Humphrey Foulkes
Humphrey Foulkes | |
---|---|
Ganwyd | 1673 Llanefydd |
Bu farw | 1737 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | clerig, hynafiaethydd |
Cysylltir gyda | Edward Lhuyd |
Hynafiaethydd ac ieithydd o Gymru oedd Humphrey Foulkes (1673–1737), a'r mwyaf deallus o gyfoedion Edward Lhuyd yn y Gogledd, yn ôl G. J. Williams.
Roedd "yn gyd-weithiwr gwerthfawr" i Lhuyd, yn ôl B. F. Roberts. Mae’r ohebiaeth yn rhychwantu’r ddegawd a arweiniai at gyhoeddi’r Glossography, sef y gyfrol gyntaf a’r unig gyfrol a ymddangosodd o Archæologia Britannica Lhuyd (1707). Roedd Foulkes yn aelod o’r rhwydwaith o Gymry o dueddfryd ysgolheigaidd y trafododd Lhuyd ei waith â hwy. Yn ei achos ef roedd y pynciau’n cynnwys hanes, hynafiaethau, arferion, a’r Gymraeg, a’i gymwynas arbennig oedd cyfrannu rhestr o ychwanegiadau John Davies at ei Dictionarium Duplex (1632), a gynhwyswyd yn y gyfrol dan y teitl ‘Some Welch words omitted in Dr. Davies’s dictionary’. Darparodd Foulkes hefyd restrau o eiriau Ffrangeg ynghyd â geiriau perthynol mewn Groeg a Lladin, gweithgarwch a gyfrannodd at ddiddordeb cynyddol Lhuyd mewn ieitheg gymharol. Bu Foulkes hefyd o gymorth i Lhuyd fesur ymateb ei ddarllenwyr potensial i’w waith arfaethedig mawr ar hanes, daearyddiaeth, a hanes naturiol Cymru. Roedd adnabyddiaeth bersonol Foulkes o deuluoedd bonheddig gogledd-ddwyrain Cymru o gymorth i Lhuyd wrth iddo geisio cael gafael ar lawysgrifau a llyfrau printiedig yn eu llyfrgelloedd. Ceisiai Foulkes hefyd dangysgrifwyr i waith ymchwil Lhuyd a hefyd i ddwyn costau argraffu’r gyfrol gan gasglu eu cyfraniadau a dosbarthu’r gwaith gorffenedig.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganed Humphrey Foulkes yn 1673 yn fab iau i David Foulkes o deulu Plas Newydd, Cefn Meiriadog, ac Elizabeth ferch John ap Richard o Lanhychan, Sir Ddinbych. Cafodd ei addysg ysgol yng ngholeg Kilkenny, yn Iwerddon, lle’r eisteddodd wrth draed y Parch. Ddr. Edward Hinton, ysgolhaig yn y Clasuron. Aeth ymlaen i Goleg Iesu, Rhydychen lle y graddiodd BA yn 1695 a MA yn 1698. Cafodd ei ystyried ar gyfer swydd fel cynorthwy-ydd i Edward Lhuyd ond roedd wedi ymrwymo i aros yn Eton fel tiwtor preifat a methodd fanteisio ar y cyfle. Cafodd ei ordeinio yn 1700 gan yr esgob a’r hynafiaethydd Humphrey Humphreys gan gael swydd fel offeiriad Llan Sain Siôr yn 1701. Daeth swydd well i’w ran yn 1710 pan wnaethpwyd ef yn rheithor Marchwiail, ger Wrecsam, ac ychwanegwyd at ei incwm pan wnaethpwyd ef yn brebend Llanfair yn 1703, a chael ei apwyntio i segurswydd Llanfor, Meirionnydd, yn 1713. Yn 1720 graddiodd BD a DD. Tebyg iddo briodi tua 1720 gan i ferch, Anne, gael ei geni iddo ef a’i wraig Mary yn 1721 ac un arall, Sidney, yn 1723. Daeth yn ynad heddwch.
Ar ôl marwolaeth Lhuyd (1709) ceisiodd Foulkes gyflenwi’r diffyg traethodau ar bynciau hanesyddol. Mae ei waith wedi cael ei gloddio gan R. S. Suggett ar gyfer A history of magic and witchcraft in Wales, ac fe fyddai ysgolheigion mewn disgyblaethau eraill yn cael budd o ddarllen ei lythyrau a’i draethodau, sydd bron i gyd yn Saesneg, petaent yn cael eu cyhoeddi. Fel Lhuyd tynnodd ar rwydwaith o ohebwyr am wybodaeth. Bwriadau gyhoeddi ei waith ar hynafiaethau Cymru a hefyd gyfrol yn Gymraeg ar bynciau crefyddol ond bu farw yn 1737 cyn cael cyfle i’w gweld drwy’r wasg.
Ceir ochr Lhuyd i’r ohebiaeth yn R. T. Gunther, Life and letters of Edward Lhwyd, rhif xiv yn y gyfres ‘Early Science in Oxford’ (Rhydychen, 1945). Cedwir ochr Foulkes yn Llyfrgell Bodley, Rhydychen, a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Roedd ar un adeg ohebiaeth rhyngddo â Thomas Lloyd (1673?-1734) ar glawr ond ni wyddys ym mhle y mae nawr. Mae dwy gyfrol o’i bapurau yn y Llyfrgell Genedlaethol.
Gweithiau
[golygu | golygu cod]- A Dissertation concerning the Literature of the Antient Britains
- Di-deitl, ar y pwnc 'A Dissertation on the Church'
- Di-deitl, ar y pwnc 'A Dissertation on the Marcher Lordships'
- ‘A Dissertation on the places of Worship, Judicature and Sepulture of the Antient Britains’
- ‘A dissertation on the Welsh laws, and some of the Customs of the Welsh that are mentioned in them; particularly of the Court in the time of the Welsh Princes, especially the Court of Judicature; whereof there never was any Account in English extracted out of the Welsh laws themselves, published in Welsh and Latin by Dr Wotton and the Revd Mr Moses Williams’
- ‘Touching the Antiquity of English and Welsh Poetry’
- 'A Dissertation on the Antient Taverns or Gwîndai in the time of the British Princes'
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- Caryl Davies a Mary Burdett-Jones, "Cyfraniad Humphrey Foulkes at Archæologia Britannica Edward Lhuyd", yn Y Llyfr yng Nghymru 8 (2007), 7-32
- Mary Burdett-Jones, "Humphrey Foulkes: uchelgais heb ei gyflawni", Y Traethodydd (Ionawr 2009): 18-33