Neidio i'r cynnwys

Llenyddiaeth Gymraeg yr 16eg ganrif

Oddi ar Wicipedia
Llenyddiaeth Gymraeg yr 16eg ganrif
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Olynwyd ganllenyddiaeth Gymraeg yr 17eg ganrif Edit this on Wikidata

Yn llenyddiaeth Gymraeg yr 16g gwelir meddylfryd y Cymry diwylliedig, gan gynnwys eu llenorion, yn symud o'r Oesoedd Canol i'r cyfnod diweddar. Dyma'r ganrif a gynhyrchodd feirdd mawr fel Tudur Aled a Gruffudd Hiraethog a'r cyfieithiad cyntaf o'r Beibl cyfan i'r Gymraeg. Roedd ail hanner y ganrif yn arbennig yn gyfnod pan flodeuai dysg a chyhoeddwyd geiriaduron, astudiaethau ar rethreg a llyfrau gramadeg. Daeth y canu rhydd poblogaidd i'r amlwg yn ogystal â dirywio fu hanes y traddodiad barddol, er na chollodd y canu caeth ei blwyf yn gyfangwbl.

Cefndir: Dadeni, Diwygiad a Gwrth-Ddiwygiad

[golygu | golygu cod]

Fel yn achos y rhan fwyaf o wledydd Ewrop, roedd yr 16g yn cyfnod a welodd ddiwedd yr Oesoedd Canol yng Nghymru a dechrau'r Cyfnod Modern. Dyma'r ganrif pan ledaenodd y Dadeni Dysg o'r Eidal. Roedd y ffaith fod papur yn rhatach ac argraffu llyfrau'n ymledu yn trawsffurfio byd dysg hefyd. Cyrhaeddasai y newidiadau hyn Gymru erbyn canol y ganrif a newidiwyd diwylliant y wlad mewn canlyniad. Codwyd to o ddyneiddwyr oedd yn awyddus i weld Cymru a'r Gymraeg yn rhan o'r datblygiadau hyn. Bu newidiadau mawr yng ngwleidyddiaeth a chrefydd y wlad yn ogystal. Cafwyd Y Deddfau Uno 1536 a 1543. Diddymwyd y mynachlogydd (1536-39) a sefydlwyd Eglwys Loegr a'r ffydd Brotestannaidd yn grefydd swyddogol Cymru a Lloegr, ac yna cafwyd deddf yn 1563 yn gorchymyn cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg. Ond clynodd rhai Cymry at yr Eglwys Gatholig a chyfranodd Cymru i'r Gwrth-Ddiwygiad yn ogystal. Cafodd y newidiadau hyn i gyd effaith fawr ar lenyddiaeth Gymraeg.

Parhâd traddodiad

[golygu | golygu cod]

Ond cymerodd amser i ddiwylliant Cymru newid. Parhaodd y traddodiad barddol trwy gydol y ganrif, er ei wanychu'n raddol wrth i'r beirdd golli nawdd. Cynhyrchodd y ganrif rhai o feirdd mwyaf dosbarth Beirdd yr Uchelwyr, e.e. Lewis Môn (c.1480-1520), Tudur Aled (c.1480-1525), Lewis Morgannwg (c.1520-50), Gruffudd Hiraethog (m. 1564), Wiliam Llŷn (m. 1580) a Wiliam Cynwal (m. 1587). Ceisiodd y beirdd adfywio'r traddodiad yn Eisteddfodau Caerwys (1523 a 1567).

Ceir nifer o destunau rhyddiaith sy'n perthyn i draddodiad yr Oesoedd Canol hefyd, e.e. Cronicl anferth Elis Gruffydd o Chwech Oes y Byd a nifer o gyfieithiadau ac addasiadau o weithiau Lladin, Ffrangeg a Saesneg, i gyd yn destunau llawysgrif.

Canu rhydd newydd a'r ddrama

[golygu | golygu cod]

Mae'n ddiamau fod canu rhydd, cerddi digynghanedd, wedi bod yn rhan o lenyddiaeth Gymraeg ers yr Oesoedd Canol cynnar, ond yn y 16g ceir toreth o gerddi ar fesurau a thonnau newydd, nifer fawr ohonynt yn dangos dylanwad canu poblogaidd tebyg yn Lloegr. Ond daeth hen ffurfiau cynhenid Gymraeg i'r amlwg yn ogystal â cheir carolau cynghanedig, cwndidau a mesurau eraill. O'r cyfnod hwn hefyd mae llawer o'r Hen Benillion traddodiadol yn tarddu.

Ceir nifer fychan o destunau dramâu mydryddol poblogaidd hefyd, yn cynnwys hanes y Croeshoelio ac Ymddiddan yr Enaid a'r Corff. Perthyn i lenyddiaeth uwch yw'r ddrama Troelus a Chresyd, a gyfansoddwyd ar ddiwedd y ganrif.

Rhyddiaith newydd

[golygu | golygu cod]

Gellir dosbarthu'r rhyddiaith newydd, ffrwyth y Dadeni Dysg, yn ddwy ffrwd, un gan awduron dyneiddiol Protestannaidd a'r llall gan y Gwrthddiwygwyr Cymreig.

Cyhoeddwyd Yn y lhyvyr hwnn gan Syr John Price yn 1546, y llyfr Cymraeg cyntaf i gael ei argraffu. Dilynwyd hynny yn 1547 gan Oll Synnwyr Pen Kembero ygyd William Salesbury. Yn 1567 cyhoeddoedd William Salebury y Testament Newydd yn Gymraeg a chyfieithiad o'r Llyfr Gweddi Gyffredin.

Ond Y Drych Cristianogawl, gwaith y Gwrth-Ddiwygwyr, oedd y llyfr cyntaf i gael ei argraffu yng Nghymru, a hynny yn y dirgel. Gruffydd Robert oedd yr awdwr, ac ef hefyd a ysgrifennodd y Dosbarth Byrr ar y rhann gyntaf i ramadeg cymraeg yn 1567. Mae awduron reciwsaidd eraill yn cynnwys Morys Clynnog, awdur Athravaeth Gristnogavl, a Rhosier Smyth, cyfieithydd Gorsedd y Byd.

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • Geraint Bowen (gol.), Y Traddodiad Rhyddiaith, cyfrol 2 (Llandysul, 1970)
  • R. Geraint Gruffydd, Llenyddiaeth y Cymry, cyfrol 2 (Gwasg Gomer, 1989)
  • W. J. Gruffydd, Llenyddiaeth Cymru: Rhyddiaith o 1540 hyd 1660 (Caerdydd, 1926)
  • Heledd Hayes, Cymru a'r Dadeni (Y Colegiwm Cymraeg, 1987)
  • Thomas Parry, Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900 (Caerdydd, 1944; sawl argraffiad ers hynny). Penodau VII-VIII
  • T. H. Parry-Williams (gol.), Canu Rhydd Cynnar (Caerdydd, 1932)
  • T. H. Parry-Williams (gol.), Rhyddiaith Gymraeg. Y gyfrol gyntaf: Detholion o lawysgrifau 1488-1609 (Caerdydd, 1954)

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]