Y Bloc Dwyreiniol
Gwedd
(Ailgyfeiriwyd o Bloc Comiwnyddol)
| Enghraifft o: | grŵp daearwleidyddol |
|---|---|
| Math | political coalition |
| Daeth i ben | 1990 |
| Dechrau/Sefydlu | 1944 |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0p366 |

Cyn-wladwriaethau comiwnyddol Dwyrain a Chanolbarth Ewrop, yn enwedig yr Undeb Sofietaidd a'i lloerenni yng Nghytundeb Warsaw, oedd y Bloc Dwyreiniol. Cyn 1948, roedd y term yn cynnwys Iwgoslafia, ond gan amlaf ni chynhwysir ar ôl iddi dorri â pholisi Sofietaidd yn sgîl hollt Tito-Stalian. Yn yr un modd, gan amlaf ni chynhwysir Albania wedi iddi ymochri â Gweriniaeth Pobl Tsieina yn sgîl yr hollt Tsieineaidd-Sofietaidd ym 1960. Defnyddir y termau Bloc Comiwnyddol a'r Bloc Sofietaidd hefyd i gyfeirio at lywodraethau a ymochrodd â'r cyn-Undeb Sofietaidd, er gall y termau hyn gynnwys llywodraethau o fewn maes dylanwad yr Undeb Sofietaidd y tu allan i Ddwyrain a Chanolbarth Ewrop, er enghraifft Ciwba.