Humphrey Humphreys
Gwedd
| Humphrey Humphreys | |
|---|---|
| Ganwyd | 24 Tachwedd 1648 Penrhyndeudraeth |
| Bu farw | 20 Tachwedd 1712 |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | offeiriad Anglicanaidd |
| Swydd | Esgob Henffordd, Esgob Bangor |
| Cysylltir gyda | Cymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristnogol |
Roedd Humphrey Humphreys (24 Tachwedd 1648 - 20 Tachwedd 1712) yn Esgob Bangor rhwng 1689 a 1701, ac yna'n Esgob Henffordd hyd ei farwolaeth.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganed ef yn hen blasty'r Hendre, Penrhyndeudraeth. Roedd Humphreys yn esgob diwygiedig effeithiol ac yn Gymro twymgalon: yn ôl Edward Lhuyd ef oedd Cymro mwyaf ei oes. Roedd yn achyddwr, ysgolhaig a Christion nodedig. Claddwyd ei rieni - Richard Humphreys a Margaret Wynn (o deulu Cesailgyfarch, Penmorfa) ym mynwent hen eglwys Llanfrothen. Bu'n Ddeon Bangor cyn dod yn esgob. Bu farw Humphreys tra'n esgob Henffordd yn 1712.