Hanes Gogledd Iwerddon

Oddi ar Wicipedia
Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon.
Y Parchedig Ian Paisley, cyn-Brif Weinidog Gogledd Iwerddon.

Crewyd Gogledd Iwerddon fel uned wleidyddol yn 1921. Roedd cyfartaledd llawer uwch o Brotestaniaid ac Unoliaethwyr mewn rhai rhannau o’r gogledd nag yn y gweddill o Iwerddon, ac roedd gwrthwynebiad cryf i hunanlywodraeth i Iwerddon ymysg y garfan yma. Edward Carson oedd eu prif arweinydd yn y 1910au.

Fel rhan o’r cytundeb rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r cenedlaetholwyr Gwyddelig yn 1921, cytunwyd i rannu Iwerddon. Daeth 26 sir o Iwerddon yn annibynnol yn 1922 fel Gwladwriaeth Rydd Iwerddon, tra parhaodd chwech sir yn y gogledd-ddwyrain (allan o’r naw sir sy’n ffurfio Wlster) yn rhan o’r Deyrnas Unedig gyda senedd ddatganoledig. Daeth Syr James Craig yn Brif Weinidog.

Dros y blynyddoedd bu trigolion Catholig Gogledd Iwerddon dan anfanteision o ran cael swyddi, cael tai a materion eraill, gyda Protestaniad yn cael eu ffafrio. Newidiwyd ffiniau rhai etholaethau i sicrhau mwyafrifoedd Unoliaethol. O 1929 ymlaen, bu’r brif blaid Unoliaethol, yr Ulster Unionist Party (UUP), mewn grym am hanner can mlynedd.

Yn y 1960au, ceisiodd y Prif Weinidog Terence O'Neill newid rhywfaint ar y system, ond gwrthwynebid hyn gan lawer o aelodau o’i blaid ei hun, megis Ian Paisley. Dechreuwyd y Mudiad Hawliau Sifil gan y cenedlaetholwyr, dan arweiniad Austin Currie, John Hume ac eraill. Yn 1968 bu llawer o ymladd rhwng protestwyr a’r heddlu, a gwaethygodd hyn yn 1969 gyda therfysg yn Derry a Belffast. Gyrrodd Gweinidog Cartref y Deyrnas Unedig, James Callaghan, y fyddin Brydeinig i ddelio a’r helyntion ar 14 Awst 1969.

Datblygodd cyfnod o tua 30 mlynedd o ymladd rhwng y Fyddin Brydeinig, yr IRA a nifer o grwpiau Unoliaethol megis yr UVF, a elwir yn yr Helyntion. Ar 9 Awst 1971, cymerwyd aelodau o’r IRA i’r carchar heb eu rhoi ar brawf. Ar 30 Ionawr 1972, gwnaed y sefyllfa’n waeth gan Bloody Sunday, pan saethwyd 13 o brotestwyr yn farw gan filwyr Prydeinig yn Derry, gydag un arall yn marw o'i glwyfau yn ddiweddarach. Yn 1973 rhoddodd llywodraeth y Deyrnas Unedig y dalaith dan ei llywodraeth uniongyrchol ei hun, gan gau y senedd yn Stormont.

Yn nechrau’r 1990au bu trafodaethau rhwng Gerry Adams, arweinydd Sinn Féin, a John Hume, arweinydd y Social Democratic and Labour Party (SDLP). Daeth arweinydd newydd yr UUP, David Trimble, a’i blaid ef i mewn i drafodaethau rhwng y pleidiau, ac ar 10 Ebrill 1998,arwyddwyd Cytundeb Belffast rhwng wyth plaid, ond heb gynnwys plaid Ian Paisley, y Democratic Unionist Party (DUP). Cynhaliwyd refferendwm, lle cefnogdd yr etholaeth y cytundeb, ac yna etholiad i’r senedd yn Stormont. Daeth David Trimble yn Brif Weinidog, gyda dirprwy arweinydd yr SDLP, Seamus Mallon, yn ddirprwy iddo.

Bu cryn dipyn o anghytuno rhwng y pleidiau, yn enwedig ar y pwnc o ddiarfogi, gyda rhai Unoliaethwyr yn dal nad oedd yr IRA yn cadw at y cytundeb i gael gwared o’u harfau. Am gyfnod, nid oedd y senedd yn Stormont yn weithredol. Yn etholiad Tachwedd 2003 i’r senedd, Sinn Féin a’r DUP a enillodd fwyaf o seddi, gyda’r SDLP a’r UUP yn colli cefnogaeth. Gwelwyd yr un patrwm yn Etholiad Cyffredinol y Deyrnas Unedig 2005; dim ond un sedd a enillodd yr UUP, ac ymddiswyddodd David Trimble fel arweinydd.

Ym mis Hydref, 2006, wedi trafodaethau yn St. Andrews yn yr Alban, cafwyd Cytundeb St Andrews rhwng y pleidiau, yn cynnwys y DUP. Ar 8 Mai 2007 daeth Ian Paisley, arweinydd y DUP, yn Brif Weinidog a Martin McGuinness o Sinn Féin yn Ddirprwy Brif Weinidog.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]