Oll synnwyr pen Kembero ygyd

Oddi ar Wicipedia

Casgliad o ddiarhebion Cymraeg a gasglwyd gan Gruffudd Hiraethog allan o hen lawysgrifau Cymraeg yw Oll synnwyr pen Kembero ygyd, a olygwyd a'i gyhoeddi gan William Salesbury yn 1547. Dyma un o'r llyfrau Cymraeg argraffedig cyntaf. Mae'n bosib mai dyma'r llyfr Cymraeg cyntaf i'w argraffu.[1] Cedwir y llawysgrif gwreiddiol yn y Llyfrgell Brydeinig yn Llundain.

Y llyfr Cymraeg cyntaf i'w argraffu?[golygu | golygu cod]

Ceir ansicrwydd am y dyddiad cyhoeddi, ac mae hyn wedi arwain rhai ysgolheigion, fel Ifor Williams, wedi ei osod fel y cyntaf gan i'r llyfr hwn ddod allan ym 1547, ond ar y cyfan tueddir i dderbyn Yn y lhyvyr hwnn fel y llyfr Cymraeg cyntaf i gael ei gyhoeddi.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Ceir adargraffiad o'r testun gwreiddiol yn:

Eginyn erthygl sydd uchod am lyfr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  1. britannica.com; adalwyd 1 Ebrill 2022.