y bobloedd rhag diflannu". Sgrifennir enw'r wyddor weithiau fel ADLaM.

Hanes[golygu | golygu cod]

Rhanbarth Nzérékoré yn Gini

Yn ystod diwedd yr 1980au, dyfeisiwyd y wyddor hon gan y brodyr, Ibrahima ac Abdoulaye Barry, yn eu cartref yn Nzérékoré, Gini yn ystod eu harddegau. Mae'r brodyr bellach yn byw yn Portland (dinas), Oregon, yr UDA.[1] Datblygwyd yn benodol ar gyfer trawsgrifio'r iaith Fulani.[2][3] Roedd yr iaith wedi ei hysgrifennu gan ddefnyddio'r Wyddor Arabeg ond doedd y wyddor honno methu ymdopi'n llawn â gwahanol synnau'r iaith Fulani. Sylweddolwyd hefyd bod nifer o frodorion yn troi at y Ffrangeg fel iaith llythrennedd. Ar ôl sawl blwyddyn o ddatblygiad dechreuodd gael ei mabwysiadu'n eang ymhlith cymunedau Fulani, ac ar hyn o bryd (2019) mae'n cael ei dysgu yn Gini, Nijeria, Liberia a gwledydd eraill gerllaw.

Prif lythyren alif mewn Adlam

Cefnogir ADLaM yn systemau gweithredu Google a Google Chrome. Mae yna hefyd apiau Android i anfon SMS mewn adlam ac i ddysgu'r wyddor.[4] Ar gyfrifiaduron sy'n rhedeg Microsoft Windows, cefnogir y sgript adlam yn frodorol fel rhan o'r diweddariad nodwedd sydd ar ddod o fersiwn Windows 10 1903 (codenamed 19H1) adeiladu 18252.[5]

Ceir pryder fod y wyddor yn tanseilio datblygiad yr iaith lythrennol yn y wyddor Ladin sydd wedi ei sefydlu ers degawdau ac â mwy o ddarpariaeth ar-lein ac mewn print. Ceir hefyd trafferthion addasu'r wyddor a chreu adnoddau ar gyfer y we a'r systemau gyfrifiadurol.[6]

Mae datblygiad y wyddor yn adlais i wyddor gynhenid arall i iaith frodorol yng Ngorllewin Affrica, N'Ko.

Nodweddion[golygu | golygu cod]

Ysgrifennir Adlam, fel Arabeg a N'Ko o'r dde i'r chwith.

  • Diacritiau - Mae gan Adlam nifer o ddiacritau. Defnyddir yr addasydd 'cytsain' i ddeillio cytseiniaid ychwanegol, yn bennaf o Arabeg, tebyg i e.e. s > š yn yr wyddor Ladin.
  • Rhifolion - Yn wahanol i sgript Arabeg, mae rhifolion Adlam yn mynd i'r un cyfeiriad (dde i'r chwith) â llythrennau.
  • Atalnodi - Mae atalnodi adlam fel Sbaeneg yn yr ystyr bod ffurfiau cychwynnol a therfynol o'r marc cwestiwn a'r ebychnod, a roddir cyn ac ar ôl y cymal neu'r ymadrodd a holwyd neu a ebychwyd.
  • Unicode - Ychwanegwyd yr wyddor Adlam at Safon Unicode ym mis Mehefin 2016 gyda rhyddhau fersiwn 9.0. Y bloc Unicode ar gyfer Adlam yw U + 1E900 - U + 1E95F.[7]

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 https://news.microsoft.com/stories/people/adlam.html
  2. Everson, Michael (2014-10-28). "N4628R: Revised proposal for encoding the Adlam script in the SMP of the UCS" (PDF). Cyrchwyd 2016-06-22.
  3. The Alphabet That Will Save a People From Disappearing, Kaveh Waddell, 16 Tachwedd 2016, The Atlantic
  4. Winden Jangen ADLaM: Cellphone Applications
  5. Announcing Windows 10 Insider Preview Build 18252
  6. https://twitter.com/JamraPatel/status/1155846780787011586
  7. https://www.unicode.org/charts/PDF/U1E900.pdf