Solomana Kante

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Solomana Kante
Ganwyd 1922 Edit this on Wikidata
Kankan Edit this on Wikidata
Bu farw 23 Tachwedd 1987 Edit this on Wikidata
Conakry Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Gini Edit this on Wikidata
Galwedigaeth cyfieithydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Solomana Kante neu Souleymane Kante neu Solomana Kanté (192223 Tachwedd 1987) Awdur a sgolor Affricanaidd o Gini a dyfeisiwr y wyddor N'Ko ar gyfer yr ieithoed Manding, Gorllewin Affrica. Golyga N'Ko 'rwy'n dweud' yn holl continiwm ieithyddol y tafodieithoedd Manding. Mae'r contimiwum Manding yn cynnwys tafodieithoedd a elwir yn Bambara, Bolon, Jula, Dioula, Mandinka yng ngwladwriaethau Mali, Gambia, Gini, Arfordir Ifori a gorllewin Bwrcina Ffaso.

Hanai ei deulu o Mali ond ganed Kante ym mhentref Koloni ger Kankan yn Gini. Roedd Kante yn fab i athro ac yn fasnachwr yn y Traeth Ifori oedd yn rhan o ymerodraeth Ffrainc. Yn ôl y sôn yn 1943 cafodd noson o fyfyrio dwys yn sgil yr hyn a deimlai'n sarhâd ar ieithoedd brodorol Affrica a'r farn Orllewinnol ac o fewn cylchoedd Arabaidd bod yr Affricaniaid yn bobl 'di-ddiwylliant'. Yn ôl y sôn darllennodd Kante bod ysgolhaig o Libanus wedi honni nad oedd modd ysgrifennu mewn ieithoedd Affrica.

Creu'r Wyddor[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceisiodd Kante drawsgrifio ei iaith gan ddefnyddio'r wyddor Arabaidd ac yna Lladin ond gwelodd nhw'n fethedig gan nad oeddynt yn gallu cymhathu gwahanol lefariaid na chwaith tôn sydd yn y tafodieithoedd Manding. Ond erbyn 1949 roedd wedi creu wyddor newydd at bwrpas trawsgrifio'r tafodieithoedd Manding. Dethlir 14 Ebrill fel 'Diwrnod y Wyddor' gan mai ar y diwrnod hwnnw yn 1949 y credir i Kante ffurfioli'r wyddor yn derfynnol.

Defnyddiwyd N'Ko yn Kankan yn Gini i ddechrau ar gyfer Maninka ond mae wedi lledu i weddill y continiwm ieithyddol ar hyd Gorllewin Affrica.

Adewinir N'Ko fel y wyddor a hefyd yr iaith 'safonol' ysgrifenedig a niwtral a ddefnyddir gan wahanol siaradwyr yr iaith. Mae'n ymdebygu i'r wyddor Arabaidd ac fe'i hysgrifennir, fel Arabeg ac Hebraeg, o'r dde i'r chwith.

Aeth Kante yn ei flaen i ysgrifennu bron i ddau cant o lyfrau yn y sgript newydd gan gyfieitu'r Coran, gwerslyfrau ffiseg a hanes, disgrifiadau o feddygyniaethau traddodiadol a barddoniaeth. Gwnaed hyn gan fwyaf â llaw, gyda'i ddilynwyr yn copio'r testun â llaw hefyd gan nad oedd teipiaduron ar gael am beth amser yn defnyddio'r wyddor. Oherwydd cysylltiadau agos Gini ar y pryd â'r Bloc Comiwnyddol, llwyddwyd i greu dwy deipiadur yn defnyddio'r wyddor newydd yn Nwyrain Ewrop.

Cyhoeddodd hefyd yn helaeth ar ieithyddiaeth ac hanes yn yr iaith Ffrangeg, sef iaith drefedigaethol Gini.

Bu farw ar 23 Tachwedd 1987 ym mhrifddinas Gini, Conakry.

Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Conrad, David C. (2001). "Reconstructing Oral Tradition: Souleymane Kanté’s Approach to Writing Mande History". Mande Studies 3, 147-200.
  • Kaba, Diaka Laye (1992). "Souleymane Kanté: l’inventeur de l’alphabet N’ko". L’Educateur: Trimestriel Pédagogique des Enseignants de Guinée 11-12, 33
  • Kanté, Bourama (1996). "Souvenir de Kanté Souleymane". Somoya Sila: Journal Culturel de l'Association ICRA-N'KO 19.
  • Kanté, Souleymane (1961). "Alphabet de la langue N’ko: ‘N’ko sebesun’." In Méthode pratique d’écriture N’ko. Kankan, reprinted by Mamady Keita (1995), Siguiri.
  • Vydrine, Valentin, ed. (2001). "Lettres de Souleymane Kanté et Maurice Houis". Mande Studies 3, 133-146.

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]