Tîm pêl-droed cenedlaethol Lithwania

Oddi ar Wicipedia
Tîm pêl-droed cenedlaethol Lithwania
Enghraifft o'r canlynoltîm pêl-droed cenedlaethol Edit this on Wikidata
PerchennogFfederasiwn Pêl-droed Lithwania Edit this on Wikidata
Enw brodorolLietuvos vyrų futbolo rinktinė Edit this on Wikidata
GwladwriaethLithwania Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://lff.lt/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Tîm pêl-droed cenedlaethol Lithwania (Lithwaneg: Lietuvos vyrų futbolo rinktinė) yn cynrychioli Lithwania yn y byd pêl-droed ac maent yn dod o dan reolaeth Ffederasiwn Pêl-droed Lithwania (Lithwaneg: Lietuvos futbolo federacija) (LFF), corff llywodraethol y gamp yn y wlad. Mae'r LFF yn aelodau o gonffederasiwn Pêl-droed Ewrop (UEFA).

Cyfnod Cyntaf[golygu | golygu cod]

Tîm Pêl-droed Lithwania yn Gemau Olympaidd, 1924

Ffurfiwyd yr LFF ym 1923, daethant yn aelodau o FIFA yn yr un flwyddyn[1] a chystadlu yng Ngemau Olympaidd 1924 ym Mharis. Ym 1940 cafodd Lithwania ei oresgyn gan yr Undeb Sofietaidd gyda'r LFF yn cael ei ddiddymu hyd nes 1990 pan lwyddodd Lithwania i sicrhau annibyniaeth.

Ail-ffurfio gydag annibyniaeth[golygu | golygu cod]

Ym 1990 ail-ffurfiwyd yr LFF a chwaraewyd eu gêm gyntaf fel gwlad annibynnol yn erbyn Georgia ar 27 Mai 1990[1]. Cawsant eu derbyn yn aelodau o FIFA ym 1991 ac yna UEFA ym 1992[1].

Nid yw Lithwania erioed wedi cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd na Phencampwriaethau Pêl-droed Ewrop.

Ar 6 Medi 2008, curodd Lithqania dîm RWmania 3–0 mewn gêm rhag-brofol i Gwpan y Byd 2010. Canwyd clod y fuddugoliaeth fel "buddugoliaeth hanesyddol".[2] Dilynwyd hyn gan fuddugoliaeth 2 - 0 yn erbyn Awstria yn Marijampolė ar 10 Medi 2008.

Gemau o Bwys[golygu | golygu cod]

  • Gêm ryngwladol gyntaf - Lithwania 0–5 Estonia
    • (Kaunas, Lithuania; 24 Mehefin 1923)
  • Buddugoliaeth fwyaf - Lithwania 7–0 Estonia
    • (Riga, Latfia; 20 Mai 1995)
  • Colled fwyaf - Yr Aifft 10–0 Lithwania
    • (Paris, Ffrainc; 27 Mai 1924)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 "Uefa: Lithuania history". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-02-14. Cyrchwyd 2014-12-23. Unknown parameter |published= ignored (help)
  2. FIFA World Cup uefa.com
Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.