Johny Williams (paffiwr)

Oddi ar Wicipedia
Johny Williams
Ganwyd25 Rhagfyr 1926 Edit this on Wikidata
Abermaw Edit this on Wikidata
Bu farw6 Chwefror 2007 Edit this on Wikidata
Swydd Gaerlŷr Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethpaffiwr Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Roedd Johnny Williams (25 Rhagfyr 19266 Chwefror 2007) yn baffiwr proffesiynol Cymreig yn y 1940au a'r 1950au. Ym 1952 ef oedd pencampwr pwysau trwm Prydain a'r Ymerodraeth Brydeinig[1].

Bywyd Cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Williams ar fferm Cellfechan Abermaw ar ddydd Nadolig 1926. Pan yn dair oed symudodd ei deulu i redeg fferm yn Rugby, Swydd Warwick. Cafodd Williams ei fwlio yn yr ysgol yn Rugby gan ei fod yn Gymro uniaith a dysgodd cwffio er mwyn amddiffyn ei hun rhag ei erlidwyr. Gwelodd bod modd gwneud arian o baffio trwy i Robin, ei frawd, betio gyda phlant eraill yr ysgol nad oedd modd iddynt wneud i Johnny crio[2]. Yn 10 oed dechreuodd paffio am wobrau mewn ffeiriau. Er mwyn ennill arian dechau yn y bythau bocsio roedd raid ymladd mewn nifer o ornestau yn olynol, gan hynny dysgodd Williams fod osgoi ergydion cyn bwysiced a'u glanio er mwyn goroesi; arweiniodd hyn at feirniadaeth ohono fel bocsiwr proffesiynol fel un orofalus[3].

Gyrfa broffesiynol[golygu | golygu cod]

Trodd Williams yn broffesiynol ym 1946, daeth yn adnabyddus am arddull gwyddonol yn y cylch. Un o'i ornestau enwocaf oedd yr un yn erbyn Jack Gardner ar 17 Gorffennaf 1950 yng Nghaerlŷr; roedd yn frwydr am deitl y Gymanwlad lle collodd Williams ar bwyntiau mewn ornest a disgrifiwyd gan y BBC fel un o'r ornestau mwyaf erchyll flinedig yn hanes y gamp yng ngwledydd Prydain, bu'n rhaid i'r ddau baffiwr gwario noson yn yr ysbyty wedi'r ymrafael[4]

Ymladdodd Williams a Gardner yn erbyn ei gilydd eto ym 1952 ac enillodd Williams wedi 15 rownd, gan hawlio'r teitlau Prydain a'r Ymerodraeth.

Llwyddodd i amddiffyn ei deitlau yn erbyn Johnny Arthur o De Affrica ym 1952, cyn ei golli ar bwyntiau dros 15 rownd i Don Cockell o Loegr ym 1953. Wedi cyfres o ornestau gwael ym 1955 a 1956, gan gynnwys un lle cafodd ei fwrw allan ar ôl pum rownd gan ei hen wrthwynebydd, Gardner, rhoddodd Williams y gorau i focsio ym 1956 ar ôl ennill 60 ornest, dod yn gyfartal mewn 4 a cholli 11.[5]

Gwariodd gweddill ei oes yn ffermio.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Priododd Jocelyn (Joyce) Sarsfield ym 1949, bu iddynt un ferch. Bu farw ger Rugby yn 80 mlwydd oed.

Gornestau proffesiynol[golygu | golygu cod]

Enill 60 (38 trwy fwrw allan, 22 ar bwyntiau), Colli 11 (6 trwy fwrw allan, 5 ar bwyntiau), 4 yn gyfartal [1] Archifwyd 2015-04-07 yn y Peiriant Wayback.

Nodyn: KO = Bwrw allan; TKO = Bwrw allan technegol; PTS = Dyfarniad ar bwyntiau

canlyniad Record Gwrthwynebydd Math Rownd Dyddiad Lleoliad Nodiadau
Colli 33-9 Jamaica Joe Bygraves TKO 6 16/11/1956 Y Deyrnas Unedig Belle Vue Zoological Gardens, Manceinion
Colli 28-0-1 Cymru Joe Erskine PTS 15 27/08/1956 Cymru Stadiwm y Maendy, Caerdydd BBBofC Teitl pwysau trwm.
Colli 26-4-1 Unol Daleithiau America Tommy "Hurricane" Jackson TKO 4 13/04/1956 Unol Daleithiau America Uline Arena, Washington, DC Dyfarnwr yn stopio'r ornest wedi 2:49 o'r 4edd rownd.
Cyfartal 45-5-1 Yr Almaen Willi Hoepner PTS 10 04/02/1956 Yr Almaen Festhalle Frankfurt, Frankfurt, Hesse
Ennill 23-3-2 Tonga Kitione Lave TKO 1 26/07/1955 Y Deyrnas Unedig Embassy Sportsdrome, Birmingham
Colli 26-5 Y Deyrnas Unedig Jack Gardner KO 5 06/06/1955 Y Deyrnas Unedig Nottingham Ice Stadium, Nottingham BBBofC Gornest dileu Teitl pwysau trwm y gymanwlad.
Ennill 7-4-1 Ffrainc Lucien Touzard TKO 3 18/04/1955 Cymru Stadiwm y Maendy, Caerdydd
Ennill 13-2-1 Yr Iseldiroedd Hennie Quentemeijer KO 2 05/03/1955 Cymru Y Drenewydd
Ennill 12-3-1 Ffrainc Roger Francis Coeuret TKO 4 10/12/1954 Y Deyrnas Unedig Belle Vue Zoological Gardens, Manceinion
Ennill 15-2 Y Deyrnas Unedig "Miracle" Jack Hobbs TKO 7 14/09/1954 Y Deyrnas Unedig Harringay Arena, Llundain BBBofC Teitl pwysau trwm gornest dileu.
Ennill 14-3-10 Yr Almaen Hugo Salfeld PTS 10 04/04/1954 Yr Almaen Stadion Rote Erde, Dortmund,
Ennill 42-4-6 Yr Almaen Gerhard Hecht KO 2 22/01/1954 Yr Almaen Sportpalast, Schoeneberg, Berlin
Ennill 4-4-1 Gwlad Belg Bernard Verdoolaeghe PTS 10 10/11/1953 Y Deyrnas Unedig Empress Hall, Earl's Court, Kensington, Llundain
Ennill 28-7 Y Deyrnas Unedig Fred Powell KO 2 05/10/1953 Y Deyrnas Unedig Granby Halls, Caerlŷr
Colli 59-11-1 Y Deyrnas Unedig Don Cockell PTS 15 12/05/1953 Y Deyrnas Unedig Harringay Arena, Llundain BBBofC/Teitl pwysau trwm y Gymanwlad.
Ennill 15-11-1 Trinidad a Thobago Ansell Adams PTS 10 13/04/1953 Y Deyrnas Unedig Granby Halls, Caerlŷr
Colli 25-1-4 Yr Almaen Heinz Neuhaus KO 9 15/02/1953 Yr Almaen Westfalenhallen, Dortmund,
Ennill 23-2-4 Lwcsembwrg Werner Wiegand KO 5 10/12/1952 Y Deyrnas Unedig Harringay Arena, Llundain
Ennill 20-2 De Affrica John Duncan Arthur TKO 7 13/10/1952 Y Deyrnas Unedig Granby Halls, Caerlŷr Teitl pwysau trwm y Gymanwlad.
Ennill 13-13-7 Unol Daleithiau America Jimmy Rouse TKO 7 22/07/1952 Unol Daleithiau America Meadowbrook Bowl, Newark, New Jersey
Ennill 22-4 Y Deyrnas Unedig Jack Gardner PTS 15 11/03/1952 Y Deyrnas Unedig Empress Hall, Earl's Court, Kensington, Llundain BBBofC/Teitl pwysau trwm y Gymanwlad.
Ennill 46-15 Ciwba Omelio Agramonte PTS 10 04/12/1951 Y Deyrnas Unedig Harringay Arena, Llundain
Cyfartal 21-0-3 Yr Almaen Heinz Neuhaus PTS 10 14/10/1951 Yr Almaen Stadion Rote Erde, Dortmund
Ennill 28-8-1 Awstria Jo Weidin TKO 6 05/06/1951 Y Deyrnas Unedig Stadiwm White City, Llundain
Ennill 17-3 Unol Daleithiau America Aaron Wilson PTS 8 27/03/1951 Y Deyrnas Unedig Empress Hall, Earl's Court, Kensington, Llundain
Ennill 29-5-4 Y Deyrnas Unedig Reg Andrews KO 2 19/03/1951 Y Deyrnas Unedig Granby Halls, Caerlŷr
Colli 42-21-5 Unol Daleithiau America Bill Weinberg TKO 6 12/12/1950 Y Deyrnas Unedig Harringay Arena, Llundain
Ennill 19-2 Unol Daleithiau America George Kaplan TKO 7 14/11/1950 Y Deyrnas Unedig Earls Court Arena, Kensington, Llundain
Colli 19-2 Y Deyrnas Unedig Jack Gardner PTS 12 17/07/1950 Y Deyrnas Unedig Granby Halls, Caerlŷr BBBofC/gornest dileu Teitl pwysau trwm y Gymanwlad.
Colli 72-11-2 Unol Daleithiau America Pat Comiskey TKO 6 06/06/1950 Y Deyrnas Unedig White City Stadium, Llundain
Ennill 23-11 Canada Vern Escoe PTS 10 28/02/1950 Y Deyrnas Unedig Harringay Arena, Llundain Teitl pwysau trwm y Gymanwlad gornest dileu.
Ennill 18-8 Jamaica Lloyd Barnett PTS 10 20/02/1950 Y Deyrnas Unedig Embassy Sportsdrome, Birmingham
Ennill 18-10 Gwlad Belg Piet Wilde KO 4 24/01/1950 Y Deyrnas Unedig Empress Hall, Earl's Court, Kensington, Llundain
Ennill 19-8-1 Ffrainc Stephane Olek PTS 8 06/09/1949 Y Deyrnas Unedig Harringay Arena, Llundain
Ennill 17-8 Gwlad Belg Piet Wilde PTS 10 17/08/1949 Cymru Coney Beach Pleasure Park, Porthcawl
Ennill 11-4 Gogledd Iwerddon Paddy Slavin TKO 3 20/06/1949 Y Deyrnas Unedig St Andrew's Stadium, Birmingham
Ennill 10-5-1 Sweden Nils Andersson PTS 8 02/06/1949 Y Deyrnas Unedig White City Stadium, Llundain]]
Ennill 23-8-4 Yr Alban Ken Shaw TKO 8 19/04/1949 Y Deyrnas Unedig Royal Albert Hall, Llundain
Ennill 14-6-2 De Affrica Nick Wolmarans TKO 4 29/01/1949 De Affrica Wembley Stadium, Johannesburg
Ennill 3-3-1 De Affrica Billy Wood KO 4 16/12/1948 De Affrica City Hall, Durban, Kwa-Zulu Natal
Ennill 10-6 De Affrica Fred Vorster PTS 8 06/11/1948 De Affrica Wembley Stadium]], Johannesburg
Ennill 17-9-3 Y Deyrnas Unedig Jock Frederick Taylor PTS 6 21/09/1948 Y Deyrnas Unedig Harringay Arena, Llundain]]
Ennill 22-13-7 Y Deyrnas Unedig Reg Spring TKO 6 02/09/1948 Y Deyrnas Unedig Exeter Civic Hall, Exeter, Dyfnaint
Ennill 32-4-1 Y Deyrnas Unedig Don Cockell TKO 2 27/07/1948 Y Deyrnas Unedig Embassy Rink, Birmingham
Ennill 7-12 Canada Gene "KO" Fowler KO 3 22/06/1948 Y Deyrnas Unedig St James Park, Exeter
Colli 28-4-1 Y Deyrnas Unedig Don Cockell PTS 8 18/05/1948 Y Deyrnas Unedig Highfield Road, Coventry
Ennill 6-0 Yr Alban Bobby Ogg PTS 6 20/04/1948 Y Deyrnas Unedig Harringay Arena, Llundain
Ennill 1-0 Y Deyrnas Unedig Sid Falconer RTD 3 11/03/1948 Y Deyrnas Unedig Smethwick, Sandwell
Ennill 1-0 Cymru Billy Phillips TKO 3 17/02/1948 Y Deyrnas Unedig Harringay Arena, Llundain
Ennill 21-3 Y Deyrnas Unedig Allan Cooke TKO 1 12/02/1948 Y Deyrnas Unedig Hull Arena, Hull
Ennill 12-12-3 Gogledd Iwerddon Matt Locke KO 1 26/01/1948 Y Deyrnas Unedig Coventry Drill Hall, Coventry
Ennill 13-13-1 Cymru Des Jones PTS 8 15/01/1948 Y Deyrnas Unedig Rink Market, Smethwick, Sandwell
Colli 14-10-6 Y Deyrnas Unedig Reg Spring PTS 8 02/12/1947 Y Deyrnas Unedig Co-op Hall]], Rugby
Ennill 4-1 Cymru Doug Richards PTS 8 24/11/1947 Y Deyrnas Unedig Cheltenham Town Hall, Cheltenham
Ennill 7-7 Y Deyrnas Unedig George Barratt TKO 3 10/11/1947 Y Deyrnas Unedig Coventry
Ennill 9-7-1 Y Deyrnas Unedig Jimmy Carroll KO 5 03/11/1947 Y Deyrnas Unedig Granby Halls, Caerlŷr
Ennill 27-27-7 Cymru Trevor Burt KO 2 16/09/1947 Y Deyrnas Unedig Battery Drill Hall, Rugby
Ennill 7-6 Y Deyrnas Unedig Jimmy Carroll TKO 5 12/08/1947 Y Deyrnas UnedigWembley Town Hall, Wembley, Llundain
Ennill -- Y Deyrnas Unedig Bernard O'Neill TKO 2 07/07/1947 Y Deyrnas Unedig Wembley Town Hall, Wembley, Llundain
Cyfartal 26-7-5 Cymru Johnny Houlston PTS 8 16/06/1947 Cymru Corporation Bus Depot, Casnewydd
Ennill 41-59-5 Gweriniaeth Iwerddon Paddy Roche TKO 7 03/04/1947 Y Deyrnas Unedig Leamington
Ennill 2-1 Gweriniaeth Iwerddon Jock Kerry TKO 5 24/03/1947 Y Deyrnas Unedig Birmingham
Ennill 2-2 Y Deyrnas Unedig Wally With PTS 8 19/03/1947 Y Deyrnas UnedigCaledonian Road Baths, Islington, Llundain
Ennill 2-3 Y Deyrnas Unedig Art Owen TKO 6 24/02/1947 Y Deyrnas Unedig Kettering
Ennill 19-42-6 Y Deyrnas Unedig Ted Barter KO 3 10/02/1947 Y Deyrnas Unedig Oxford Town Hall, Rhydychen
Ennill 2-2-2 Y Deyrnas Unedig Tommy Bostock TKO 4 09/12/1946 Y Deyrnas Unedig Assembly Rooms, Market Harborough,
Ennill 0-1 Y Deyrnas Unedig Joe Burt PTS 8 04/11/1946 Y Deyrnas Unedig Birmingham
Cyfartal 12-3-4 Y Deyrnas Unedig Jim Greaves PTS 8 21/10/1946 Y Deyrnas Unedig Granby Halls, Caerlŷr
Ennill 7-2-1 Y Deyrnas Unedig Jim Hollis PTS 6 24/09/1946 Y Deyrnas Unedig Embassy Rink, Birmingham
Ennill 12-17-2 Y Deyrnas Unedig Harry O'Grady KO 4 04/06/1946 Y Deyrnas Unedig Battery Drill Hall, Rugby
Ennill -- Y Deyrnas Unedig Joe Williams PTS 8 15/04/1946 Y Deyrnas Unedig Birmingham
Ennill 5-4 Y Deyrnas Unedig "Seaman" Tom Smith TKO 5 01/04/1946 Y Deyrnas Unedig Birmingham
Ennill -- Michael Guerin KO 1 26/02/1946 Y Deyrnas Unedig Co-op Hall, Rugby Guerin yn cael ei fwrw allan wedi 1:40 o'r rownd gyntaf.
Ennill 2-3 Y Deyrnas Unedig "Seaman" Tom Smith PTS 6 15/02/1946 Y Deyrnas Unedig Crossington Street Baths, Caerlŷr
Ennill 1-0 Y Deyrnas Unedig Billy Rhodes PTS 6 12/02/1946 Y Deyrnas Unedig Crossington Street Baths, Caerlŷr

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

  • British Pathe News. Ffilm o'r ornest rhwng Williams a Garner ym 1955. Williams yw'r un efo stribed wen ar ei drowsus. Gwelir Mrs Williams, yn eistedd efo'r hyrwyddwr Mike Jacobs (y dyn efo'r sigâr).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]